Llun o sgrin ar mic agored Prosiect Hope

Project Hope: Astudiaeth Achos

Cyhoeddwyd : 02/06/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Prosiect gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc yw Project Hope. Cafodd ei ddechrau gan Naomi Lea, 21 oed, rai misoedd yn ôl, ac mae wedi tyfu’n sylweddol ers hyn, gan ddenu pobl ifanc o bob cwr o Gymru.

Nod y prosiect yw trechu unigrwydd ac ynysu yn ystod COVID-19, gan roi ymdeimlad o berthyn a chydgefnogaeth i’r trefnwyr a’r cyfranogwyr ifanc. ‘Mae sefydlu a chydlynu Project Hope wedi fy ngalluogi i deimlo’n llai unig nag ydw i wedi’i deimlo ers cryn amser drwy gysylltu â chymaint o bobl ifanc anhygoel ledled y DU,’ meddai Naomi. Mae’r prosiect yn dod at ei gilydd deirgwaith yr wythnos ar Zoom, ble rydyn ni’n cymryd rhan mewn popeth o nosweithiau gemau i wersi iaith a rhith-egwylion te. Mae llesiant yn bwnc pwysig ar yr agenda hefyd, ac mae unrhyw un sy’n ymuno â’r sesiynau yn siŵr o adael â gwên ar ei wyneb.

Caiff Project Hope ei arwain ar hyn o bryd gan oddeutu 20 o wirfoddolwyr ifanc diwyd sy’n ymdrechu i wneud gwahaniaeth. Maen nhw’n cael eu cefnogi gan weithwyr proffesiynol a, gyda’i gilydd, mae’r grŵp yn codi calonnau ieuenctid ar hyd a lled Cymru.

Gwneud cysylltiadau ledled y byd

Mae’r prosiect wedi tyfu’n sylweddol ers iddo gael ei lansio, gyda chyfranogwyr o’r tu allan i Gymru yn rhoi cynnig arno. Mae cyfranogwr rhyngwladol o America wedi ymuno â’r sesiynau’n ddiweddar, sy’n amlygu cwmpas eang y prosiect. Mae pobl ifanc newydd yn parhau i gysylltu â’r prosiect bob wythnos gan gael croeso cynnes gan gymuned frwdfrydig.

Gyda chyfrif Facebook, Twitter ac Instagram (@YLProjectHope), mae’r gwirfoddolwyr yn estyn allan i bobl ifanc ar amrywiaeth eang o blatfformau, gan fwyhau eu heffaith gadarnhaol drwy ledaenu negeseuon o obaith. Maen nhw’n gweithio ar wefan ar hyn o bryd ac mae ganddyn nhw gyfrif Tik Tok ar waith i gyrraedd a gwella bywydau cymaint â phosibl o bobl ifanc sy’n teimlo wedi’u hynysu.

‘Gwnes i ddarganfod Project Hope drwy neges oedd wedi’i haildrydaru ar fy ffrwd Twitter yn gofyn i bobl ifanc gymryd rhan mewn prosiect a oedd yn ymwneud ar unigrwydd yn ystod argyfwng Covid-19, ac ers hynny, rwyf wedi bod yn gwneud mwy a mwy gyda’r grŵp yn gwneud cymysgedd o bethau gwahanol. Mae bod yn rhan o Project Hope wedi rhoi rhywbeth i mi sy’n cynnal fy nghymhelliant yn ystod yr holl gyfnod hwn o ansicrwydd, gan hefyd roi lle diogel a chysurus i mi ddysgu sgiliau newydd a datblygu sgiliau oedd gennyf yn barod, fel creu cynnwys.’

– Kelly, un o’r gwirfoddolwyr ifanc.

Helpu pobl ifanc i deimlo’n well

Mae Project Hope, sy’n agored i bawb rhwng 13-25 oed, wedi rhoi gwên ar wyneb nifer dirifedi o unigolion ifanc. Drwy gysylltu pobl ifanc â’i gilydd, maen nhw wedi creu cymuned gynhwysol sy’n lleihau unigrwydd. Yn ogystal, mae’r trefnwyr yn cael ymdeimlad o ddiben drwy gefnogi pobl ifanc eraill o Gymru i deimlo’n well yn ystod argyfwng COVID-19. Gyda chwmpas y prosiect yn parhau i gynyddu, mae’r prosiect hwn yn cyfleu neges glir am bŵer ieuenctid (#PowerOfYouth). Wedi’i drefnu gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc, mae’r genhadaeth bwerus hon dros uno yn creu tonnau o newid cadarnhaol yn ystod y diwrnodau digidol hyn.

‘Rwyf mor falch o’r tîm am bopeth maen nhw’n ei wneud. Mae pob un sesiwn rydyn ni’n ei chael neu gynnwys newydd rydyn ni’n ei bostio ar gyfryngau cymdeithasol yn fy atgoffa o pam wnaethon ni sefydlu’r prosiect hwn – mae’n ein cadw ni’n wirioneddol gysylltiedig ac rydyn ni wedi gwneud ffrindiau newydd anhygoel!’

– Naomi Lea, sylfaenydd y prosiect.

Cymryd rhan

Ydych chi rhwng 13-25 oed? Cysylltwch â Project Hope yn youthloneliness@outlook.com a dilynwch nhw ar gyfryngau cymdeithasol @ylprojecthope i weld negeseuon rhyngweithiol calonogol, llawn hwyl. Hefyd, mae croeso i chi ymuno ag un o’u cyfarfodydd nhw, mae rhywbeth yno i bawb!

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy