Mae grŵp o bobl yn plannu coeden mewn cae

Rhaglen Gweithredu Ymarferol o dan arweiniad y gymuned

Cyhoeddwyd : 14/06/21 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Yn wyneb Covid-19, daeth pobl a chymunedau i’r adwygyda syniadau a dulliau newydd er mwyn cyflawni pethau. Nawr mae rhaglen weithredu ymarferol yn awyddus i glywed gan grwpiau amrywiol o bobl, sefydliadau a phartneriaethau sydd â syniadau ar sut gall gweithredu o dan arweiniad y gymuned helpu i adeiladu dyfodol tecach, gwyrddach a iachach.

 

 

Ydych chi’n grŵp cymunedol neu’n bartneriaeth draws-sectorsydd â syniadau, gweithgareddau neu ddulliau amrywiol a chynhwysolrydych chi’n awyddus i’w profi? Allwch chi arloesi’n gyflym gyda chymunedaulleol, gan gydweithio ag eraill fel tîm ar draws ffiniau?

Dyma gyfle i gymryd rhan mewn cyfnod cyflym obrofia dysgu, gan ddatblygu syniadau sy’n bodoli yn ogystal ag arbrofi gyda rhainewydd. Byddwch chi’n edrych ar sut mae perthnasoedd lleol yn helpu pethauda i ddigwydd, neu beidio. Bydd yr hyn rydych chi’n ei ddysgu yn helpu llunwyrpolisi i ddeall sut gall strategaeth genedlaethol gefnogi cymunedau i ffynnu.

Bydd gennych brofiad o weithredu cymunedol, byddwchyn awyddus i arbrofi a byddwch yn cydweithio ag eraill eisoes, neu bydd gennychsyniad o sut yr hoffech weithio mewn partneriaeth i gyflawni pethau.Byddwch yn amrywiol ac yn gynhwysol, yn arwain neu’n aelod gweithgar o grŵpcymunedol, ac yn gweithio yn y sector gwirfoddol, statudol neu breifat. Maehyn yn cynnwys tîm bwrdd iechyd neu Awdurdod Lleol sy’n gweithio yn y gymuned, neu fenter neu fusnes lleol cymunedgar sydd â syniadau da

Mae Nesta yn chwilio am dri thîm o bob rhan o Gymru sy’n gallu cymryd rhan yn y rhaglen tri mis strwythuredig gyflym hon. Maen nhw’n hyfforddi, yn cynorthwyo ac yn hwyluso er mwyn profi syniadau yn gyflym yn eich cymuned.

Rydyn ni eisiau dysgu:

  • Sut gall cymunedau a addasodd yn dda i Covid gynnaleu hymdrechion a’u seilwaith
  • Beth sydd ei angen i adeiladu perthnasoedd cynaliadwy,cydweithredol ar draws sectorau sy’n rhannu, yn creu ac yn rhyddhaupŵer – gan roi dinasyddion a chymunedau ‘wrth y llyw’
  • Sut gall pawb mewn cymunedau gael mynediad at weithreducymunedol, cyfrannu ato, cymryd rhan ynddo ac elwa ohono.
  • Sut gellir datblygu a dangos cyd-ddealltwriaeth owerth gweithredu cymunedol

Comisiynwyd y rhaglen gan Gyngor Gweithredu GwirfoddolCymru, a bydd yn gweithio gydag arweinwyr cymunedol i gyflwyno tystiolaethi Lywodraeth Cymru. Mae wedi ei darparu mewn partneriaeth â thîm Canlyniadau Pŵer Pobl Nesta.

Byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio anffurfiol ar Zoom ar y dyddiadau canlynol:

Rhagor o wybodaeth yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/03/25
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Trafodaeth y Senedd yn amlygu effaith cynyddu’r Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy