Mae prosiect Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn yn rhoi cymorth cynhwysfawr i fudiadau treftadaeth yng Nghymru.
Ar ôl llwyddiant prosiect Codi Arian ar gyfer Treftadaeth Catalydd Cymru (2014-2018), mae’n bleser gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru barhau â’n gwaith gyda’r sector treftadaeth drwy brosiect Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn yn rhoi cymorth cynhwysfawr i fudiadau treftadaeth o bob cwr o Gymru, er mwyn iddynt allu datblygu eu mudiadau ymhellach.
Mae gwydnwch yn golygu mwy na chynhyrchu incwm o fewn mudiadau’r sector gwirfoddol. Yn ogystal â pharhau i gynnig cymorth i godi arian, bydd y prosiect newydd hwn gan Catalydd Cymru yn rhoi cymorth i fudiadau ddatblygu meysydd megis llywodraethu, marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol, rheoli prosiectau, cynllunio busnes a mesur effaith.
Byddwn yn darparu’r cymorth hwn drwy gyfrwng tri phrif weithgaredd rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mehefin 2021:
- Byddwn yn cynnal chwe diwrnod o hyfforddiant gweithredol cynhwysfawr er mwyn ehangu gwybodaeth a magu hyder yn y meysydd a nodwyd uchod. Mae 25 o leoedd ar gael i fudiadau treftadaeth.
- Bydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cynnal rhaglen o gyrsiau hyfforddi a weminarau wedi eu teilwra ar gyfer mudiadau treftadaeth.
- Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwn yn gweithio gyda mudiadau treftadaeth sydd wedi derbyn cymorth gan ddau brosiect Catalydd Cymru i ddarparu gwasanaeth mentora gan gyfoedion i fwy byth o fudiadau treftadaeth.
Prosiect i bwy yw Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn?
Mae Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn yn cynnwys tri gweithgaredd. Mae ein hyfforddiant gweithredol yn agored i fudiadau treftadaeth; mae’r rhaglen hyfforddi ar agor i bob aelod o staff, gwirfoddolwr ac ymddiriedolwr o fewn y sector treftadaeth yng Nghymru a bydd y mentora gan gyfoedion ar gael i Brif Weithredwyr/Uwch Reolwyr/ Ymddiriedolwyr sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli i fudiadau treftadaeth yn 2020.
Yn unol â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae ein diffiniad o ‘dreftadaeth’ yn cynnwys y canlynol:
- Adeiladau a henebion hanesyddol
- Natur a thirwedd (gerddi hanesyddol, bywyd gwyllt, coetir)
- Diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth
- Amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifdai a chasgliadau
- Treftadaeth anniriaethol (megis diogelu atgofion, neu brosiectau hanesyddol llafar)
- Treftadaeth gymunedol
Cymryd rhan
I gael pecyn a ffurflen gais ar gyfer yr Hyfforddiant Gweithredol, cysylltwch â Siobhan Hayward, Swyddog Prosiect Catalydd yn shayward@wcva.cymru neu ar 02920 435 761.
I weld gwybodaeth am y rhaglen hyfforddi, ewch i dudalennau hyfforddiant a digwyddiadau Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chadwch lygad am logo Catalydd Cymru.
Catalydd Cymru – Codi Arian ar gyfer Treftadaeth
Roedd ein prosiect Catalydd Cymru – Codi Arian ar gyfer Treftadaeth ar waith rhwng 2014 a 2018 ac yn canolbwyntio’n benodol ar helpu mudiadau treftadaeth i ddatblygu eu gallu i godi arian a dod yn fwy cynaliadwy. Mae’r hyn a ddysgwyd yn sgil y prosiect hwn wedi cyfrannu at ein prosiect newydd – Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn.
Casgliad y gwerthusiad annibynnol o Catalydd Cymru – Codi Arian ar gyfer Treftadaeth, a gynhaliwyd gan Wavehill, oedd bod y prosiect wedi bod yn hynod lwyddiannus.
Dyma’r canfyddiadau allweddol a gafwyd o’r gwerthusiad:
- Gwelodd 44% o’r mudiadau incwm cyson neu uwch ar unwaith o ganlyniad i hyfforddiant Catalydd.
