Pobl yn rhoi sbwriel ar y traeth mewn i fag.

Rhaglen hyfforddiant sgiliau ar dir a môr wedi laniso

Cyhoeddwyd : 09/04/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Mae rhaglen beilot newydd i gryfhau sgiliau ledled sectorau tir a môr Cymru wedi’i lansio, i helpu’r sector i gyflawni amcanion bioamrywiaeth a threchu’r argyfwng natur ymhellach.

Y RHAGLEN

Wedi’i gweinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), bydd y Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau ar Dir a Môr yn galluogi pobl i gymryd rhan mewn cyrsiau byr, cyfleoedd hyfforddi a mentrau datblygu sgiliau.

Nod y rhaglen yw mynd i’r afael â’r bylchau mewn sgiliau, gan gynnwys adnabod a mapio rhywogaethau, sgiliau technegol fel Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a sgiliau ymarferol fel gosod perthi. Ar yr un pryd, gobeithir hefyd y bydd y prosiect yn annog darparwyr hyfforddiant i gyflwyno cyrsiau yn y sgiliau gweddol arbenigol hyn, ac i’r ddarpariaeth fod yn parhaus a chynaliadwy.

Cynllun peilot yw hwn a fydd yn rhedeg am 12 mis o Ebrill 2026. Mae’n agored i’r rheini sy’n cael eu cyflogi yn y maes adfer natur mewn mudiadau amrywiol yng Nghymru, fel awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, y sector gwirfoddol, mudiadau amgylcheddol anllywodraethol a pharciau cenedlaethol.

CRYFHAU SGILIAU

Croesawodd Chris Lazo, Pennaeth Partneriaethau Natur Lleol CGGC, lansiad y peilot:

‘Mae’r cynllun peilot hwn yn gam pwysig at gryfhau’r sgiliau a’r capasiti sydd eu hangen i gefnogi adferiad natur ar hyd a lled Cymru. Bydd mwy o fuddsoddiad mewn hyfforddiant ar dir a môr yn helpu’r rheini sydd wedi’u cyflogi yn y sector i ddatblygu’r sgiliau ymarferol pellach sydd eu hangen i weithredu’n ystyrlon dros fioamrywiaeth a gwydnwch hinsawdd.’

Bydd y cynllun peilot hwn hefyd yn cynnwys gwerthusiad i nodi’r sgiliau fydd eu hangen yn y dyfodol a hysbysu dulliau gweithredu hirdymor i ddatblygu’r gweithlu yng Nghymru. Ni ddisgwylir i’r holl anghenion hyfforddi gael eu diwallu, mae’r cynllun peilot hefyd yn cael ei ddefnyddio i weld faint o alw sydd yno.

YMGEISIWCH NAWR

Bydd y set gyntaf o gyrsiau yn canolbwyntio ar hyfforddiant sy’n ddibynnol ar y tymor, yn enwedig adnabod a mapio rhywogaethau, blaenoriaeth i helpu i gyrraedd y targedau 30 x 30. Agorodd y ffenestr ymgeisio yn agor ar 1 Ebrill 2026, a gellir gwneud ceisiadau drwy https://map.wcva.cymru/

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/04/26
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau

Ymunwch ag Arweinwyr Cymdeithasol Cymru i ‘ddadbacio arweinyddiaeth’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/01/26
Categorïau: Cyllid, Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Ffordd syml i gyflogwyr roi yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/11/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad: gall gwasanaethau iechyd a gofal y sector arbed arian cyhoeddus

Darllen mwy