Grŵp amrywiol o wirfoddolwyr yn gweithio ar brosiect awyr agored yn plannu coeden

Pum mlynedd o ariannu’r sector gwirfoddol trwy MAP

Cyhoeddwyd : 07/04/25 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Rydym yn dathlu pumed pen-blwydd ein system Ceisiadau Amlbwrpas (MAP) – dyma sut mae wedi ein helpu i reoli a dosbarthu £130 miliwn o grantiau i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Ym mis Ionawr 2020 lansiodd CGGC ei system Ceisiadau Amlbwrpas i helpu i ddosbarthu arian i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Cynlluniwyd y system i helpu sefydliadau mawr a bach i gael mynediad at gyllid mewn modd cyfeillgar a mwy hylaw.

Roedd MAP yn caniatáu i sefydliadau greu proffil ac uwchlwytho dogfennau safonol a allai fod eu hangen ar draws sawl cais am gyllid i geisio lleihau’r baich gweinyddol o wneud cais am grantiau.

Roedd hefyd yn caniatáu i sefydliadau weld cynnydd ceisiadau cyfredol, gweld cyflwyniadau hanesyddol a chadw i fyny â grantiau CGGC eraill a allai fod yn agored ac o ddiddordeb iddynt.

BETH MAE PUM MLYNEDD O MAP WEDI EIN HELPU I GYFLAWNI?

Ers ei lansio, mae MAP wedi gweld:

  • 3,200 o sefydliadau cofrestredig
  • 4,400 o ddefnyddwyr cofrestredig
  • 3,250 o geisiadau ar draws 17 cynllun a 91 rownd.

Mae hyn i gyd wedi arwain at dros 2,900 o ddyfarniadau sy’n dod i gyfanswm o £130 miliwn mewn grantiau a £18 miliwn mewn arian cyfatebol.

YR HYN RYDYN NI WEDI’I ARIANNU

Drwy MAP rydym wedi ariannu ystod eang o brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i gymunedau yng Nghymru a thu hwnt. Rydym wedi cefnogi mudiadau gwirfoddol i:

  • Delio ag effaith pandemig COVID-19
  • Darparu manteision i Gymru ac Affrica
  • Hyrwyddo a gwella gwirfoddoli yng Nghymru
  • Gweithredu dros eu hamgylchedd lleol
  • Gwneud y mwyaf o’u heffaith a chynyddu eu gwytnwch.

OES ANGEN MAP ARNOCH CHI?

Rydym yn diweddaru MAP yn gyson, i wella profiad y defnyddiwr ac ychwanegu nodweddion newydd. Un o’r newidiadau sydd ar ddod yw ein bod yn edrych ar gynnig tanysgrifiad i’r system i sefydliadau sy’n dosbarthu eu cronfeydd eu hunain.

Bydd hyn yn arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n chwilio am system neu system well i reoli ceisiadau grant.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy, cofrestrwch eich diddordeb.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 03/02/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Gwnewch gais nawr am Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/01/25
Categorïau: Cyllid

Little Lounge – cefnogi’r gymuned leol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/01/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Prosiect Newid y Gêm

Darllen mwy