- Roedd 85% yn disgwyl incwm cyson neu uwch gan ffynonellau preifat yn y 12 mis nesaf
O ganlyniad i hyfforddiant Catalydd …
- Dywedodd 74-90% o’r ymatebwyr fod ganddynt fwy o wybodaeth
- Dywedodd 68-83% fod ganddynt fwy o ymwybyddiaeth
- Dywedodd 65-81% fod ganddynt fwy o hyder
- Dywedodd 70-79% fod eu sgiliau o ran cael arian gan ffynonellau preifat wedi gwella
- Roedd 82% yn disgwyl rhoi mwy o’r hyn a ddysgwyd yn yr hyfforddiant ar waith yn y dyfodol
- Bydd 83% yn pasio’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu ymlaen i eraill
- Mae 79-83% yn meddwl y bydd yr hyn y maen nhw wedi’i ddysgu yn parhau i effeithio ar eu gwaith bob dydd
I weld y gwerthusiad llawn, cliciwch yma
Ynglŷn â’r cyllidwyr
Is-adran CyMAAL (Amgueddfeydd, Archifdai, Celfyddydau a Llyfrgelloedd Cymru) sy’n rhannol gyfrifol am gyllido’r hyfforddiant gweithredol ar gyfer Catalydd Cymru.
Mae CyMAAL yn helpu i hyrwyddo a diogelu diwylliant a threftadaeth Cymru drwy roi cyngor a chymorth i amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd lleol yng Nghymru ar safonau, arbenigedd a sgiliau proffesiynol, gweithredu grantiau a datblygu gwybodaeth ymchwil a gwybodaeth sylfaenol ar draws y sector. Mae’r is-adran hefyd yn rheoli’r gwaith gweithredol a pholisi sy’n gysylltiedig â nawdd y ddau fudiad cenedlaethol – Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw cyllidwr treftadaeth penodedig mwyaf y DU. Maen nhw’n credu bod deall, gwerthfawrogi a rhannu ein treftadaeth yn dod â phobl ynghyd, yn ennyn balchder yn ein cymunedau ac yn hybu buddsoddiad yn yr economi leol.
- Maen nhw’n dyrannu grantiau o £3,000 i £5 miliwn a mwy gan y Loteri Genedlaethol i gyllido prosiectau sy’n cynnal ac yn trawsnewid treftadaeth y DU
- Maen nhw’n darparu arweiniad a chymorth ym mhob rhan o’r sector treftadaeth, ac yn eirioli dros werth treftadaeth
Cysylltu:
Os ydych chi’n fudiad treftadaeth ag anghenion datblygu o unrhyw fath, os oes gennych chi syniad i’w drafod â ni neu os hoffech chi ragor o wybodaeth am y ffordd y gall Catalydd Cymru eich helpu, cysylltwch â ni. Rydyn ni’n awyddus i glywed gennych chi!
Neu os hoffech chi gadw mewn cysylltiad â datblygiadau diweddaraf y prosiect, dilynwch ein cyfrif Twitter @CatalystCymru.
Dolenni defnyddiol
Chwilio am ffynonellau cyllido ar-lein
Cyfeiriadur Cyllid The Heritage Alliance
Mae’r Cyfeiriadur yn ganllaw i ffynonellau posibl o gefnogaeth, boed hynny’n ariannol neu beidio. Mae’n hawdd ei ddefnyddio ac am ddim, ac yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n awyddus i ymgymryd â phrosiectau sy’n gysylltiedig â threftadaeth y Deyrnas Unedig. Caiff ei gynnal gan yr Heritage Alliance a’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol.
Achosion Da y Loteri – Dod o hyd i Gyllid ar gyfer eich Prosiect
Yma cewch chwilio am y rhaglen gyllido orau sydd gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer eich prosiect neu weithgaredd.
Cyllid Cymru yw’r offeryn chwilio am gyllid a grëwyd gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru. System chwilio cyllid syml ar-lein yw hon sy’n gallu helpu i ddod o hyd i gyfleoedd cyllido addas, o grantiau bach i brosiectau cyfalaf mawr a chyfleoedd cyllid trwy fenthyciadau. Ac mae’n rhad ac am ddim.
Adnoddau eraill
Cymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol
Mae Cymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol yn rhwydwaith aelodaeth ffyniannus i amgueddfeydd, orielau a mudiadau treftadaeth annibynnol ledled y DU.
Cronfa Treftadaeth Bensaernïol (CTB)
Mae’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yn elusen gofrestredig sy’n gweithio ers 1976 i hyrwyddo’r gwaith o warchod ac ailddefnyddio adeiladau hanesyddol mewn modd cynaliadwy er budd cymunedau o bob rhan o’r DU. Mae CTB yn gwneud hyn drwy roi cyngor, gwybodaeth a chymorth ariannol ar ffurf grantiau a benthyciadau cynnar i brosiectau sy’n cael eu gwneud gan elusennau a mudiadau preifat dielw.
