Mae ein hadroddiad effaith diweddaraf ar Gynllun Grant Cymru ac Affrica yn dangos sut mae prosiectau a gyllidwyd gennym ni’n dod â dysgu, sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr yn ôl i gymunedau ledled Cymru.
Mae Cynllun Grant Cymru ac Affrica yn cynorthwyo partneriaethau rhwng mudiadau yng Nghymru ac Affrica i fynd i’r afael â heriau a rennir, cyfnewid gwybodaeth a chreu buddion yn y ddwy wlad.
PRIF EFFEITHIAU
Yn 2025/26, dyfarnodd y cynllun £297,472 i 15 o brosiectau. Cyflwynodd y prosiectau amrediad o fuddion i bobl, mudiadau a chymunedau ledled Cymru.
- Dysgu byd-eang i blant – Mae 652 o blant ysgol yng Nghymru wedi cysylltu â chyfleoedd dysgu byd-eang, gan ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, gwydnwch a sgiliau dinasyddiaeth fyd-eang i gefnogi eu bywydau a’u gyrfaoedd yng Nghymru yn y dyfodol.
- Sgiliau a gallu – mae 337 o bobl yng Nghymru wedi datblygu eu sgiliau drwy ddysgu, gwirfoddoli a chydweithrediad rhyngwladol, gan gryfhau ymarfer proffesiynol, arweinyddiaeth gymunedol a gallu lleol.
- Cysylltiadau rhyngwladol gwerthfawr – Mae 24 o bartneriaethau rhwng Cymru ac Affrica wedi cysylltu mudiadau a chymunedau yng Nghymru â gwybodaeth, arbenigedd a chyfleoedd na allai fod wedi’u cael fel arall.
UCHAFBWYNTIAU’R PROSIECT
Mae detholiad o brosiectau sy’n cael sylw yn yr adroddiad yn dangos effaith amrywiol y cynllun ledled Cymru.
Mae *Circular Economy Mid Wales yn cysylltu ysgolion yn Sir Drefaldwyn ac Uganda i edrych ar yr heriau hinsawdd a rennir a ffyrdd ymarferol o leihau gwastraff.
Mae *Hands Around the World yn helpu disgyblion yn Ysgol Gynradd Osbaston i ddysgu gan ysgol yn Kenya, gan ddyfnhau eu dealltwriaeth o anabledd, cydraddoldeb a chynhwysiant.
Gwnaeth ymweliad gan weithwyr iechyd proffesiynol o Tanzania helpu Tîm Hollt Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gryfhau llwybrau clinigol, cyfathrebiad, arweinyddiaeth ac ymchwil yng Nghymru.
Mae prosiect sychu bwyd gydag ynni’r haul *Love Zimbabwe wedi cyrraedd mwy na 150 o bobl yn Y Fenni a’u haddysgu am ddiogelwch bwyd a chadw bwyd mewn modd cynaliadwy.
RHAGOR O WYBODAETH
Gyda’i gilydd, mae’r prosiectau hyn yn dangos sut gall partneriaethau droi dysgu rhyngwladol yn fuddion ymarferol i Gymru.
Gallwch ddarllen yr adroddiad effaith llawn a chael rhagor o wybodaeth am y cynllun ar ein tudalen we Cymru ac Affrica.