Menyw ifanc ar ffon yn gwenu

#PwerIeuenctid yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 03/06/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Ledled Cymru, mae grym pobl ifanc yn gryf. Ar draws rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CTSC) gwelwn bobl ifanc yn camu ymlaen bob dydd er mwyn gwneud eu cymunedau lleol, eu gwlad a’u hamgylchfyd yn llefydd gwell i astudio, gweithio a byw ynddynt.

Cyn y coronafeirws, roedd pobl ifanc yn gyfranwyr gweithgar fel mentoriaid cyfoedion, cyfeillachwyr i bobl agored i niwed, hyfforddwyr chwaraeon, codwyr arian, llysgenhadon, gwirfoddolwyr cadwraeth, eiriolwyr codi ymwybyddiaeth a llawer mwy. Ni adawodd llawer o’r bobl ifanc hyn i’r coronafeirws na’r cyfyngiadau symud eu rhwystro, gan ddod o hyd i ffyrdd mwy arloesol o gefnogi’u cymdogion, eu ffrindiau a’u cymunedau ac o ddangos eu cariad tuag at y blaned.

Dewch i ni gael golwg ar rai o’r pethau a wnaeth pobl ifanc er mwyn bod yno pan oedd eu hangen:

Ond cofiwch ein bod ni hefyd yn dathlu’r cyfraniadau enfawr yr oedd pobl ifanc yn eu gwneud fel gwirfoddolwyr cyn y coronafeirws. Yn yr ŵyl ffilm ar-lein o dan arweiniad pobl ifanc a gynhaliwyd am y tro cyntaf erioed eleni (InUnity), cyflwynodd pobl ifanc o Gymru benbaladr ffilmiau i arddangos yr hyn maen nhw’n ei wneud er mwyn gwneud gwahaniaeth yng Nghymru.

Yn ogystal â hyn, mae gan Gymru rwydwaith gref o Baneli Grantiau Dan Arweiniad Pobl Ifanc sy’n dyrannu cyllid ar gyfer gweithredu cymdeithasol wedi’i arwain gan bobl ifanc ym mhob sir ar draws Cymru. Wrth i ni gydnabod yr hyn mae pobl ifanc wedi’i wneud fel gwirfoddolwyr dros y deuddeg mis diwethaf, rhaid i ni hefyd roi cydnabyddiaeth arbennig i’r holl Baneli Grantiau Dan Arweiniad Pobl Ifanc.

Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, mae cyllid y Grantiau Dan Arweiniad Pobl Ifanc wedi galluogi £238,205 i gael ei ddyrannu ar draws 205 o brosiectau. Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, dyfarnodd 89 o wneuthurwyr grant ifanc y cyllid i’r prosiectau. Bu 1334 yn ychwanegol o bobl ifanc ynghlwm â gweithredu’r prosiectau. Gwych!

I glywed mwy am sut brofiad yw bod ar Banel Grant Dan Arweiniad Pobl Ifanc gwyliwch y ffilm hon gan y panel yn Wrecsam.

Yn 2020/21, mae £118,750 wedi’i ddosrannu ar draws rhwydwaith y Paneli Grant Dan Arweiniad Pobl Ifanc. I ganfod mwy am sut y gallwch chi gael mynediad i’r cyllid hwn cysylltwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol – gweler y manylion isod.

Gwyliwch y ffilm fan hyn i deimlo wedi’ch grymuso gan #GrymIeuenctid; ‘byd cwbl newydd na wyddech am ei fodolaeth.’

CGGC yn cofleidio #PwerIeuenctid

Mae CGGC wedi cofleidio #PwerIeuenctid trwy groesawu pobl ifanc fel Eiriolwyr Gwirfoddoli, cynllun newydd sy’n cael ei beilota er mwyn cefnogi pobl ifanc i gyfrannu’u creadigrwydd a’u hangerdd i dîm gwirfoddoli CGGC. Ym mis Ebrill, croesawodd CGGC Emma ac Iris i’r tîm a byddant yn cyfrannu’n sylweddol at Wythnos Gwirfoddolwyr wrth iddynt gymryd rhan pan fydd gwirfoddolwyr yn cymryd drosodd.    

Mae Iris, un o’r gwirfoddolwyr, hefyd wedi creu ffilm er mwyn amlygu ymrwymiad pobl ifanc i wirfoddoli.

Yn ôl Iris, ‘Ceir nifer o resymau (a mwy eto o resymau) pam fod pobl ifanc yn penderfynu gwirfoddoli, o ddatblygu sgiliau ac ennill profiad gwaith i gysylltu â phobl sy’n meddwl yr un fath â nhw. Mae’r ffilm yn amlygu sut mae pobl ifanc ar draws Cymru yn gwneud gwahaniaeth gyda’i gilydd.’  

Gwyliwch y ffilm fan hyn i deimlo wedi’ch grymuso gan #PwerIeuenctid; ‘byd cwbl newydd na wyddech am ei fodolaeth.’

Eisiau ymrwymo gwirfoddolwyr ifanc?

Fel y gwelsoch uchod, mae pobl ifanc yn dod â llwyth o angerdd, ysgogiad ac egni i’r mudiadau a’r achosion maen nhw’n dewis gwirfoddoli ar eu rhan.

Os carai eich mudiad fanteisio ar hyn, ac os hoffech wybod sut gallwch ymrwymo pobl ifanc yn effeithiol, lawrlwythwch y ‘Siarter Gwirfoddolwyr Ifanc a Gweithredu Cymdeithasol’ . Yn ogystal, cadwch olwg am ein taflen wybodaeth ‘Ymrwymo pobl ifanc fel gwirfoddolwyr’ a gaiff ei hail-lansio’n fuan.

I gael arweiniad lleol ar ddatblygu rolau sy’n addas i wirfoddolwyr ifanc neu am gefnogaeth er mwyn hysbysebu posibiliadau, cysylltwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol – gweler rhestr o fanylion cyswllt yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy