Prosiect peilot yn gweithio gyda thair chymuned yng Nghymru i ddychmygu a chynllunio ar gyfer ‘Dyfodol Gwell’
Mae’r Prosiect Dyfodol Gwell Cymru yn brosiect chwe mis a gyllidir gan Gronfa Datblygu’r Dyfodol y Loteri Genedlaethol (sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2021). Mae CGGC wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Ysgol Dyfodol Rhyngwladol i gyflwyno’r cynllun peilot hwn ledled tair cymuned yng Nghymru.
Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar drafodaethau â grwpiau gwirfoddol a chymunedol amrywiol ynghylch sut gallwn ni lunio dyfodol cadarnhaol yn sgil Covid-19.
Diben y prosiect yw annog cyfranogwyr a’u cymunedau i freuddwydio am beth fyddai dyfodol gwell yn ei olygu iddyn nhw ac i ddatblygu cynllun gweithredu i’w roi ar waith.
Y CYMUNEDAU
Cafodd tair cymuned eu dewis drwy broses recriwtio agored, dwy gymuned yn canolbwyntio ar le ac un yn canolbwyntio ar bobl ifanc.
Y dwy gymuned ar le oedd Rhuthun/Dinbych ac Aberystwyth, ac ymgysylltwyd â’r gymuned o bobl ifanc drwy EYST (Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig).
Buom yn gweithio gyda thri mudiad yn Rhuthun/Dinbych; Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) Resource, Drosi Bikes a’r Tŷ Gwyrdd, ac yn gweithio gyda Bwyd Dros Ben Aber yn Aberystwyth.
Gwnaethom ni hefyd recriwtio tri hwylusydd o Gymru i gefnogi’r gwaith cyflenwi a chynyddu sgiliau a gwybodaeth pobl leol am ragolwg cymunedol.
Y FETHODOLEG
Y fethodoleg a ddewiswyd ar gyfer y prosiect hwn oedd methodoleg dyfodol cymunedol brofedig o’r enw ‘Seeds of Change’. Cafodd hon ei datblygu gan y Good Anthropocene ac mae’n defnyddio dulliau dyfodol hygyrch a syml sy’n arbennig o addas ar gyfer ymgysylltu â chymunedau a’u galluogi nhw i ddychmygu eu dyfodol eu hunain a chreu newid.
Gwnaeth pob cymuned gymryd rhan mewn dau weithdy. Roedd yr un cyntaf yn ymwneud â ‘breuddwydion mawr’ a defnyddio ‘hadau newid’ cadarnhaol i edrych ar y crych-effaith y gall syniadau, prosiectau bach neu arloesedd ei chael. Yng ngweithdy un, defnyddiwyd ‘olwyn y dyfodol’ i gofnodi’r naratif o bob un o’r grwpiau.
Yng ngweithdy dau, defnyddiwyd y dechneg ‘Tri Gorwel’ i alluogi’r cymunedau i adeiladu’r camau i’w dyfodol dymunol.
Fel rhan o’r broses, datblygodd bob cymuned ei hadroddiad rhagolwg cymunedol ei hun, gan gynnwys detholiad o opsiynau dymunol ar gyfer y dyfodol. Mae’r opsiynau hyn i’r dyfodol yn cael eu defnyddio i ddatblygu cynlluniau gweithredu lefel uchel a fydd yn eu galluogi i ddechrau gweithio tuag at eu gweledigaeth.
RHANNU’R CANFYDDIADAU
Fel rhan o’r prosiect, mae cyfres o adnoddau wedi’i datblygu i gynorthwyo a galluogi prosiectau rhagolwg a arweinir gan gymunedau ledled Cymru.
ADEILADU DYFODOL GWELL: PECYN CYMORTH
Datblygwyd y pecyn cymorth hwn o’r ymarferion rhagwelediad a gynhaliwyd gennym gyda’n tair cymuned beilot yng Nghymru. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y teclynnau yn y pecyn cymorth yma’n helpu pobl i ddychmygu dyfodol gwell a chymryd camau er mwyn gwireddu’r hyn maen nhw am ei weld.
PODLEDIADAU
BLOGIAU
‘Allwch chi ddim rheoli’r dyfodol, ond gallwch chi ddylanwadu arno’
Aimee Parker sy’n arwain prosiect Dyfodol Gwell Cymru CGGC, sef prosiect peilot sy’n gweithio gyda thair o gymunedau Cymru er mwyn dychmygu a chynllunio ar gyfer ‘Dyfodol Gwell’. Yma, mae’n esbonio rhagor am y fethodoleg a ddefnyddir gan y prosiect.
Gwireddu breuddwydion yn Aberystwyth
Yma mae Aimee’n sôn am ddefnyddio methodoleg y dyfodol gyda Bwyd Dros Ben Aber, mudiad cymunedol sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth yw Bwyd Dros Ben Aber. Mae’n nhw’n cymryd camau i leihau gwastraff bwyd yn yr ardal drwy ailddyrannu bwyd dros ben i’r gymuned.
Cymunedau Rhuthun a Dinbych ‘ar dân!’
Yn Rhuthun a Dinbych, buon ni’n gweithio gyda thri mudiad cymunedol, sef Cwmni Buddiannau Cymunedol Resource, Drosi Bikes, a’r Tŷ Gwyrdd. Roedd hwn yn gyfle i dri mudiad newydd weithio gyda’i gilydd… cyfle roedden nhw’n ei werthfawrogi!
‘Allwch chi ddim bod yn rhywbeth allwch chi ddim ei weld’
Mae Aimee’n siarad am ei phrofiadau o weithio gyda Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru (EYST) er mwyn ennyn diddordeb pobl ifanc a’u helpu nhw i ddychmygu ‘dyfodol gwell’.
FIDEOS
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at policy@wcva.cymru.