llun o fenywod yn siarad nesaf i ffenest

Prosesau rhyddhau cleifion o ysbytai a’r economi gylchol – dweud eich dweud

Cyhoeddwyd : 02/03/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Rydym yn bwriadu ymateb i ymgynghoriadau ar brosesau rhyddhau cleifion o ysbytai, a’r economi gylchol – ac rydym eisiau eich barn.

Dyma sut gallwch gael CGGC i wrando ar eich safbwyntiau a chael y rhain wedi’u cynnwys yn ein hymatebion i’r ddau ymgynghoriad isod.

Proses rhyddhau o’r ysbyty

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn edrych ar hyn. Yn benodol, hoffem glywed gennych ynghylch y canlynol:

  • Beth ydych chi’n credu yw’r rhwystrau i gyfathrebu a chydweithio effeithiol ymhlith cyrff iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector, a sut gellir goresgyn y rhwystrau hyn
  • Sut gall datrysiadau a mentrau rhyddhau effeithiol ac ymarferol gael eu nodi a’u prif ffrydio

Os oes gennych unrhyw dystiolaeth yr hoffech chi i CGGC ei hystyried yn ei ymateb i’r ymgynghoriad hwn, anfonwch e-bost at David Cook, Swyddog Polisi CGGC, ar dcook@wc001.ddtestsite.co.uk erbyn 1 Ebrill 2020.

Yr economi gylchol

Mae Llywodraeth Cymru’n edrych ar sut gall economi Cymru osgoi gwastraff ac ailddefnyddio deunyddiau lle bynnag y bo’n bosibl. Hoffem glywed gennych ynghylch y canlynol:

  • Sut gall caffael ddod yn fwy effeithlon ar adnoddau? A ddylai hwn fod yn faes blaenoriaethol hyd yn oed?
  • Sut gall Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ymrwymo’n fwy i’r maes hwn?
  • Sut gall cymunedau ddod at ei gilydd i ddatblygu mentrau sy’n lleihau gwastraff?
  • Sut gallai Llywodraeth Cymru weithio’n rhanbarthol i sicrhau bod penderfyniadau effeithlon o ran adnoddau yn cael eu gwneud?
  • Sut gallwn ni sicrhau nad yw’r sector cyhoeddus yn prynu cynhyrchion sy’n cael effaith niweidiol ar hawliau dynol neu amgylchedd gwledydd eraill?
  • Eich barn ar dreth neu dâl ar gwpanau neu gynwysyddion bwyd plastig untro.
  • Hyrwyddo a datblygu seilweithiau cymunedol sy’n helpu pobl i leihau gwastraff.

Os oes gennych unrhyw dystiolaeth yr hoffech chi i CGGC ei hystyried yn ei ymateb i’r ymgynghoriad hwn, anfonwch e-bost at David Cook, Swyddog Polisi CGGC, ar dcook@wc001.ddtestsite.co.uk erbyn dydd Gwener 13 Mawrth 2020.

A chofiwch gadw llygad ar ein tudalen ymgynghoriadau am gyfleoedd eraill i ddweud eich dweud ar y pynciau sydd o bwys i chi.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/02/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Cynllun gweithlu yn chwilio am fewnwelediad i rôl gwirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd meddwl

Darllen mwy