Mae prosiect a redir gan elusennau ac ymgyrchwyr gwrth-hiliol yn chwarae rôl allweddol yn nod Llywodraeth Cymru i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030 drwy helpu ysgolion i addysgu dysgwyr am sut i herio hiliaeth.
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd yw un o’r ysgolion sy’n ymwneud â’r prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL), sy’n rhan allweddol o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Lansiwyd diweddariad o’r cynllun yn gynharach yr wythnos hon gan Lywodraeth Cymru.
SUT MAE’R PROSIECT YN HELPU
Mae DARPL wedi rhoi adnoddau, sesiynau dysgu proffesiynol ac arweiniad i filoedd o addysgwyr ledled Cymru, gan gael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr. Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed wedi cael budd o’r prosiect, a’r athrawon a’r dysgwyr wedi datblygu dealltwriaeth ddyfnach o hiliaeth a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ysgol wrth-hiliol.
Mae’r ysgol wedi cyflwyno archwiliad dan arweiniad disgyblion sy’n cynnwys cynllun gweithredu i fynd i’r afael â hiliaeth. I gefnogi’r wythnos wrth-hiliaeth, mae’r ysgol wedi annog gweithgarwch ar draws pob maes pwnc, gan gynnwys blasu bwyd a gwasanaethau.
DIWEDDARU’R CYNLLUN GWEITHREDU CYMRU WRTH-HILIOL
Lansiwyd y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru yn 2022 i fynd i’r afael â hiliaeth systemig ac anghydraddoldebau hiliol yng Nghymru, a’u diddymu.
Mae’r cynllun wedi cyflawni nifer o gerrig milltir allweddol ers ei lansio, ac mae ehangu prosiect DARPL wedi bod yn allweddol i hynny.
Mae’r cynllun diwygiedig yn adlewyrchu’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau neu heriau a wynebwyd, ac mae wedi’i lywio gan adborth gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol am y materion sy’n effeithio arnyn nhw.
Mae’r diweddariad hefyd yn cyflwyno nifer o newidiadau, gan gynnwys camau gweithredu ac amserlenni newydd, a rolau uwch i bartneriaid arwain a darparu. Mae’r bennod ar arweinyddiaeth, er enghraifft, wedi’i chryfhau’n sylweddol i bwysleisio pwysigrwydd arweinyddiaeth wrth-hiliol. Mae mwy o ffocws hefyd ar fynd i’r afael ag anghenion penodol grwpiau fel Sipsiwn, Roma, a Theithwyr.
Dywedodd dirprwy bennaeth Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, Abigail Williams, sy’n arwain ar fenter DARPL:
‘Fel ysgol, rydyn ni wedi datblygu dealltwriaeth o hiliaeth sefydliadol a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ysgol wrth-hiliol.
‘Rydyn ni’n creu lleoliad gwirioneddol wrth-hiliol lle mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel i rannu, lle maen nhw’n hyderus y bydd pobl yn gwrando arnyn nhw ac yn eu credu, fel bod eu profiad bob dydd yn un gwell.’
Dywedodd Prif Weithredwr CGGC, Lindsay Cordery-Bruce:
‘Nid yw lladd ar hiliaeth yn ddigon, mae gennym daith i fynd arni i ddod yn wirioneddol wrth-hiliol yng Nghymru.
‘Mae’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol diwygiedig yn gam pwysig yn y cyfeiriad iawn i’n helpu ni i ddifa hiliaeth. D’oes dim amser mwyach am eiriau neis a bwriadau da – mae angen i ni fynnu ar weithredu uniongyrchol’.
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:
‘Mae ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol beiddgar ac uchelgeisiol yn nodi ein hymrwymiad fel llywodraeth i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb systemig a strwythurol o ran hil, a chymryd camau gwrth-hiliol pendant.
‘Rydyn ni wedi gwneud cynnydd mewn nifer o feysydd ers lansio’r cynllun yn 2022, ac mae’r prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth yn enghraifft wych o hyn, ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod gyda ni ffordd bell i fynd er mwyn cyflawni ein nodau.
‘Mae anghydraddoldeb a hiliaeth yn parhau i gael eu teimlo’n ddwfn iawn gan gymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru. Gwyddom fod llawer o achosion o gasineb hiliol a bygythiadau wedi digwydd yn dilyn yr anhrefn treisgar diweddar yn Lloegr a’r gwrthdaro sy’n parhau yn y Dwyrain Canol.
‘Mae pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn gofyn, felly, am sicrwydd ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i Gymru wrth-hiliol, ac y byddan nhw’n gweld gwelliannau yn eu bywydau bob dydd. Mae’r cynllun diwygiedig yn rhan bwysig o ddarparu’r sicrwydd hwn.
‘Ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae gan bawb, ar hyd a lled Cymru, rôl bwysig i’w chwarae. Drwy weithio gyda’n gilydd, fe allwn ni ymwreiddio gwrth-hiliaeth ym mhopeth a wnawn, i greu Cymru wirioneddol wrth-hiliol, Cymru y gallwn ni i gyd fod yn falch o fod yn perthyn iddi, a lle gall pawb ohonon ni ffynnu.‘
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod wedi profi troseddau casineb, gallwch ei adrodd i’r heddlu neu i Ganolfan Cymorth Casineb Cymru a redir gan Cymorth i Ddioddefwyr. Ffoniwch 0300 3031 982 neu anfonwch e-bost i hate.crimewales@victimsupport.org.uk.
Gellir dod o hyd i’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol diwygiedig ar wefan Llywodraeth Cymru.