Gwnaeth Prosiect Arloesi Cymunedol CGGC a Chymorth Canser Cymru Macmillan ddod i ben yn ddiweddar gyda digwyddiad dathlu yng Nghaerdydd.
Nod y Prosiect Arloesi Cymunedol oedd darganfod pam nad yw cymunedau penodol yn ymhél yn llawn â gwasanaethau canser ac awgrymu ffyrdd o gael gwared â’r rhwystrau i gysylltu. Amlygodd y digwyddiad dathlu diweddar yng Nghaerdydd y gwaith eithriadol a gafodd ei wneud dros oes y Prosiect.
TAITH Y PROSIECT
Rhannodd Eleanor Jones, Rheolwr Llywodraethu CGGC, daith y prosiect â’r mynychwyr, gan bwysleisio pwysigrwydd dysgu o brofiadau bywyd pobl, y rhai positif a negyddol. Nododd nad oedd llawer o unigolion yn ymwybodol o faint o wasanaethau cymorth canser a oedd ar gael yng Nghymru, na’r amrywiaeth o gymorth a oedd ar gael, a phwysleisiodd fod angen amlygu’r adnoddau sydd ar gael yn well.
Gwnaeth Eleanor hefyd siarad am sut mae rhai pobl yn teimlo fel petaent wedi’u gadael oherwydd y diffyg cydnabyddiaeth o anghenion diwylliannol ychwanegol ac ehangach. Pwysleision fod unigolion a effeithir gan ganser, a’u hanwyliaid, angen cymorth gan ffynonellau dibynadwy mewn lleoliadau cysurus. Cafodd Rhaglen Hyrwyddwyr Gwybodaeth Macmillan ei chreu mewn ymateb i hyn i roi arweiniad i gymunedau amrywiol ar draws dwy ardal bwrdd iechyd ar y gwasanaethau a oedd ar gael. Mae hyfforddiant ar waith ar hyn o bryd i ehangu’r rhaglen hon ledled y wlad.
PRIF GYFLAWNIADAU
Mae’r prif gyflawniadau ychwanegol o’r prosiect yn cynnwys:
- Hysbysebu mwy clir i helpu pobl i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd ar gael.
- Cymorth gwell i’r rheini sy’n ddigartref a’r rheini sy’n wynebu rhwystrau ieithyddol.
- Mwy o gymorth i garcharorion, gan gynnwys sicrhau bod gan garcharorion fynediad i linell gymorth Macmillan a rhoi rhifau staff gwybodaeth a chymorth canser i dimau nyrsio mewn carchardai ledled Cymru.
- Datblygu ap Insight i bobl ag anawsterau dysgu a fydd yn caniatáu iddynt gael help a chymorth. Mae oedi wedi bod yn y gwaith hwn, ond dylai lansio’n fuan.
- Mae adroddiad prosiect terfynol wedi’i gyflwyno i Macmillan, a bydd cynllun hyfforddi Hyrwyddwyr Arloesi Cymunedol Macmillan yn parhau i gael ei gynnig gan CGGC.
Y STRATEGAETH NEWYDD
Cyflwynodd Johanna Davies, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC, anerchiad o ddiolch i Eleanor, Macmillan, bwrdd cynghori’r prosiect a’r cyfranogwyr, a dilynwyd hyn gan sylwadau gan Dawn Cooper o Macmillan. Tynnodd Dawn sylw at y ffaith bod 20,000 o ddiagnosisau canser newydd yng Nghymru bob blwyddyn, a bod oddeutu 116,000 o bobl yn y wlad yn byw â chanser ar hyn o bryd. Cyflwynodd Strategaeth Gofal Canser newydd Macmillan, sy’n ceisio:
- Cyrraedd pawb, gan ganolbwyntio ar y rheini sydd angen y cymorth mwyaf
- Lleihau anghydraddoldebau iechyd o fewn triniaethau a gofal canser
- Cynorthwyo’r rheini â chanser a chyflyrau hirdymor eraill
- Lleihau’r amrywiaeth mewn triniaethau a gofal canser
*Gweledigaeth Macmillan yw i wneud popeth posibl i gael y cymorth gorau i bob unigolyn heddiw a cheisio ennyn chwyldro mewn gofal canser ar gyfer y dyfodol.
AM FWY O WYBODAETH
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch Prosiect Arloesi Cymunedol Macmillan, anfonwch e-bost i iechydagofal@wcva.cymru. Am fwy o wybodaeth am waith CGGC yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.
*Saesneg yn unig