Gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru, Llywodraeth Cymru ac eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Ar y tudalennau hyn, cewch wybodaeth ac adnoddau i gefnogi gwirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fanylion pellach, e-bostiwch Fiona Liddell yn fliddell@wcva.cymru.
Yn ystod y pandemig mae mwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi ymgysylltu â gwirfoddolwyr nag erioed o’r blaen. Mae ein Fframwaith Gwirfoddoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn defnyddio dull system gyfan, gan archwilio sut i gynnwys gwirfoddolwyr yn effeithiol – p’un ai mewn ysbytai, gofal preswyl neu leoliadau cymunedol.
Mae adroddiad y prosiect yn cynnwys argymhellion polisi sy’n codi o’r ymchwil.
SIARTER CYDBERTHNASAU GWIRFODDOLI A’R GWEITHLE
Gweithiai Helplu Cymru gyda TUC Cymru ac eraill i lunio’r siarter CGGC/TUC Cymru hon. Mae’n gosod prif egwyddorion ar gyfer gwirfoddoli’n llwyddiannus a meithrin cyd-berthnasau cadarnhaol yn y gweithle.
Cymeradwywyd defnyddio’r siarter gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat, a’r sector gwirfoddol a gan undebau llafur er mwyn ysgogi trafodaethau ac arfer da o ran cynhwysiant gwirfoddolwyr effeithiol sydd o fudd i bawb.
Dyma’r hyn a ddywedodd partneriaid CGGC am y siarter ac am ei defnyddio:
GWIRFODDOLI I YRFA
Mae Comisiwn Bevan a Helplu Cymru (CGGC) yn cydweithio gyda Helplu’r DU ar brosiectGwirfoddoli i Yrfa. Nod hon yw effeithio ar anghenion gweithlu’r GIG ar lefel leol drwy ddylunio a datblygu mentrau gwirfoddoli i yrfa.
Yn ogystal ag ymateb i flaenoriaethau’r gweithlu lleol, mae potensial gan brosiectau i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd mewn cyfleoedd drwy dargedu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Datblygwyd safonau gwirfoddolwyr ar gyfer sefydlu a hyfforddi gwirfoddolwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gan Helplu. Mae adnoddau dysgu ar gael i gefnogi’r safonau hyn, gan gynnwys modiwlau gorfodol ar gyfer y rhai sy’n gwirfoddoli yn y GIG, adnoddau gan Gofal Cymdeithasol Cymru, a gan Gefnogi Trydydd Sector Cymru.
Gwnaeth Helplu Cymru gefnogi prosiectau peilot gyda thri Bwrdd Iechyd fel rhan o raglen ledled y DU gan Helplu a Marie Curie yn datblygu gwasanaethau cydymaith gwirfoddol er mwyn cefnogi cleifion sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes.
Rydym yn gweithio gydag Age Cymru a Llywodraeth Cymru i ddatblygu model ar gyfer gwirfoddoli mewn cartrefi gofal. Mae saith cartref gofal wedi’u recriwtio i’r prosiect peilot. Y brif nod oedd galluogi cysylltiad rhwng preswylwyr a’u teuluoedd, o dan y cyfyngiadau yn sgil Covid-19.
Mae adroddiad prosiect a phecyn cymorth o adnoddau ymarferol ar gael nawr.
GWIRFODDOLI ER MWYN CAEL EFFAITH AR FAES IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
Efallai bod y gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn amlwg i’r rhai sy’n gweithio ochr yn ochr â nhw neu sy’n elwa o’r hyn y maent yn ei wneud. Ond, yn aml, mae’n rhaid i ni weld tystiolaeth o’u heffaith ar gleifion/ ddefnyddwyr gwasanaeth, ar staff, ac ar y gwirfoddolwyr eu hunain er mwyn profi gwerth gwirfoddoli.
Cefnogodd Helplu astudiaethau cynllun peilot gyda phartneriaid y GIG er mwyn gwerthuso effaith rolau gwirfoddolwyr. Lluniwyd nifer o gyhoeddiadau defnyddiol o ganlyniad i’r gwaith hwn:
Lluniwyd canllawiau gwasanaeth gwirfoddoli ar gyfer 9 rôl gwirfoddoli. Mae’r canllawiau gwasanaeth yn rhannu gwybodaeth a dysgu, ystyriaethau, a buddion a fydd yn helpu pobl eraill i fabwysiadu’r modelau gwirfoddoli hyn ac i addasu iddynt.
Mae pecyn cymorth Effaith a Mewnwelediad ar gael a fydd yn eich helpu chi i DDIFFINIO yr hyn y bydd eich prosiect gwirfoddoli yn ei gyflawni, yr hyn y bydd yn ei ddatrys, a phwy fydd yn elwa; i DDYLUNIO model gwasanaeth; i GASGLU data i ddangos y canlyniadau ac i roi mewnwelediad a fydd yn galluogi gwelliannau; i DDADANSODDI data i ddangos sut y mae’r prosiect yn cyflenwi’r effeithiau a ddisgwylir. Mae Helplu yn darparu gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd sy’n cynnwys y wefan a thîm o arbenigwyr gwerthuso gwirfoddoli sy’n cynnig cefnogaeth.
GWYBODAETH AM HELPLU CYMRU
Cychwynnodd Helplu Cymru yn 2019 drwy gymorth gan Helpforce UK, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a Llywodraeth Cymru.
Bellach, mae’n gydweithrediad o bartneriaid sy’n gweithio i godi proffil a rôl strategol gwirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Gallwch chi lawrlwytho’r dogfennau diweddaraf yma:
Os hoffech chi dderbyn diweddariadau gan Helplu Cymru, cadwch mewn cysylltiad drwy ymuno â rhestr bostio CGGC a dewiswch yr opsiwn ‘Gwirfoddoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol’.
CYD-DESTUN POLISI
Mae Cymru Iachach a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) yn ymgorffori egwyddorion o atal, cyd-gynhyrchu, cynnwys dinasyddion, cydweithredu, ac arloesi. Maent yn pwysleisio’r angen am fodelau newydd o weithio er mwyn gweddnewid ac integreiddio ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Gall gwirfoddolwyr fod yn rhan o ddylunio a chyflenwi gwasanaethau, gwella profiad defnyddwyr gwasanaeth, a chreu dulliau mwy cyfannol ac integredig. Mae ganddynt ran amlwg i’w chwarae yn y gwasanaethau cyhoeddus, heb ddyblygu neu ddisodli gweithwyr cyflogedig.
Mae traddodiad cryf o gyd-gymorth a gwirfoddoli yng Nghymru. Mae gwirfoddoli yn gwella cyfalaf cymdeithasol a chydlyniant cymunedol yn ogystal â chynnwys dinasyddion yn rhan o gyflenwi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n meithrin lles unigolion, cynhwysiant cymdeithasol a sgiliau ar gyfer twf personol ac ar gyfer cyflogaeth. O ganlyniad, mae’n cyfrannu at nifer o’n nodau llesiant cenedlaethol.
Yn ystod pandemig Covid -19, gwelwyd sut y gall partneriaid gwahanol gydweithio a sut y gall gwirfoddoli wneud gwahaniaeth hanfodol i les ein cymunedau. Bydd Helplu Cymru yn gweithio i sicrhau bod maes gwirfoddoli yn derbyn y gydnabyddiaeth a’r adnoddau i gyfrannu’n effeithiol i gynllun adfer pandemig Covid -19 Cymru