group of people planting at garden in sunshine

Partneriaethau Natur Lleol (PNLl) Cymru

Nid yn unig yw natur yn brydferth, ond mae hefyd yn sylfaenol i’n bywydau. Ni allwn oroesi hebddo, ond mae amgylchedd naturiol Cymru yn dirywio ac felly hefyd y manteision y mae’n eu sicrhau.

Bydd prosiect Partneriaeth Natur Lleol Cymru yn adeiladu rhwydwaith adfer natur i helpu i wyrdroi hyn, gan ymgysylltu â phobl a chymunedau, busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau mewn camau ymarferol a chynlluniau strategol ar gyfer Cymru iach, wydn a chyfoethog o ran ei natur. Bydd y partneriaethau hyn yn sicrhau y gall pob mewnbwn gael yr effaith fwyaf ar gynyddu bioamrywiaeth yng Nghymru.

  • Ein Cenhadaeth yw ailgysylltu pobl â byd natur i sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu a’i feithrin nawr ac yn y dyfodol
  • Ein Gweledigaeth yw Cymru gyfoethog o ran ei natur i bawb

Ewch i’n gwefan

Os hoffech ddarganfod mwy am LNP Cymru, gallwch ymweld â’n gwefan ar lnp.cymru. Yno, gallwch ddarganfod mwy am y prosiect LNP, cwrdd â’r tîm, a chysylltu. Rydym hefyd ar Twitter ac Instagram felly galwch heibio a dilynwch ni!

Dewch o hyd i’ch Partneriaeth Natur Leol

Gallwch hefyd ddod o hyd i’ch partneriaeth natur leol a chysylltu â nhw’n uniongyrchol yma: www.biodiversitywales.org.uk/Lleol-i-chi

Tîm Partneriaeth Natur Lleol

Nod prosiect LNP Cymru yw adeiladu rhwydwaith adfer natur ar draws Cymru, gan ymgysylltu â phobl a chymunedau, busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau mewn camau ymarferol a chynlluniau strategol ar gyfer Cymru iach, wydn a chyfoethog o ran ei natur.

Mae hwn yn brosiect barhaus wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gydlynu gan CGGC. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys pob awdurdod lleol a pharc cenedlaethol yng Nghymru, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, CGGC a’r Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol (CCALl).

Ceir LNP ym mhob ardal ledled Cymru, pob un wedi’i leoli’n unigryw er mwyn darparu gweithredu effeithlon ar lefel leol a chyfrannu tuag at yr agenda adfywio byd natur cenedlaethol. Dewch o hyd i’ch Partneriaeth Natur Lleol yma.