Pobl mewn trafodaeth cyfarfod bwrdd

Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit

Brexit yw’r newid cymdeithasol mwyaf a welwyd yng Nghymru ers degawd. Rydym am sicrhau bod mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn barod am yr heriau a ddaw yn sgil Brexit.

Mae Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit yn brosiect ar y cyd rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a CGGC a chaiff ei gyllido gan y Sefydliad Addysg Gyfreithiol

Ei nod yw gwella gallu mudiadau’r trydydd sector i ddeall proses Brexit ac ymgysylltu â hi drwy wneud y canlynol:

  • Cysylltu mudiadau cymdeithas sifil ac arbenigwyr blaenllaw er mwyn ysgogi dadl a thrafodaeth wybodus
  • Darparu rôl gydlynu drwy hwyluso camau gweithredu grwpiau a chysylltu â chwaer-brosiectau ledled y DU
  • Gweithredu fel pwynt cyswllt i fudiadau ofyn cwestiynau ar gyfraith a pholisi Brexit ac awgrymu cyfleoedd cydweithredu.

Mae’r Fforwm yn cyhoeddi sesiynau briffio rheolaidd, yn dosbarthu cylchlythyr diweddaru rheolaidd a chryno ar Brexit, yn cynnal hyb adnoddau ar-lein ac yn trefnu digwyddiadau rheolaidd sy’n gysylltiedig â Brexit. 

Gall hefyd ymateb i geisiadau gan fudiadau am wybodaeth wedi’i theilwra ar Brexit.

 

Paratoi ar gyfer Brexit

Ydy eich mudiad chi’n barod ar gyfer Brexit? Nod y Canllaw Paratoi ar gyfer Brexit yw helpu mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i baratoi ar gyfer Brexit drwy dynnu sylw at rai cwestiynau allweddol i’w hystyried a thrwy ddod â’r amrywiol adnoddau sydd ar gael at ei gilydd. 

Mae’n cwmpasu ystod eang iawn o fudiadau ac felly mae, o reidrwydd, yn eang. Bydd gwaith cynllunio wrth gefn a chyd-destun yn amrywio o’r naill sector i’r llall ac o’r naill sefydliad i’r llall. 

Am y rheswm hwn, cofiwch na all y canllaw hwn gwmpasu pob senario ac argymhelliad ond y gellir ei ddefnyddio fel man cychwyn.

Canfyddiadau Fforwm Brexit

Mae’r Fforwm wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau bord gron gyda mudiadau gwirfoddol ac academyddion ar y pwnc cymdeithas sifil a Brexit yng Nghymru. 

Mae Canfyddiadau Fforwm Brexit yn grynodeb o’r egwyddorion a’r pryderon sy’n deillio o’r trafodaethau hyn. 

Cysylltwch â ni os hoffech roi enw eich mudiad iddo, llywio ei ddiweddariadau parhaus neu gael gwybodaeth am Brexit sydd wedi’i theilwra i’r sector gwirfoddol.

Cysylltwch â ni

Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill sy’n ymwneud â:

    • Briffiau’r fforwm 
    • data, gwybodaeth ac ymchwil
    • argaeledd i siarad mewn digwyddiadau a chyfarfodydd mewnol lle byddai cynnwys sy’n gysylltiedig â Brexit yn ddefnyddiol
    • Ymgynghoriadau un i un ar oblygiadau Brexit i fudiadau penodol
    • Digwyddiadau a mentrau cydweithredol

Cysylltwch â Charles Whitmore, Cydlynydd Fforwm Cymdeithas Sifil ar Brexit ar whitmoreCD@cardiff.ac.uk