Mae Amrywiaeth Chwaraeon Cymru yn grymuso cymunedau ethnig lleiafrifol Cymru drwy chwaraeon er mwyn creu dyfodol mwy disglair a chynhwysol.
Dod â chymunedau ledled Cymru ynghyd i drawsnewid chwaraeon.
NI YW AMRYWIAETH CHWARAEON CYMRU
Ers ein sefydliad yn 2016 fel ‘BME Chwaraeon Cymru’, rydyn ni wedi bod ar flaen y gad o ran hyrwyddo amrywiaeth mewn chwaraeon yng Nghymru. Dechreuodd ein taith gyda gweledigaeth i wneud chwaraeon yn fwy hygyrch a chroesawgar i gymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru. Wedi ein cyllido gan Chwaraeon Cymru a’n harwain gan CGGC, rydyn ni wedi tyfu i fod yn fenter gadarn sydd nid yn unig yn cyflawni ond yn rhagori ar ein nod. Ni yw Amrywiaeth Chwaraeon Cymru.
MAE EIN GWAITH NI’N HELPU CHWARAEON CYMRU I GREU CENEDL EGNÏOL
Cynlluniwyd menter Amrywiaeth Chwaraeon Cymru i’w gwneud hi’n haws i gymunedau ethnig amrywiol gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru. Rydyn ni’n helpu i gynyddu’r cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru drwy gefnogi mudiadau i weithio gyda chymunedau ethnig lleiafrifol.
Mae ein prosiect yn cynnig arweiniad ar sut i wneud clybiau chwaraeon yn fwy croesawgar a chynhwysol i bobl o gefndiroedd ethnig a chrefyddol amrywiol.
Rydyn ni hefyd yn cynnig hyfforddiant a gweithdai i gynyddu gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth o rwystrau a dangos sut i ymgysylltu â grwpiau ethnig amrywiol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag amrywiaethchwaraeoncymru@wcva.cymru neu cysylltwch â’n tîm yn uniongyrchol:
- Rajma Begum, Rheolwr Amrywiaeth Chwaraeon Cenedlaethol – rbegum@wcva.cymru
- Sumaya Khan, Swyddog Amrywiaeth Chwaraeon Cenedlaethol – skhan@wwcva.cymru
Y STORI HYD YN HYN…
Sefydlwyd Amrywiaeth Chwaraeon Cymru (a elwid gynt yn brosiect BME Chwaraeon Cymru) yn 2016 i gefnogi ffordd gynaliadwy o fynd ati i annog pobl dduon ac ethnig leiafrifol i gymryd rhan mewn chwaraeon. Roedd tair prif flaenoriaeth:
- Cynyddu cyfranogiad ethnig amrywiol mewn chwaraeon
- Meithrin gallu pobl ethnig amrywiol i gymryd rhan mewn chwaraeon
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb
Mae’r prosiect nid yn unig wedi cyflawni ei dargedau cyflawni (a oedd yn canolbwyntio ar gyfranogiad, gwirfoddoli, digwyddiadau a phartneriaethau) ond hefyd wedi cyflawni llawer o ganlyniadau ychwanegol eraill mewn meysydd fel iechyd, trosedd, hyfforddiant ac addysg, cydlyniant cymunedol, hyder a threchu ynysigrwydd. Mae’r prosiect wedi cyflawni llawer mwy na’r amcanion cychwynnol yn unig.
ASTUDIAETH ACHOS – PÊL-RWYD GYNHWYSOL
Daeth Heather Lewis o Gaerdydd i adnabod rhai o’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches yn ei hardal a chafodd ei syfrdanu gan rai o’r pethau anhygoel o anodd ac ofnadwy roedden nhw wedi’u profi. Ar ôl iddynt ddangos brwdfrydedd wrth wylio ei thîm pêl-rwyd yn chwarae, dechreuodd Heather dîm i ffoaduriaid a cheiswyr lloches benywaidd yn unig.
Gwnaeth Amrywiaeth Chwaraeon Cymru dalu am logi’r ystafell a chael cymwysterau hyfforddi i Heather redeg y tîm yn effeithlon.
Ers hynny, maen nhw wedi derbyn rhoddion o offer gan athletwyr lleol ac mae’r ystafell bellach yn cael ei chynnig i’r tîm am ddim gan yr eglwys leol lle cynhelir y sesiynau.
EIN HEFFAITH
‘Mae cael mynediad at eich gweithgareddau prosiect wedi newid fy mywyd. Dydw i ddim yn teimlo’n unig nac yn isel fy ysbryd mwyach.’
Mae Amrywiaeth Chwaraeon Cymru wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ar nifer o lefelau:
- Mae cyfranogwyr a gwirfoddolwyr wedi disgrifio cynnydd yn eu hiechyd, lles, hyder, ac maen nhw’n fwy optimistaidd am eu llwybrau ar gyfer datblygiad.
- Mae gan y gymuned bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru fwy o ymwybyddiaeth o chwaraeon ac mae’n fwy egnïol, gan ysbrydoli cylch ehangach ar lafar.
- Mae mudiadau cymunedol wedi cryfhau’r llywodraethu ac wedi ehangu i feysydd cyflawni newydd, gyda mwy o gymorth ariannol i gynnal gweithgareddau, a gwell cysylltiadau â Chwaraeon Cymru a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol (NGBs).
- Mae gan NGBs a phartneriaid chwaraeon ymgysylltiad gwell â chymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru, gwell dealltwriaeth o ddiwylliannau a rhwystrau. Mae cael amrywiaeth ehangach o chwaraewyr yn golygu y bydd cyfoeth y dalent yn parhau i gynyddu i NGBs!
- Rydyn ni wedi datblygu partneriaethau gyda’r Heddlu ar ymgysylltu trwy chwaraeon, lleihau troseddu, ac i annog mwy o bobl i adrodd am droseddau casineb.
- Mae’r tîm prosiect eu hunain wedi datblygu mwy o sgiliau a gwybodaeth, wedi magu hyder mewn gwaith datblygu ac wedi cwblhau hyfforddiant tiwtoriaid. Mae rhai bellach ar fyrddau cydraddoldeb a chyda chymwysterau hyfforddi NGB.
Mae ein prosiect hefyd yn cefnogi CGGC i weithio mewn maes newydd o chwaraeon a chael gwell ymgysylltiad â grwpiau ethnig amrywiol.
Caiff Amrywiaeth Chwaraeon Cymru ei gyllido gan Chwaraeon Cymru a’i arwain gan CGGC.



