Person ifanc yn sefyll ac yn gwenu wrth ymyl arwydd Prosiect Newid y Gêm yn dweud croeso

Prosiect Newid y Gêm

Cyhoeddwyd : 22/01/25 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Gwnaeth Grant Twf Sefydliadol Comic Relief alluogi Prosiect Newid y Gêm i ddatblygu datganiad cenhadaeth newydd, strategaeth codi arian tair blynedd a gweledigaeth eglur ar gyfer y dyfodol.

Mae Prosiect Newid y Gêm, cwmni buddiannau cymunedol ym Mhowys, yn ymrwymedig i wella hyder, lles a dyheadau pobl ifanc drwy weithgareddau awyr agored diddorol. Gyda gweledigaeth i ddod yn ganolfan ragoriaeth flaenllaw, mae’n cynorthwyo pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol i wella eu cyfleoedd mewn bywyd.

CEFNDIR Y PROSIECT

Ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid lleol, roedd yn amlwg bod fwyfwy o alw am gyfleoedd lleoliad a oedd yn cynnig profiad gwaith, sgiliau a chymwysterau galwedigaethol i bobl ifanc. Fel yr unig ddarparwr dysgu strwythuredig y tu allan i’r dosbarth ym Mhowys, sylweddolodd Prosiect Newid y Gêm fod yn rhaid iddynt dyfu a dod yn fwy cynaliadwy er mwyn diwallu anghenion y gymuned.

Gwnaeth y grant alluogi’r mudiad i benodi Ymgynghorydd Codi Arian a Chynhyrchu Incwm, a helpodd i ddatblygu datganiad cenhadaeth newydd a strategaeth codi arian tair blynedd. Gyda chymorth pwyllgor cynhyrchu incwm a chodi arian newydd-sefydledig, aeth yr ymgynghorydd ati i weithio ar nifer o gynigion cyllido er mwyn cael mwy o incwm i’r mudiad.

AR Y FFORDD I GYNALIADWYEDD

Gwnaeth y prosiect gais i gyllidwyr amrywiol, a thrwy hyn, nodwyd yr angen am fonitro a gwerthuso gwell, gan arwain at ddatblygu system gryfach i ddangos effaith y mudiad. Gwnaethant hefyd wella eu rheolaeth ariannol, adnoddau dynol a’u llywodraethiant, gan hybu’r gobeithion cyllido ar gyfer y dyfodol.

Gan weithio gydag ymgynghorydd marchnata, sefydlodd y mudiad system farchnata LinkedIn a thudalen e-fasnach ar gyfer gwerthu nwyddau. Gwnaeth y grant hefyd gyllido hyfforddiant i staff ar godi arian, nawdd corfforaethol a chyfryngau cymdeithasol, gan helpu i gynhyrchu dros £91,000 o incwm yn ystod y prosiect.

PARTNERU Â BUSNESAU LLEOL

Enillodd y mudiad y Wobr Menter Gymdeithasol/Elusen yng Ngwobrau Busnes Powys 2022, a oedd yn dyst i’w llwyddiant. Gwnaeth hyn feithrin cysylltiadau â busnesau lleol fel Moorland, cyflenwr deunyddiau gosod pren.

‘Roedden ni, fel busnes, eisiau enwebu elusen y gallem ei helpu’n ariannol a thrwy gynnig sgiliau ein busnes’, meddai Rheolwr adnoddau dynol Moorland. Gwnaeth y bartneriaeth ddarparu cymorth ariannol a chyfleoedd gwirfoddoli i gyflogeion, a oedd o fudd i’r mudiad a staff y cwmni.

Gwnaeth Cwmni Buddiannau Cymunedol Prosiect Newid y Gêm gyrraedd y rownd derfynol yn #GwobrauElusennauCymru 2024. Yn 2023/24, gwnaeth ei dîm ymroddedig rymuso dros 107 o bobl ifanc a oedd yn wynebu heriau iechyd meddwl, a gwnaeth hyn y prosiect yn enwebai amlwg yng nghategori Mudiad y flwyddyn.

STORI POPPY

Ymunodd Poppy â Phrosiect Newid y Gêm yn 2022 ar ôl cael anhawster ag ynysigrwydd a gorbryder yn ystod y cyfnod clo, a oedd wedi peri iddi osgoi ysgol ac aros yn ei hystafell.

Roedd yn anodd i Poppy ar y dechrau, ond yn fuan iawn, canfu ei bod wrth ei bodd yn merlota a dechreuodd wneud ffrindiau newydd. Gwnaeth teimlo ei bod yn cael ei chynorthwyo a bod rhywun yn gwrando arni ei helpu i fagu hyder, rheoli ei gorbryder ac edrych ymlaen at gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

Bellach yn fentor cymheiriaid, mae Poppy yn helpu pobl eraill wrth barhau i ddatblygu ei sgiliau. Mae’n dweud bod ei gorbryder bron â diflannu, mae’n teimlo’n hapusach ac mae’n gyffrous i ddechrau coleg a chynllunio ei dyfodol.

Poppy yn dal oen ac yn gwenu

RHAGOR O WYBODAETH

I gael rhagor o wybodaeth am Grant Twf Sefydliadol Comic Relief, ewch i’n gwefan.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 03/02/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Gwnewch gais nawr am Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/01/25
Categorïau: Cyllid

Little Lounge – cefnogi’r gymuned leol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy