Mae menyw a dau plentyn yn eistedd ar lan clogwyn yn edrych dros draeth

Prosiect newydd sy’n cynnig cymorth hyfforddiant am ddim i fudiadau treftadaeth

Cyhoeddwyd : 25/10/21 | Categorïau: Newyddion |

Gall mudiadau treftadaeth neu fudiadau sy’n cynnal prosiect treftadaeth yng Nghymru bellach gyflwyno cais am gymorth hyfforddiant trwy brosiect newydd Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae CGGC yn cynnal y prosiect newydd hwn mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru.

Caiff y prosiect hefyd ei gefnogi gan y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Anabledd Cymru a Pride Cymru.

Bydd prosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion yn rhoi cymorth i fudiadau treftadaeth micro, bach, a chanolig neu fudiadau sy’n cynnal prosiect treftadaeth ehangu eu ffrydiau incwm a chyrraedd cynulleidfaoedd a phobl newydd.

Bydd dwy garfan hyfforddiant ar gyfer oddeutu 12 o fudiadau ac mae’r ffenestr cyflwyno cais bellach ar agor tan 13 Rhagfyr 2021.

BETH SY’N CAEL EI GYNNIG?

Mae cymorth ar gael rhwng mis Hydref 2021 a mis Mehefin 2023 ac mae’n cynnwys:

  1. Pedwar diwrnod o hyfforddiant gweithredol trylwyr am ddim i 25 o fudiadau er mwyn cynyddu gwybodaeth a hyder mewn nifer o bynciau sy’n cyfrannu at wydnwch y mudiad, gan gynnwys llywodraethu, cynlluniau busnes a chynhyrchu incwm
  2. Rhaglen hyfforddi agored am ddim/rhad a fydd yn cael ei chyflwyno’n rhannol gan Ganolfan Cydweithredol Cymru
  3. Gweithgareddau ehangu rhwydwaith sydd wedi’u dylunio i helpu mudiadau i wneud mwy o waith neu ddechrau ar waith i ddenu cynulleidfaoedd a phobl fwy amrywiol i’w mudiadau
  4. Grantiau cymunedol i fudiadau sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyfforddi neu ehangu rhwydwaith, i’w galluogi i fwrw ati â’r camau gweithredu a nodwyd o fewn y ffrydiau eraill
  5. Datblygu pecyn cymorth o ganllawiau ac adnoddau i helpu mudiadau treftadaeth i gynyddu amrywiaeth o fewn eu mudiadau

I BWY MAE PROSIECT CATALYDD CYMRU: EHANGU GORWELION?

Mae’r gweithgareddau ar gael i fudiadau treftadaeth a mudiadau sy’n cynnal prosiectau treftadaeth yng Nghymru.

Yn unol â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae ein diffiniad o ‘dreftadaeth’ yn cynnwys y canlynol:

  • Adeiladau a henebion hanesyddol
  • Treftadaeth gymunedol
  • Diwylliannau ac Atgofion
  • Tirweddau a threftadaeth naturiol
  • Diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth
  • Casgliadau (gan gynnwys Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd, ac Archifdai)

RHAGOR O WYBODAETH A CHYFLWYNO CAIS

Am ragor o wybodaeth am y prosiect a sut i gyflwyno cais am gymorth hyfforddiant ewch i’n tudalen Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/11/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Y diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu | Newyddion |

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Allwch chi helpu i stopio’r effaith gynyddol?

Darllen mwy