Cyfrannodd cyfraniadau prosiectau Cynhwysiant Gweithredol yng Ngogledd Cymru yn sylweddol at ddigwyddiad ar-lein a drefnwyd gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru ac a gefnogwyd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru fis diwethaf.
Amcan y digwyddiad oedd trafod yr heriau economaidd sy’n wynebu’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat yng ngoleuni pandemig COVID-19.
Dangoswyd cyflwyniadau gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych a TAPE Community Music and Film, sydd ill dau yn rhedeg prosiectau Cynhwysiant Gweithredol, fel rhan o’r digwyddiad.
Pobl ym myd gwaith
Siaradodd CAB Sir Ddinbych ynglŷn â’u prosiect ‘Gweithio@CyngorarBopeth’ (‘Working@CitizensAdvice’), sy’n anelu at gyflogi 48 o gyfranogwyr sydd wedi bod heb waith am gyfnod hir, mewn lleoliadau gyda Chanolfannau Cyngor ar Bopeth ar hyd a lled Gogledd-orllewin Cymru.
Hyd yn oed o ystyried y problemau a achoswyd gan y pandemig, maen nhw wedi llwyddo hyd yma i symud eu hyfforddiant ar-lein ac ymgysylltu ag 14 o gyfranogwyr, gan gynnwys un stori lwyddiant arbennig yn ymwneud â ffoadur o Syria.
Roedd yntau wedi graddio fel newyddiadurwr cyn ail-hyfforddi fel saer maen a daeth â phortffolio ffotograffiaeth drawiadol gydag ef i’r DU. Llwyddodd CAB Sir Ddinbych i’w leoli gyda chwmni lleol, lle llwyddodd i sicrhau gwaith parhaol.
Yn ôl cyfranogwr arall: ‘Mae helpu pobl wedi fy helpu i i ddod o hyd i bwrpas. Mae dod o hyd i swydd lawn amser wedi rhoi hwb i fy hyder ac wedi gwneud i mi deimlo cymaint yn well.’
Angen yn magu creadigrwydd
Hefyd yn cyflwyno roedd TAPE Community Music and Film ym Mae Colwyn – mae eu prosiect Cynhwysiant Gweithredol nhw, ‘Gwreichion Creadigol’, yn galluogi cyfranogwyr i fynegi eu hochr greadigol wrth iddyn nhw ennyn sgiliau yn y gweithle trwy ffotograffiaeth, creu ffilmiau, celf, ysgrifennu creadigol a mwy.
Daeth cyfranogwyr at ei gilydd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud i ddysgu gyda’i gilydd yn rhithiol, gan lwyddo i roi prosiect ffilm at ei gilydd pan nad oedd modd iddyn nhw fod yn yr un lle, hyd yn oed. Bu’n brofiad y cymerodd pobl ato’n fwy parod o lawer na’r disgwyl.
Yn ôl Andy o TAPE ‘Roedden ni braidd yn nerfus gan nad oedden ni’n siŵr a fyddai dull holistig TAPE o greu ffilmiau yn trosglwyddo ar-lein. Ond rwy’n hapus i ddweud iddo fod yn llwyddiant ysgubol – fe anghofiodd pobl yn gyflym am y gwe-gamerâu a’n gweld ni i gyd fel un grŵp mewn ystafell.’
Gan y bydd effeithiau’r pandemig yn parhau i ddylanwadu ar swyddi ym mhob sector, bydd rôl rhaglenni cyflogadwyedd megis y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn hanfodol er mwyn cynorthwyo pobl yng ngogledd Cymru i gynnal mynediad i’r farchnad swyddi, yn ogystal â gwella’u llesiant ar adeg pan fo mwy o angen am hynny nag erioed.
Rheolir y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol gan CGGC, gyda chefnogaeth cyllid gan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd. Ei bwriad yw lleihau anweithgarwch economaidd yng Nghymru a gwella cyflogadwyedd pobl ddifreintiedig. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â’r mathau o brosiectau y gallwch eu cynnal yma.