Nod Prosiect Iechyd a Gofal CGGC yw cryfhau’r cysylltiad rhwng y sector gwirfoddol a’r system iechyd a gofal.
THEORI NEWID PROSIECT IECHYD A GOFAL CGGC
Theori Newid prosiect Iechyd a Gofal CGGC. Gellir cael fersiwn testun plaen o’r Theori Newid yma.
Nod Prosiect Iechyd a Gofal CGGC yw sicrhau bod y sector a gwirfoddolwyr yn cael eu gweld fel partneriaid dibynadwy a chyfartal yn yr ymdrech i gael Cymru iachach, fwy gwydn, a hybu arloesedd mewn iechyd, gofal a llesiant. Mae’r canlyniadau y mae’r Prosiect yn gobeithio eu cyflawni yn cynnwys:
- Mae’r sector yn dylanwadu’n gynnar ac yn rhan o sgyrsiau cyson â phartneriaid iechyd a gofal, gan greu canlyniadau sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn
- Mae mudiadau iechyd a gofal statudol yn ymddiried yn y trydydd sector a gwirfoddoli ac yn gwerthfawrogi a pharchu eu cyfraniad at ganlyniadau iechyd a gofal
- Mae’r sector ynghlwm â strwythurau strategol ac yn cael yr adnoddau i gymryd rhan ynddynt
- Mae llais cydweithredol a chyfunol y sector yn gryfach
- Mae’r sector a gwirfoddoli yn cael yr adnoddau i wneud cyfraniadau ystyrlon i bobl
Rydyn ni’n gobeithio cyflawni’r canlyniadau hyn mewn nifer o ffyrdd:
- Bod yn gyfaill beirniadol i yrru gwelliannau mewn polisi ac ymarfer
- Pledio’r achos dros fuddsoddiad cynaliadwy yn y sector er mwyn adeiladu capasiti ac ateb y galw am wasanaethau
- Galluogi’r trydydd sector i ddangos ei werth a chynllunio yn unol â hynny
- Cysylltu mudiadau trydydd sector â’i gilydd a chyda’r system iechyd a gofal
Mae ein papur, Pam mae’r trydydd sector yn bwysig i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn edrych ar y camau y gall rhanddeiliaid eu cymryd i gynyddu effaith y sector ar iechyd a gofal cymdeithasol i’r eithaf.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n chwaer brosiectau, Helplu Cymru a Phrosiect Arloesi Cymunedol Macmillan, gan rannu arbenigedd a gwybodaeth. Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiectau hyn ymhellach i lawr y dudalen.
Y GOEDEN BROBLEMAU
Coeden Broblemau prosiect Iechyd a Gofal CGGC. Gellir cael fersiwn testun plaen o’r Goeden Broblemau yma.
Gwnaethom ni gyfweld â dwsinau o randdeiliaid i ganfod beth, yn eu tyb nhw, oedd y problemau yr oedd mudiadau’r trydydd sector yn eu hwynebu yn y maes iechyd a gofal, beth oedd yn achosi’r problemau hyn a’r datrysiadau posibl. Mae ein Coeden Broblemau yn nodi’r holl bethau hyn mewn modd cyflym a syml. O’r wybodaeth hon, gwnaethom ni fynd ati ar y cyd i gynhyrchu Theori Newid (top y dudalen) i fynd i’r afael â rhai o’r problemau y mae’r goeden yn eu nodi.
GWAITH Y TRYDYDD SECTOR YN Y MAES IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
Mae’r gwasanaethau y mae’r sector yn eu darparu o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn werthfawr tu hwnt, o ddarparu trafnidiaeth yn ôl ac ymlaen i’r ysbyty, i gynlluniau cyfeillio, casglu siopa neu bresgripsiynau a llawer mwy. Gall hyn atal pobl rhag gorfod cael gofal statudol, gan liniaru’r baich ar wasanaethau dan bwysau’r GIG.
Mae mwy na 10,000 o fudiadau yng Nghymru yn cyfrannu at ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. I ddarganfod mwy am eu heffaith, darllenwch ein ffeithlun.
Mae ein gwaith ymchwil gyda Phrifysgol De Cymru yn amlygu tystiolaeth economaidd o gyfraniad y sector gwirfoddol at yr agenda iechyd a gofal seiliedig ar atal.
EIN PROSIECTAU PARTNER
Helplu Cymru
Helplu Cymru yw braich Gymreig Helpforce (Saesneg yn unig), yr elusen sy’n ceisio cyflymu twf ac effaith gwirfoddoli yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n dwyn ynghyd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol trydydd sector Cymru, ac mae arbenigedd ac adnoddau’r elusen yn rhan annatod o’r Prosiect Iechyd a Gofal.
Mae Comisiwn Bevan a Helplu Cymru wedi cyhoeddi Gwerthoedd a gwerth y trydydd sector, sy’n edrych ar y rhyngweithiadau rhwng y sector statudol a gwirfoddol a ble gallai cydweithio gwell gyflawni mwy o ganlyniadau iechyd a gofal yng Nghymru. Darllenwch yr adroddiad llawn a’r Grynodeb Weithredol.
CYSYLLTIADAU ALLWEDDOL A RHAGOR O WYBODAETH
A oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am Brosiect Iechyd a Gofal CGGC? Cysylltwch â ni yn healthandcare@wcva.cymru. Neu ffoniwch ni ar 0300 111 0124. Gallwch hefyd edrych ar ein fforwm drafod Iechyd a Gofal i gael newyddion a diweddariadau rheolaidd, a’ch cyfle i drafod y diweddaraf ym maes iechyd a gofal gydag eraill o’r trydydd sector, neu cofrestrwch i gael ein cylchlythyr – wedi’i anfon i’ch mewnflwch ar ddiwedd bob mis.

