Dwy ddynes oedrannus yn cofleidio.

Consortiwm Hawliau Dynol Cymru

Mae Consortiwm Hawliau Dynol Cymru yn dod â mudiadau o’r sector gwirfoddol a’r gymdeithas sifil ehangach ynghyd i gryfhau gwaith Hawliau Dynol yng Nghymru.  

Wedi’i reoli gan CGGC, mae prosiect Consortiwm Hawliau Dynol Cymru yn dwyn ynghyd mudiadau gwirfoddol a chymdeithas sifil ehangach yng Nghymru sy’n gweithio ar Hawliau Dynol.

Nod y prosiect yw:

  • Codi llais y sector gwirfoddol a chynyddu ei ddylanwad mewn polisi, deddfwriaeth ac ymarfer hawliau dynol yng Nghymru
  • Creu mwy o gyfleoedd i gydweithio a chyflawni newid mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru.
  • Cryfhau capasiti mudiadau gwirfoddol Cymru i ddeall, defnyddio a dylanwadu ar hawliau dynol.
  • Cydlynu gwaith hawliau dynol yng Nghymru, gan gydweithio â chonsortia a rhwydweithiau hawliau dynol y gwledydd datganoledig, a gweithio gyda rhwydweithiau a mudiadau hawliau dynol y DU.

EIN CHWAER FUDIADAU

Mae consortia hawliau dynol yn bodoli yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban. Mae’n bwysig bod gan ein prosiect yr un enw am gydweithio ar draws y gwledydd datganoledig a chyda’n cyllidwr, LEF.* Dyma pam ein bod wedi galw’r prosiect yn Consortiwm Hawliau Dynol Cymru.

Ele Hicks yw Rheolwr Prosiect Consortiwm Hawliau Dynol Cymru. Gallwch gysylltu ag Ele drwy e-bostio: ehicks@wcva.cymru

Beth ydym ni’n ceisio ei gyflawni?

Drwy’r prosiect hwn byddwn yn:

  • Cydlynu a chydweithio er mwyn sicrhau bod llais y sector gwirfoddol yn cael ei glywed mewn cyfreithiau, polisïau a materion Hawliau Dynol ar lefel Cymru a’r D
  • Rhoi’r sector mewn sefyllfa gryfach i lywio cyfreithiau a pholisïau sy’n ymwneud â hawliau dynol. Byddwn yn gwneud hyn drwy wella capasiti mudiadau sy’n gweithio ar hawliau dynol a gweithio gydag unigolion â phrofiad bywyd
  • Dwyn penderfynwyr i gyfrif fel eu bod yn defnyddio’u pwerau er budd cymunedau ac yn diogelu hawliau
  • Gwella mesurau diogelu hawliau dynol. Diogelu’r hawliau presennol (a’u hatal rhag llithro’n ôl); adeiladu’r sylfaen dystiolaeth/achos dros ymgorffori, deddfwriaeth a pholisi; datblygu hawliau dynol drwy ymagweddau at bolisi; ac ymhél á swyddogion a gwleidyddion.
  • Sicrhau bod anghenion, heriau a blaenoriaethau’r sector yn cael eu deall yn llwyr ac yn cael eu defnyddio i lywio dyluniad a chyfeiriad Consortiwm Hawliau Dynol Cymru.

BETH YDYM NI’N EI WNEUD?

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar:

  • Ymateb i’r ymgynghoriadau a’r ymholiadau â’r flaenoriaeth uchaf, yn enwedig ar lefel Cymru a’r DU, o safbwynt hawliau dynol.
  • Datblygu partneriaethau â mudiadau gwirfoddol a mudiadau cymdeithas sifil yng Nghymru sy’n gweithio ar, neu eisiau gweithio ar, hawliau dynol.
  • Cydweithio â phartneriaid yng Nghymru a’r DU, mynychu rhwydweithiau, fforymau a chyfarfodydd sy’n ymwneud â hawliau dynol a hyrwyddo materion ac ymatebion i broblemau hawliau dynol gan y sector gwirfoddol yng Nghymru.
  • Ymateb i ymholiadau gan fudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru ynghylch hawliau dynol.
  • Cydlynu gwaith sy’n ymwneud â’r cynnydd mewn eithafiaeth, casineb a chamwybodaeth/twyllwybodaeth yng Nghymru.
  • Datblygu briffiau ar faterion hawliau dynol allweddol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
  • Gweithio tuag at gynnwys cytuniadau hawliau dynol mewn cyfreithiau a pholisïau Cymru yn uniongyrchol.
  • Ymchwilio i anghenion y sector gwirfoddol a’r gwerth ychwanegol y gallai Consortiwm Hawliau Dynol Cymru ei gyflwyno drwy sylwadau, arolygon, grwpiau ffocws a sgyrsiau un-i-un ag unigolion.

CYSYLLTWCH Â NI

Os yw eich mudiad yn gweithio ar hawliau dynol yng Nghymru ac eisiau cymryd rhan, e-bostiwch: ehicks@wcva.cymru

Consortiwm Hawliau Dynol Cymru logo

*Saesneg yn unig