Art Fund
Art Fund yw’r elusen genedlaethol sy’n codi arian ar gyfer celf. Mae’r gronfa’n helpu amgueddfeydd ac orielau i brynu gwaith celf ac yn helpu’r cyhoedd i wneud yn fawr o gasgliadau cyfareddol y DU. Mae’r wefan yn gartref i Art Happens, un o’r platfformau cyllido torfol enwocaf ar gyfer y celfyddydau a threftadaeth.
Association of Cultural Enterprises
Mae’r Association for Cultural Enterprises yn hyrwyddo arferion masnachol gorau yn sector diwylliannol a threftadaeth y DU drwy ddarparu cyfleoedd hyfforddiant a rhwydweithio a hwyluso aelodau i rannu gwybodaeth a phrofiadau ymhlith ei gilydd.
Cymdeithas Cyfeillion Amgueddfeydd Prydain
Mae Cymdeithas Cyfeillion Amgueddfeydd Prydain yma i helpu, annog, hysbysu a chynghori cyfeillion, cefnogwyr a gwirfoddolwyr sy’n ymwneud ag amgueddfeydd, orielau a mudiadau celfyddydol eraill ym mhob rhan o dreftadaeth y DU.
Mae Cymdeithas Cyfeillion Amgueddfeydd Prydain yn cefnogi grwpiau Cyfeillion lleol, yn eu hysbysu am eitemau o fudd, ac mae’n rhwydwaith i helpu i rannu problemau a datrysiadau.
Y Comisiwn Elusennau yw’r rheolydd annibynnol ar gyfer gweithgareddau elusennol. Mae’n galluogi elusennau i gael cymaint â phosibl o effaith; yn sicrhau bod rhwymedigaethau cyfreithiol yn cael eu dilyn; yn annog arloesedd ac effeithiolrwydd; ac yn hyrwyddo budd y cyhoedd mewn elusennau er mwyn ennyn ffydd a hyder y cyhoedd.
Mae’r Community Knowledge Hub yn wasanaeth i Lyfrgelloedd sy’n dod a chanllawiau ac adnoddau arbenigol ynghyd â chymuned ryngweithiol o fudiadau ac awdurdodau lleol sy’n ymwneud â llyfrgelloedd a reolir ac a gefnogir gan y gymuned. Gall roi cyngor ar gydgynhyrchu a throsglwyddo asedau. Gwasanaeth a ddarperir gan Locality.
Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd Sector yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CTSC). Nod y rhwydwaith yw galluogi’r trydydd sector a gwirfoddolwyr ledled Cymru i gyfrannu’n llawn at lesiant unigolion a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol.
Mae CTSC yn cynnwys pob un o’r 19 cyngor gwirfoddol sirol a CGGC. Mae eich cyngor gwirfoddol sirol yn darparu cyngor a gwybodaeth ynglŷn â chodi arian a ffynonellau arian eraill, yn ogystal â’ch cynorthwyo gyda materion megis llywodraethu.
Mae AMA yn helpu pobl sy’n gweithio yn y celfyddydau a sefydliadau celfyddydol i gyrraedd mwy o gynulleidfaoedd gyda hyfforddiant, digwyddiadau ac adnoddau.
Cyfeiriadur Newid Cymdeithasol
Sefydliad annibynnol yw Cyfeiriadur Newid Cymdeithasol sy’n darparu cyrsiau hyfforddi, cyhoeddiadau, cronfeydd data cyllido ar-lein, ymchwil a chynadleddau ar gyfer y sector gwirfoddol. Maen nhw hefyd yn rhedeg siop lyfrau ac yn rhoi llawer o adnoddau am ddim ar eu gwefan, gan gynnwys awgrymiadau da ac erthyglau am arferion gorau.
Ffocws cyffredinol Cynnal Cymru yw datblygu a hyrwyddo cymdeithas gynaliadwy, effeithlon o ran adnoddau a chymdeithas garbon isel drwy ymgysylltu â mentrau, y trydydd sector a chymunedau. Maen nhw’n dod â mudiadau lleol a chenedlaethol o bob rhan o Gymru ynghyd i helpu ei gilydd i ddatblygu gwasanaethau a gweithrediadau mwy cynaliadwy. Mae Cynnal Cymru yn cynnig gwasanaethau o ansawdd uchel i fudiadau er mwyn eu gwneud yn fwy cynaliadwy – y gwasanaethau yw Cynnal Connect a Cynnal Consult.
Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru
Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru yw’r corff strategol ar gyfer gweithwyr amgueddfeydd ac orielau celf proffesiynol yng Nghymru.
