Mae CGGC wedi partneru â Chymorth Canser Macmillan i ganfod pam nad yw cymunedau penodol yn ymhél yn llawn â gwasanaethau canser, sut gellid gwella hyn a sut gallai’r sector gwirfoddol wella’r gwaith hwn ymhellach.
YNGLŶN Â’R PROSIECT
Mae CGGC wedi partneru â Macmillan (Saesneg yn unig) i edrych ar ymyraethau a gwasanaethau ar lefel gymunedol sy’n cefnogi mynediad cyfartal at wybodaeth a gwasanaethau cymorth Macmillan ledled Cymru.
Mae cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir yn hanfodol i bobl â chanser, a nod y prosiect hwn yw helpu pawb â chanser i gael yr wybodaeth a’r gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnynt, pan fyddant eu hangen fwyaf.
Mae Macmillan yn cynnig amrywiaeth enfawr o gymorth i gleifion drwy gydol eu taith canser, ond nid yw rhai grwpiau a chymunedau yn ymhél â’r gwasanaethau hyn mor llawn ag eraill. Ein nod yw gweithio gyda’r grwpiau hyn, i ganfod pam mae hyn yw’r achos ac i ddylunio datrysiadau i helpu i wella mynediad at wasanaethau. Mae Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser Cymru 2023-2026 yn nodi uchelgais i Gymru wella’r canlyniadau i gleifion â chanser a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Byddwn yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol, gan ddefnyddio dulliau cyfranogol i ddeall y rhwystrau a’r cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau. Byddwn yn defnyddio’r gwaith ymchwil i gyflwyno argymhellion i Macmillan er mwyn helpu i sicrhau y gall pawb yng Nghymru elwa ar eu gwasanaethau.
AMSERLEN
Cyllidir y prosiect hwn gan Gymorth Canser Macmillan; dechreuodd yn Ionawr 2023 a bydd yn dod i ben yn Ionawr 2025. Bydd y prosiect yn cael ei rannu’n bum cam:
Cam 1: Ionawr 2023 i fis Ebrill 2023 – Datblygu’r prosiect a gwaith ymchwil
Cam 2: Ebrill 2023 i fis Medi 2023 – Ymgysylltu â’r gymuned a gwaith ymchwil
Cam 3: Hydref 2023 i fis Ionawr 2024 – Cynllunio’r ffordd ymlaen
Cam 4: Chwefror 2024 i fis Medi 2024 – Profi dulliau’n ymarferol
Cam 5: Cau’r prosiect a dathlu
CYSYLLTU
Rydyn ni eisiau clywed eich barn ar sut mae pobl a chymunedau yn ymhél â gwasanaethau canser. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy neu os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch ag:
Eleanor Jones, Rheolwr Arloesi Cymunedol Macmillan
02920 436597
Mae Macmillan yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu. Os ydych chi wedi eich effeithio gan ganser ac angen cyngor, gwybodaeth neu sgwrs, gallwch chi ffonio Macmillan am ddim ar 0808 808 0000 neu fynd i macmillan.org.uk (Saesneg yn unig).