Sylfeini ar gyfer y Trydydd Sector (F4S3)

Sylfeini ar gyfer y Trydydd Sector (F4S3)

Prosiect Ewropeaidd yw ‘F4S3’ sy’n ceisio uwchsgilio cyflogeion newydd yn y sector gwirfoddol drwy ddatblygu rhaglen hyfforddi gynefino lefel mynediad. 

Mae CGGC yn gweithio gyda phartneriaid ledled Ewrop i hwyluso’r llwybr i gyflogeion newydd mewn mudiadau gwirfoddol fel rhan o brosiect ‘Sylfeini ar gyfer y Trydydd Sector’ (F4S3) Erasmus+.

Mae’r sector gwirfoddol Ewropeaidd yn sector economaidd mawr gydag oddeutu 13 miliwn o weithwyr cyfwerth ag amser llawn, ynghyd ag 16 miliwn o wirfoddolwyr. Mae’r economi Ewropeaidd a llawer o’n cymorth cymdeithasol a dinesig ni’n dibynnu’n fawr ar sector iach sydd â’r gallu i ddenu a chadw dawn o ansawdd uchel.

Mae llawer o’r staff sy’n gweithio yn y sector ar gontractau tymor byr, yn cael cyflogau isel a chydag ychydig iawn o bosibiliadau i uwchsgilio’u hunain. Mae prosiect F4S3 yn mynd i’r afael â’r angen i drechu trosiant staff, lludded a llwybrau aneglur i ddatblygu gyrfa a symudedd o fewn y sector.

HYFORDDIANT I DDECHREUWYR NEWYDD YN Y SECTOR GWIRFODDOL

Mae F4S3 yn darparu rhaglen gynefino lefel mynediad ar gyfer staff sy’n dod i mewn i’r sector gwirfoddol. Bydd y rhaglen hon yn gyflwyniad i’r sector, gyda phwyslais ar ddatblygiad personol a sgiliau craidd sy’n benodol i’r sector. Drwy ddefnyddio bathodynnau digidol, gallwn ni ddilysu’r sgiliau a enillwyd gan gyfranogwyr ar y rhaglen a chaniatáu iddyn nhw gael eu defnyddio ar gyfer datblygiad personol a datblygiad gyrfa.

Erbyn diwedd y prosiect, bydd cynllun trosglwyddo’n cael ei lunio er mwyn sicrhau y gall y deunydd gael ei ddefnyddio ar ôl i’r prosiect ddod i ben.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno yng ngwlad pob partner gan y partner lleol. Bydd y rhaglen yn defnyddio dull dysgu cyfunol, gyda dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Bydd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar y dysgwr a dadansoddiad o anghenion hyfforddi’n cael ei gynnal cyn yr hyfforddiant. 

Y GWAHANIAETH RYDYN NI’N GOBEITHIO EI WNEUD

Bydd buddion y prosiect fel a ganlyn:

  1. Bydd yn gwneud y cyfranogwyr yn fwy hyderus ac effeithiol yn eu swyddi mewn mudiadau gwirfoddol ac yn rhoi sgiliau wedi’u dilysu iddynt a fydd yn eu helpu i ddatblygu gyrfa
  2. Bydd yn helpu mudiadau gwirfoddol gyda’u proses o gynefino staff newydd a chyda llesiant yn y gwaith
  3. Bydd y deunyddiau a gynhyrchir gan F4S3 ar gael ledled Ewrop ar ôl i’r prosiect ddod i ben 

AMSERLENNI A PHARTNERIAID

Caiff y prosiect Sylfeini ar gyfer y Trydydd Sector (2020 – 2022) ei gyllido gan raglen Erasmus+.

Allbynnau ac amserlen: 

  • Datblygu hyfforddiant, cynnwys a system dilysu sgiliau’r rhaglen, a hyfforddi’r hyfforddwyr (rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Tachwedd 2021)
  • Dau beilot o’r rhaglen (rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Mehefin 2022)
  • Ysgrifennu cynllun strategaeth drosglwyddo ac adroddiad (rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd 2022)

Partneriaid: 

Ewch i wefan y prosiect yn www.f4s3.eu.

F4S3 LOGO Logo gyda'r gair Erasmus+