Grŵp o bobl mewn cyfarfod cymunedol yn rhannu barn

Proses adolygu diogelu newydd i Gymru

Cyhoeddwyd : 05/06/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ganllawiau statudol drafft ar gyfer proses Adolygiad Sengl Unedig o Ddiogelu (ADUS) i Gymru.

Mae’r Adolygiad Sengl Unedig o Ddiogelu (ADUS) yn cyflwyno fframwaith ar gyfer sut dylai Byrddau Diogelu Rhanbarthol weithio gyda Phartneriaid Diogelu Cymunedol a phartneriaid eraill yn yr ardal, fel Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddiogelu pobl rhag niwed – gan rannu gwersi a sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau llesiant pob unigolyn yng Nghymru.

Y BROSES

Nod y broses hon yw symleiddio’r dirwedd adolygu yng Nghymru drwy gyfuno prosesau’r Adolygiad Ymarfer Oedolion, yr Adolygiad Ymarfer Plant, Adolygiad o Laddiadau Iechyd Meddwl, Adolygiad o Laddiadau Trais Domestig a’r Adolygiad o Laddiadau gydag Arfau Ymosodol.

Bydd yr ADUS yn cael gwared â’r angen i deuluoedd gymryd rhan yn y gylchred feichus a thrawmatig o roi gwybodaeth ac aros am gasgliadau nifer o adolygiadau.

Bydd y canllawiau statudol yn disodli Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 2 (Adolygiadau Ymarfer Plant) a Chyfrol 3 (Adolygiadau Ymarfer Oedolion). O ganlyniad, bydd unrhyw newidiadau canlyniadol i Gyfrol 1 (Cyflwyniad a Throsolwg) yn adlewyrchu hyn.

Yn ôl Llywodraeth Cymru:Mae’r ADUS yn enghraifft unigryw ac arloesol o’r ffordd yr aethom ati, drwy gydweithio ar draws ffiniau gwleidyddol, sefydliadol a daearyddol, i fynd i’r afael â phroblem gymhleth sy’n perthyn inni i gyd a chreu datrysiad symlach i’w ddefnyddio ar y cyd’. Mae mwy na 190 o randdeiliaid wedi bod yn rhan o’r gwaith o gynllunio a chreu’r ADUS, ac mae pob un ohonynt wedi gwneud yn siŵr bod y dioddefwr, y teulu a’r gymuned yn ganolog i’r newid hwn. Mae’r trawsnewidiad hwn yn ategu ein hethos o gael un gwasanaeth cyhoeddus, mae’n creu diwylliant cryfach o atebolrwydd, ac arweinyddiaeth wasgaredig syn grymuso pobl i rannu dysgu.’

YMATEB I’R YMGYNGHORIAD

Efallai yr hoffai mudiadau gwirfoddol sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi’u niweidio a’u teuluoedd, neu sy’n gysylltiedig â gweithdrefnau diogelu o ran unrhyw un o’r grwpiau uchod, ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Dolenni

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 9 Mehefin 2023.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 26/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwobr i bartner presgripsiynu cymdeithasol CGGC

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Chwilio am syniad Nadoligaidd syml i godi arian?

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 15/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gyrru cynhwysiant ac amrywiaeth mewn chwaraeon – ein taith o gwmpas gogledd Cymru

Darllen mwy