Mae’r Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Beth yw Helplu?
O’r adeg y cafodd y GIG ei sefydlu, roedd Syr William Beveridge ac Aneurin Bevan wedi rhagweld y byddai gwirfoddolwyr a chymunedau yn chwarae rhan weithgar ynddo.
Wedi’i ysbrydoli gan y weledigaeth hon, sefydlwyd Helplu yn Lloegr yn 2017 ac mae’n gweithio i ddatblygu dull unedig ac integredig o wirfoddoli mewn lleoliadau gofal iechyd ledled y DU. Mae Helplu yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall gwirfoddolwyr ei chael ar gleifion, ar staff a gwasanaethau yn ogystal ag ar wirfoddolwyr eu hunain.
‘Yn Helplu rydyn ni’n credu bod modd creu system ofal fwy tosturiol i bawb ohonom drwy fanteisio ar rym gwirfoddolwyr ymroddedig a gofalgar.’ – Syr Thomas Hughes-Hallett, Sylfaenydd a Chadeirydd Helplu.
Helplu yng Nghymru
Sefydlwyd Helplu Cymru yn 2019 gyda chymorth Cronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol y DU, Llywodraeth Cymru a Helpforce UK. Mae’n gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Cymru Iachach yn darparu’r fframwaith strategol ar gyfer Helplu yng Nghymru. Maen nhw’n ymgorffori egwyddorion camau gweithredu ataliol, cydgynhyrchu, cynnwys dinasyddion, cydweithio ac arloesi ac yn chwilio am fodelau newydd o weithio i drawsnewid ac integreiddio ein gwasanaethau iechyd a’n gwasanaethau cymdeithasol.
Mae Helplu yn gyfle i dynnu sylw, datblygu a chynllunio ar gyfer cyfranogiad gwirfoddolwyr effeithiol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.
Mae grŵp llywio Cymorth Cymru yn cynnwys cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru, Nyrsio’r GIG ac arweinyddiaeth wirfoddoli, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, partneriaid yn y trydydd sector, Gofal Cymdeithasol Cymru a Gwella Addysg Iechyd Cymru.
Ein nodau
Mae Helplu yn gweithio gyda phartneriaid ar amrywiaeth o weithgareddau sy’n cyfrannu at gyflawni’r nodau hirdymor canlynol:
- parodrwydd a gallu i gynnwys gwirfoddolwyr yn effeithiol
- integreiddio a defnyddio gwirfoddolwyr o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi’u hailfodelu
- gwirfoddoli effeithiol sydd o fudd i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau, staff a gwirfoddolwyr
- diwylliant o welliant parhaus drwy rwydweithiau dysgu a rhannu
- tystiolaeth fwy cadarn i gefnogi ymyriadau gwirfoddoli strategol
Yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni
- wedi gweithio gyda thîm cyfathrebu ‘Cymru Iachach’ Llywodraeth Cymru i gynhyrchu fideos sy’n dangos sut mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu at ein gwasanaethau iechyd a gofal:
Fideo i dynnu sylw at sut mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu at Gymru Iachach
- wedi trefnu trafodaethau ar y we yn myfyrio ar bandemig Covid-19 ac adroddiad cyhoeddedig ar bob sesiwn:
Adeiladu ar ymateb cymunedau a gwirfoddolwyr
- wedi gweithio gyda TUC Cymru, undebau llafur a phartneriaid o’r sector gwirfoddol i lunio Siarter ar y gydberthynas rhwng gwirfoddolwyr a’r gweithle
Gallwch lawrlwytho’r Siarter yma.
Gwrandewch ar bartneriaid CGGC yn cymeradwyo’r Siarter a’r defnydd ohoni
Angela Hughes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Michelle Fowler, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Nia Williams, Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Jo Parry, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- wedi cefnogi datblygiad Safonau’r Dystysgrif Wirfoddoli, a fydd yn darparu’r sylfaen ar gyfer tystysgrif gydnabyddedig i wirfoddolwyr ym maes iechyd a gofal maes o law.
Yr hyn rydyn ni’n ei wneud
- Cefnogi a gwerthuso prosiectau peilot ar wirfoddoli a gofal diwedd oes o fewn y tri Bwrdd Iechyd: Aneurin Bevan, Hywel Dda a Phowys
- Gweithio gyda Helplu i ddatblygu porth dysgu i wirfoddolwyr sydd â dolenni at adnoddau perthnasol yng Nghymru
- Nodi a rhannu arferion da, gweler yr astudiaethau achos isod am enghreifftiau
Gallwch lawrlwytho cylchlythyr diweddaraf Helplu yma.
Datblygwyd safonau newydd ar gyfer sefydlu gwirfoddolwyr ym maes iechyd a gofal gan Helplu. Bydd y rhain yn fframwaith ar gyfer tystysgrif gwirfoddoli newydd, maes o law.
Os hoffech gael mwy o fanylion am weithgareddau, cyfleoedd dysgu ac adnoddau Helplu, cysylltwch â Fiona Liddell, Rheolwr Cymorth Helplu (fliddell@wcva.cymru) i gael eich ychwanegu at restr bostio Helplu.
Erthyglau, blogiau ac adnoddau
Gweler blogiau gan Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru
Astudiaeth achos: Gwirfoddolwyr ym maes iechyd a lles meddyliol yng Nghaerdydd Awst 2020
Astudiaeth achos: Gwirfoddolwyr yn gwella symudedd a llesiant cleifion hŷn Gorffennaf 2020
Astudiaeth achos: Y Prosiect Attic Mawrth 2020
Astudiaeth achos: Hosbis Skanda Vale Chwefror 2020
Astudiaeth achos: Gwirfoddolwyr ifanc yn cefnogi ysbytai Caerdydd Rhagfyr 2019
Astudiaeth achos: Gwirfoddolwyr Red Kite ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys Hydref 2019
Astudiaeth achos: Gwirfoddoli mewn adran damweiniau ac achosion brys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Awst 2019
Papur: Gwirfoddoli a nodau llesiant Hydref 2020
Papur: Gwirfoddoli a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru – Sandy Clubb. Papur gweledigaeth a ddatblygwyd gan Rwydwaith Gwirfoddoli Cymru ac a gyflwynwyd yn gofod3 ym mis Mawrth 2018
Papur: Trysor cudd: gwirfoddoli amser a thalent Rhagfyr 2020 (Ysgrifennwyd ar gyfer a chyhoeddwyd gan Gydffederasiwn GIG Cymru – Saesneg yn unig)