Tair neges allweddol y Ffederasiwn yw:
- Mae amgueddfeydd yn grymuso pobl drwy ddysgu, cyfranogiad ac ysbrydoliaeth
- Mae amgueddfeydd a’u casgliadau’n cryfhau hunaniaeth gymunedol
- Mae amgueddfeydd yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol drwy dwristiaeth ac adfywio
Corff annibynnol, anstatudol yw’r Rheoleiddiwr Codi Arian sy’n rheoleiddio codi arian ar draws y sector elusennol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon Maen nhw’n cefnogi’r arferion gorau ym maes codi arian er mwyn diogelu rhoddwyr a chefnogi gwaith hanfodol y rhai sy’n codi arian. Maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth â rheoleiddwyr eraill a’r cyrff cynrychiadol yn y sectorau elusennol a chodi arian i fagu hyder y cyhoedd a sicrhau safonau codi arian cyson ledled y DU. Y Rheoleiddiwr sy’n gyfrifol am Y Cod Ymarfer Codi Arian ac ef hefyd sy’n gweinyddu’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (neu Gronfa Dreftadaeth y Loteri’n flaenorol), yw cyllidwr treftadaeth penodedig mwyaf y DU.
Maen nhw’n credu bod deall, gwerthfawrogi a rhannu ein treftadaeth yn dod â phobl ynghyd, yn ysbrydoli balchder mewn cymunedau ac yn hybu buddsoddiad yn yr economi leol.
- Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn dyrannu grantiau o £3,000 i £5 miliwn a mwy, i ariannu prosiectau sy’n cynnal ac yn trawsnewid treftadaeth y DU
- Maen nhw’n darparu arweiniad a chymorth ym mhob rhan o’r sector treftadaeth, ac yn eirioli dros werth treftadaeth i fywyd modern. O amgueddfeydd, parciau a mannau hanesyddol i archaeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw prif gyllidwr prosiect Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn.
Y Sefydliad Codi Arian yw’r corff ymaelodi proffesiynol genedlaethol ar gyfer codi arian yn y DU ac mae’n darparu arweiniad, hyfforddiant a chymwysterau ar amrediad o ddulliau codi arian. Mae Sefydliad Codi Arian Cymru yn cynnal hyfforddiant, digwyddiadau rhwydweithio a chynadleddau yn arbennig ar gyfer elusennau a’r rhai sy’n codi arian yng Nghymru.
Mae Locality yn helpu pobl i sefydlu mudiadau sydd dan berchnogaeth ac arweiniad lleol. Maen nhw’n cefnogi mudiadau cymunedol i fod yn gryf a llwyddiannus, i ddiwallu anghenion lleol ac i roi pwrpas, lle da i fyw ac iechyd da i bobl. Mae ganddyn nhw rwydwaith o aelodau, maen nhw’n darparu adnoddau a chyngor a chymorth arbenigol ac yn ymgyrchu er mwyn creu amgylchedd gwell i fudiadau cymunedol weithredu o’i fewn.
Mae Cymdeithas yr Amgueddfeydd yn fudiad aelodaeth annibynnol ar gyfer pawb sy’n gweithio mewn amgueddfeydd, orielau ac yn y maes treftadaeth.
Mae’r Glymblaid Elusennau Bach yn cefnogi elusennau bach i gael gafael ar y sgiliau, yr offer a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gychwyn arni a gwneud yr hyn y maen nhw’n ei wneud orau.
‘Arddangosfa o arloesedd ac ysbrydoliaeth wrth godi arian’. Mae SOFII yn wefan llawn adnoddau, astudiaethau achos ac offer codi arian i’ch helpu gyda’ch ymdrechion eich hun i godi arian.
Cymdeithas Ymddiriedolaethau Cadwraeth Adeiladu’r DU
Mae’n hyrwyddo ac yn cefnogi’r gwaith o arbed adeiladau hanesyddol a’u defnyddio’n gynaliadwy.
Casgliad cynhwysfawr o wybodaeth, newyddion ac adnoddau defnyddiol sy’n ymwneud â chodi arian.
CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru)
Pwrpas CGGC yw galluogi mudiadau gwirfoddol Cymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd. CGGC yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Mae Cyswllt Amgylcheddol Cymru’n rhwydwaith o fudiadau amgylcheddol, cefn gwlad a threftadaeth anllywodraethol sydd â chylch Gwaith Cymru gyfan.
Porth ar-lein yw Gwirfoddoli Cymru sy’n cynorthwyo â’r gwaith o recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr.