Man sat pointing at laptop as woman sat at desk takes notes of his advice

3-SET

Tîm Ewropeaidd y Trydydd Sector yw 3-SET – rydyn ni yma i gynnig cyngor a hyfforddiant i helpu’r sector gwirfoddol yng Nghymru i gael gafael ar gronfeydd Ewropeaidd, a rhoi cyhoeddusrwydd i’r gwaith da y mae cyllid yn ei wneud yng Nghymru.

Mae 3-SET yn helpu i gynnal cyrsiau hyfforddi, rhwydweithiau a sesiynau gwybodaeth amrywiol ar gyfer mudiadau sydd â diddordeb mewn prosiectau a gyllidir gan Ewrop neu sy’n rhedeg prosiectau o’r fath, ac rydyn ni hefyd yn anfon diweddariadau rheolaidd ar gyllid Ewropeaidd a’r sector.

  • Ydych chi wedi eisiau ymwneud â chyllid Ewropeaidd ers tro byd ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Mae 3-SET yma i’ch helpu. 
  • Ydych chi’n rhedeg prosiect sy’n cael cyllid Ewropeaidd ac yn awyddus i rannu eich stori? Gall 3-SET eich helpu gyda hynny hefyd.
  • Oes angen help a chyngor arnoch i redeg prosiect a gyllidir gan Ewrop? Mae 3-SET yn fwy na pharod i roi unrhyw gymorth posibl i chi. 

Gallwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr misol ac ein bwletinau cyllido rheolaidd yma. Os oes gennych unrhyw gwestiynau i’r tîm, rydym ar gael ar 3set@wcva.cymru neu 0300 111 0124.

CYLLID EWROPEAIDD YNG NGHYMRU

Mae rhannau o Gymru yn elwa ar gronfeydd Ewropeaidd a gyda’i gilydd gelwir y rhain yn Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd. Mae CGGC wedi bod yn ymwneud â dosbarthu Cronfeydd Ewropeaidd ar ryw ffurf neu’i gilydd ers y flwyddyn 2000.

Beth yw hwn?

Cymorth Datblygu yr UE

Pwy sy’n ei gael?

Y 28 Aelod-wladwriaeth (presennol)

Pryd ydyn ni’n ei gael?

Dyrennir y cyllid mewn cylchoedd cyllido saith mlynedd. Mae’r cylch diweddaraf yn cwmpasu 2014-2020.

Pam rydyn ni’n ei gael?

Er mwyn ehangu cyfoeth, hyrwyddo datblygiad a chydlyniant cymdeithasol

Sut byddwn ni’n ei gael?

Daw’r arian drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)

Faint ohono rydyn ni’n ei gael?

£1.8 biliwn rhwng 2014-2020

MATHAU O GYLLID

Y ddwy gronfa a ddefnyddir amlaf gan y sector gwirfoddol yw Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)

Mae’r ESF yn ymwneud â phobl. Ei phwrpas yw gwella cyfleoedd cyflogaeth, hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a buddsoddi mewn sgiliau drwy ddarparu cymorth i helpu pobl i gyflawni eu potensial. Yn CGGC, rydym yn rheoli’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, sy’n cael ei chyllido’n rhannol gan arian yr ESF a Llywodraeth Cymru.

Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) 

Mae’r ERDF yn ymwneud â busnes a seilwaith. Ei phwrpas yw cefnogi ymchwil, cryfhau busnesau, hyrwyddo ynni adnewyddadwy a gwella seilwaith. Mae’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol a Chronfa Datblygu Asedau Cymunedol Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn cael eu cyllido’n rhannol gan yr ERDF a Llywodraeth Cymru.

SUT MAE’R ARIAN YN CAEL EI DDYRANNU?

Mae’r rhan fwyaf o’r arian yn cael ei roi i Orllewin Cymru a’r Cymoedd sy’n cael ei ystyried yn rhanbarthau llai datblygedig. Mae swm llai yn cael ei roi i Ddwyrain Cymru sy’n cael ei ystyried yn rhanbarth mwy datblygedig. Mae prosiectau naill ai’n cael eu cyflawni yn Nwyrain Cymru neu yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, ac nid oes modd eu cymysgu. Er enghraifft, mae gan y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol 4 prosiect wedi’u cymeradwyo: Dros 25 oed yn Ne-ddwyrain Cymru, Dros 25 oed yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, Ieuenctid Dwyrain Cymru ac Ieuenctid Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

TAFLENNU GWYBODAETH

Mwy taflennu gwybodaeth

Categori | Cyllid |

3-SET

Categori | Cyllid |

Gweithgareddau caffael mewn perthynas â chyllid Ewropeaidd yng Nghymru

Mwy o adnoddau