Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag UK Research and Consultancy Services, CGGC a rhanddeiliaid i gyd-greu dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru.
Mae CGGC yn cynnal y dudalen we hon er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth am y prosiect ar gael i gymaint â phosibl o bobl.
CYFLWYNIAD
Mae rhanddeiliaid gwirfoddoli allweddol wedi cyd-greu dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Ei nod yw diweddaru ac ehangu’r polisi gwirfoddoli presennol yn unol â’r canfyddiadau ymchwil diweddaraf, ac adlewyrchu’r arferion da a geir yng Nghymru a gwledydd eraill.
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AS, ddatganiad allweddol yn ystod yr Wythnos Ymddiriedolwyr.
‘Rydw i eisiau adeiladu dull gweithredol a phenderfynol o gyflwyno’r cyflyrau a’r cymorth y mae gwirfoddolwyr eu hangen ac yn eu haeddu, fel y gallant dyfu a ffynnu yn y gwaith hanfodol y maen nhw’n ei wneud i bawb yng Nghymru, ei phobl, ei lleoedd a’i chymunedau.’
Mae Fframwaith Gweledigaeth a Chyflawni wedi’i ddatblygu. Mae eich cyfranogiad i lywio a datblygu’r Weledigaeth honno wedi bod yn hanfodol.
LANSIO’R DULL NEWYDD
Lansiwyd y Dull Newydd o Wirfoddoli, gan gynnwys y Fframwaith Gweledigaeth a Chyflawni, yn gofod3 ar 2 Gorffennaf 2025 gan Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ochr yn ochr â chefnogwyr y Dull Newydd, gan gynnwys y Farwnes Tanni Grey-Thompson, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, a chynrychiolwyr o’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat.
Gallwch ddarllen y ddogfen lawn yma yn Gymraeg neu Saesneg.
EDRYCH YMLAEN
Y camau nesaf i’r Grŵp Arwain Traws-sector ar Wirfoddoli, sydd wedi bod yn arwain y gwaith hwn, yw datblygu Cynllun Gweithredu i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu’r Dull Newydd ledled Cymru.
Cadwch lygad allan am adnoddau a chanllawiau pellach a fydd yn dod yn y dyfodol agos. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i gyflawni’r Weledigaeth, cysylltwch â ni fel y gallwn drafod sut i’ch cynorthwyo. Cysylltwch â ni yn gwirfoddoli@wcva.cymru.
RHAGOR AR WIRFODDOLI
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli draw ar ein tudalennau gwirfoddoli.