Mae Cronfa MARINE Cymru (Gwydnwch morol a gwella ecosystemau naturiol) yn buddsoddi mewn prosiectau sy’n cefnogi gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol Cymru.
Yr amgylchedd morol yng Nghymru yw un o asedau naturiol mwyaf gwerthfawr y wlad, yn cefnogi bioamrywiaeth, gwydnwch yn erbyn yr hinsawdd a chymunedau arfordirol. Ond, mae angen buddsoddiad hirdymor i amddiffyn a gwella ein hecosystemau morol ac arfordirol yn wyneb pwysau cynyddol.
Mae Cronfa MARINE Cymru yn broses ddibynadwy, hirdymor sy’n buddsoddi mewn rhaglenni a phrosiectau sy’n galluogi, yn cynnal ac yn gwella gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol Cymru.
Mae’r Gronfa yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, a gwaith ar droed i sefydlu ei llywodraethiant, blaenoriaethau cyllido a’i phrosesau grant. Bydd ar agor i dderbyn ceisiadau yn ddiweddarach y flwyddyn hon a gobeithir lansio ei chylch grant gyntaf yn 2026.
AMCANION
Bydd Cronfa MARINE Cymru yn rhoi grantiau i brosiectau sy’n:
- Gwella iechyd, gwydnwch a bioamrywiaeth ecosystemau morol ac arfordirol Cymru
- Mynd i’r afael â’r newid hinsawdd a phwysau amgylcheddol ehangach drwy gamau gweithredu ymarferol, seiliedig ar natur o fewn ecosystemau morol ac arfordirol
- Cynyddu gwybodaeth, sgiliau a phartneriaethau sy’n cryfhau adferiad ecosystemau morol hirdymor ac yn helpu cymunedau arfordirol i gyflawni canlyniadau cynaliadwy
CEFNDIR
Mae CGGC wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Phartneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (CaSP Cymru) i ddatblygu Cronfa MARINE Cymru. Mae hwn yn gronfa bwrpasol newydd sy’n cyfeirio buddsoddiad hirdymor at adferiad a gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol Cymru.
Trwy gyfraniadau gwirfoddol, bydd y gronfa yn helpu i wireddu ein gweledigaeth am foroedd glân, iach, diogel a chynhyrchiol yng Nghymru sy’n cael eu defnyddio mewn modd cynaliadwy ac yn fiolegol amrywiol.
Rheolir y gronfa gan CGGC, a darperir trosolwg gan Grŵp Llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Ystad y Goron a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac aelodau o CGGC a CaSP Cymru, gan gynnwys mudiadau anllywodraethol diwydiannol ac amgylcheddol (NGOs).
Trwy gydweithio, rydym yn creu cronfa dryloyw, gredadwy ac annibynnol, yn sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei gyfeirio tuag at brosiectau sy’n cefnogi polisi morol Llywodraeth Cymru ac yn cyflawni canlyniadau ystyrlon i fyd natur a phobl.
SUT BYDD Y GRONFA YN GWEITHIO
Bydd Cronfa MARINE Cymru yn denu cyfraniadau gwirfoddol gan y rheini sydd eisiau cefnogi gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol Cymru. Bydd y cyllid hwn wedyn yn cael ei ddosbarthu trwy grantiau i brosiectau ar hyd a lled Cymru sy’n adfer yr ecosystem forol ac arfordirol.
I fusnesau, mae cyfrannu at y gronfa yn ffordd o wneud gwahaniaeth hirdymor, go iawn i’r amgylchedd morol y maen nhw’n dibynnu arno. Mae’n dangos ymrwymiad credadwy i’r cyfrifoldeb amgylcheddol ac yn cefnogi datblygiad cynaliadwy economi las Cymru.
Mae’r Gronfa yn cael ei datblygu ar hyn o bryd a gobeithir lansio ei chylch grant cyntaf yn 2026.
Mae Cronfa MARINE Cymru yn cael ei datblygu gydag ysbrydoliaeth o fodel llwyddiannus Cronfa Gwella Amgylchedd Morol yr Alban (SMEEF). Rydym yn ddiolchgar am y mewnwelediad a’r arweiniad a rannwyd gan dîm SMEEF, sy’n ein helpu ni i lunio cronfa sy’n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau penodol Cymru.
RHAGOR O WYBODAETH
I gael diweddariadau neu drafod cymorth posibl gan Gronfa MARINE Cymru, cysylltwch ag:
Anna Elliott – Rheolwr Datblygu Cronfa MARINE Cymru
E-bost: aelliott@wcva.cymru
Ffôn: 029 20431731