Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol da ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan gynnig hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth.
BETH YW NEWID?
Mae Newid yn helpu’r sector gwirfoddol yng Nghymru i wneud y mwyaf o ffyrdd digidol o weithio. Rydyn ni’n rhannu gwybodaeth, mewnwelediadau ac adnoddau ymarferol i gynorthwyo mudiadau i feithrin sgiliau digidol a hyder.
Rydym yn hyrwyddo Safon Gwasanaethau Digidol Cymru ac yn annog dulliau o ddylunio a gwella gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Cyflwynir Newid mewn partneriaeth gan CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, a chaiff ei gyllido gan Lywodraeth Cymru.

CHWILIO AM GYMORTH DIGIDOL?
Mae Newid yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad ar bopeth digidol i helpu mudiadau i addasu, dysgu a ffynnu.
Beth am edrych ar ein:
Adnoddau

Porwch drwy ganllawiau ymarferol, adnoddau, templedi a gwybodaeth ddefnyddiol i gefnogi eich taith ddigidol. Gallwch hefyd ddefnyddio ein hadnodd mabwysiadu digidol, sydd wedi’i ddylunio i helpu mudiadau gwirfoddol i asesu ble maen nhw ar eu taith ddigidol a nodi camau ymarferol y gallant eu cymryd.
Newyddion
Cadwch i’r funud â’r newyddion, diweddariadau a datblygiadau diweddaraf gan Newid a’r sector cymorth digidol ehangach. Darganfyddwch gyhoeddiadau, diweddariadau ar ddigwyddiadau, tueddiadau digidol a straeon ysbrydoledig sy’n amlygu sut mae mudiadau yn defnyddio adnoddau a dulliau digidol i wella eu gwasanaethau. Er mwyn sicrhau nad ydych yn colli cyfleoedd hyfforddi, cymorth a’r wybodaeth ddiweddaraf, cofrestrwch i gael ein cylchlythyr.
Astudiaethau achos
Dysgwch am sut mae mudiadau gwirfoddol yn defnyddio adnoddau a dulliau digidol i wella eu gwaith gydag enghreifftiau go iawn sy’n dangos profiadau, heriau a llwyddiannau ac yn rhoi mewnwelediadau ymarferol ac ysbrydoliaeth i helpu pobl eraill ar eu taith ddigidol.
Hyfforddiant a chymorth

Edrychwch ar hyfforddiant, canllawiau a chymorth i helpu eich mudiad i ddatblygu sgiliau digidol, goresgyn heriau a mynd ati’n hyderus i gofleidio’r dirwedd ddigidol ddatblygedig.
CYSYLLTU Â NI
Heb ddod o hyd i’r union beth roeddech chi’n chwilio amdano? Am ragor o wybodaeth a chymorth, cysylltwch â ni yn digidol@wcva.cymru. Gallwch hefyd fynd i wefan Newid: www.newid.cymru.