Two women in a leisure centre hall share notes as they look at a workbook

Chwaraeon BME Cymru

Mae Chwaraeon BME Cymru yn helpu i gynyddu faint o bobl o gymunedau BME sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon drwy gefnogi mudiadau i weithio â chymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Mae Chwaraeon BME Cymru yn fenter a grëwyd i’w gwneud yn haws i gymunedau BME (Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig) gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru. Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Chwaraeon Cymru a chaiff ei arwain gan CGGC.

Mae’r prosiect yn gweithredu drwy gynnig arweiniad ynghylch sut i sicrhau bod clybiau chwaraeon yn fwy croesawgar a chynhwysol i bobl o wahanol gefndiroedd ethnig a chrefyddol.

Cynhelir sesiynau hyfforddi a gweithdai hefyd i wella gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth o rwystrau a thrafod sut i ymgysylltu â gwahanol grwpiau BME.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Rajma Begum – Swyddog Amrywiaeth BME Cenedlaethol: rbegum@wc001.ddtestsite.co.uk 

Ffôn: 02920 431726 

Y stori hyd yma…

Sefydlwyd prosiect Chwaraeon BME Cymru yn 2016 i gefnogi dull cynaliadwy o gael pobl o gefndir BME i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae gan y prosiect dair prif flaenoriaeth:

  1. Mwy o gyfranogiad BME mewn chwaraeon
  2. Meithrin gallu i bobl BME gymryd rhan mewn chwaraeon
  3. Trechu anghydraddoldeb

Yn ogystal â chyrraedd y targedau cyflawni (o ran cyfranogiad, gwirfoddoli, digwyddiadau, partneriaethau), mae’r prosiect wedi llwyddo i sicrhau nifer o ganlyniadau eraill hefyd o ran gwella iechyd, lleihau trosedd, cynnig hyfforddiant ac addysg, ennyn cydlyniant cymunedol, magu hyder, a threchu unigedd, ac mae hynny’n llawer mwy na’r amcanion gwreiddiol yn unig.

Er enghraifft, gwnaeth Heather Lewis o Gaerdydd ddod i adnabod rhai o’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches yn ei hardal, a chafodd ei syfrdannu gan rai o’r pethau eithriadol o anodd ac ofnadwy roedden nhw wedi’u hwynebu yn y gorffennol.

Wedi iddynt ddangos brwdfrydedd ar ôl gwylio ei thîm pêl-rwyd yn chwarae, dechreuodd dîm yn benodol ar gyfer menywod a oedd yn ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Fe wnaethon ni dalu’r ffi ar gyfer llogi ystafell a’r cymwysterau hyfforddi i Heather er mwyn iddi gynnal y tîm yn effeithiol.

Ers hyn, mae’r tîm wedi derbyn offer fel rhoddion gan athletwyr lleol ac mae’r ystafell bellach yn cael ei chynnig i’r tîm yn rhad ac am ddim gan yr eglwys leol lle cynhelir y sesiynau.

Effaith

‘Mae cael cymryd rhan yng ngweithgareddau eich prosiect wedi newid fy mywyd i. Nawr, dw’i ddim yn teimlo’n unig nac yn isel.’

Mae Chwaraeon BME Cymru wedi gwneud gwahaniaeth ar sawl lefel:

  • Mae’r cyfranogwyr a’r gwirfoddolwyr wedi sylwi ar welliant yn eu hiechyd, eu llesiant, a’u hyder, ac maen nhw’n fwy optimistig ynghylch eu llwybr datblygu.
  • Mae gan y gymuned BME yng Nghymru fwy o ymwybyddiaeth o chwaraeon ac mae’n fwy rhagweithiol, gan ysbrydoli cylch ehangach wrth i bobl sôn am y prosiect wrth ei gilydd.
  • Mae mudiadau cymunedol wedi cryfhau eu trefniadau llywodraethu ac wedi torri tir newydd o ran eu meysydd gwaith, gyda chynnydd yn y cymorth ariannol i gynnal gweithgareddau, a chysylltiadau gwell â Chwaraeon Cymru a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol.
  • Mae tîm y prosiect wedi datblygu mwy o sgiliau a gwybodaeth, hyder mewn gwaith datblygu, hyfforddiant tiwtor, ac mae rhai bellach yn aelodau o fyrddau cydraddoldeb ac wedi ennill cymwysterau hyfforddi gan gyrff llywodraethu cenedlaethol
  • Mae cyrff llywodraethu cenedlaethol a phartneriaid chwaraeon yn ymgysylltu’n well â chymunedau BME yng Nghymru, mae gwell dealltwriaeth o ddiwylliannau a rhwystrau, ac wrth reswm mae cael rhagor o amrywiaeth ymhlith chwaraewyr yn golygu y bydd y cyfoeth o dalent yn parhau i gynyddu i gyrff llywodraethu cenedlaethol!
  • Partneriaethau â’r heddlu ynghylch cymryd rhan mewn chwaraeon a lleihau nifer y troseddau, ac annog mwy o adroddiadau am droseddau casineb.
  • Ac wrth gwrs, mae CGGC yn cael cyfle i weithio mewn maes newydd o chwaraeon ac ymgysylltu’n well â grwpiau BME.