Pwyllgor yr Amgylchedd yn clywed problemau ynghylch adferiad gwyrdd

Pwyllgor yr Amgylchedd yn clywed problemau ynghylch adferiad gwyrdd

Cyhoeddwyd : 05/02/21 | Categorïau: Dylanwadu |

Gwnaeth Peter Davies, Cadeirydd CGGC, gymryd rhan mewn sesiwn dystiolaeth gyda’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn ddiweddar.

Roedd y Pwyllgor, a oedd yn cynnwys yr Aelodau o’r Senedd Mike Hedges, Neil Hamilton a Janet Finch-Saunders, yn edrych yn benodol ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd, sy’n cynnwys aelodau megis Peter Davies ac sy’n cael ei gadeirio gan Syr David Henshaw. Gwaith y grŵp yw pennu sut i sicrhau adferiad gwyrdd a fydd yn helpu i gyflymu taith Cymru i fod yn economi carbon isel, yn ogystal â dod yn genedl iachach a mwy cyfartal. Dywedodd Syr David wrth y Pwyllgor fod y grŵp yn benderfynol o ddangos prosiectau y gellir eu gwneud yn y tymor byr yn ogystal â’r hirdymor, a’i fod yn bwysig sbarduno pobl, cymunedau a lleoedd i gymryd yr agenda o ddifrif, ynghyd â’r ysgogiadau strategol mawr gan y llywodraeth a sefydliadau eraill.

Trodd y sgwrs at gyllid y sector a grymuso cymunedau. Siaradodd Peter Davies am weithio gyda’i gilydd gan ddilyn dull gweithredu o’r gwaelod i fyny, a dywedodd fod angen harneisio ymateb a arweinir gan y gymuned yn y gwaith adfer. Dywedodd y gall deddfwriaeth helpu mewn rhai meysydd, gan nodi bod CGGC wedi bod yn edrych ar a oes gwersi y gellir eu dysgu o’r Ddeddf Grymuso Cymunedol yn yr Alban er mwyn rhoi mwy o rym i gymunedau. Dadleuodd fod lle i sefydlu cronfa fuddsoddi werdd sy’n gallu cymryd arian tymor byr a’i droi’n etifeddiaeth hirdymor, gan ddweud bod y sector yn wynebu angen parhaus i ymateb i broblemau tymor byr. Dywedodd Syr Henshaw fod arian ar gael os ‘ydych chi’n dechrau chwilio amdano’, gan ddweud bod ffyrdd o ryddhau adnoddau a chael arian cyfatebol amdanynt gan y sector preifat.

Gofynnodd Neil Hamilton Aelod o’r Senedd ynghylch rôl Cyfoeth Naturiol Cymru o ran cefnogi’r sector, gan nodi bod eu hadnoddau eu hunain wedi’u hymestyn i’r eithaf. Dywedodd Syr Henshaw fod CNC yn ceisio newid ei fodel busnes i weithio mwy gydag eraill a dywedodd fod yr agenda hon yn cefnogi cenhadaeth CNC. Dywedodd Peter Davies fod y sector gwirfoddol wedi’i fwrw’n sylweddol, yn enwedig y rheini sy’n dibynnu ar fasnachu a chodi arian, ac amlygodd staff ar ffyrlo gan nodi bod llai o gyfleoedd i wirfoddoli. Dywedodd bod angen gweithio mewn modd creadigol ar draws sectorau, gan ychwanegu bod partneriaethau natur lleol yn bwysig, ond bod angen i Lywodraeth Cymru a chyllidwyr eraill fynd ati mewn modd ehangach i edrych ar sut maen nhw’n mynd i’r afael â’r broblem o ddarparu cymorth ar gyfer y sector. Dywedodd Neil Hamilton fod graddfa’r gweithgarwch sydd ei hangen yn cau cyfranwyr mwy lleol allan yn aml, a bod angen dod â’r mudiadau tameidiog sydd â rôl i’w chwarae at ei gilydd. Tynnodd Peter Davies sylw’r pwyllgor at rôl ddatblygol partneriaethau natur lleol yn cydlynu gwaith ar lefel leol ac yn galluogi gweithredu lleol, a chydnabu’r rôl bwysig y mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn ei chwarae o ran cydlynu ar lefel genedlaethol.

Daeth y sesiwn i ben gyda’r Aelod o’r Senedd Janet Finch-Saunders yn gofyn pa argymhellion y mae’r grŵp wedi’u cyflwyno i’r gweinidog ar gyfer cefnogi mudiadau amgylcheddol ac a yw wedi ystyried y cynnig a gyflwynwyd gan Cyswllt Amgylchedd Cymru i gael rhyw fath o gyllid craidd. Dywedodd Peter Davies fod achos dros edrych ar broblemau cyllid craidd, gan bwysleisio pwysigrwydd y rhwydwaith o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) sydd wedi elwa ar gyllid craidd. Roedd yn cydnabod yr anawsterau i’r llywodraeth o ran cyllid craidd, gan ddweud mai un datrysiad haws fyddai cael modelau cyllid sydd wedi’u llunio’n well, a oedd, yn benodol, yn mynd i’r afael â phroblemau cyllido tymor byr a’r angen cyson am gyllid arloesol. Dadleuodd bod angen edrych yn gyffredinol ar sut mae’r strwythur cyllido yn effeithio ar fudiadau amgylcheddol drwodd draw.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy