Mae ymchwil diweddar gan y Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol yn amlygu’r cymhellion a’r rhwystrau i wirfoddoli i grwpiau ethnig lleiafrifol ledled Prydain Fawr.
Gwnaeth arolwg diweddar gan y Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) edrych ar wirfoddolwyr ‘mwyafrif byd-eang’. Cafodd y term mwyafrif byd-eang ei ddefnyddio i ddisgrifio pobl o bob grŵp ethnig heblaw am bobl gwyn Prydeinig a grwpiau gwyn lleiafrifol eraill, ar y sail bod hyn yn disgrifio 80% o’n poblogaeth fyd-eang.
Mae’r term yn adlewyrchu amrywiaeth eang o gefndiroedd, diwylliannau ac amgylchiadau ac mae angen ystyried hyn wrth archwilio canfyddiadau’r astudiaeth.
CANFYDDIADAU
Canfu’r arolwg bod cyfran uchel o wirfoddolwyr mwyafrif byd-eang yn fodlon iawn â’u profiadau gwirfoddoli (86%), ond nid oedd y gyfran mor uchel ymhlith gwirfoddolwyr yn gyffredinol (92%). Mae gwirfoddolwyr mwyafrif byd-eang yn fwy tebygol o deimlo wedi’u hallgau ac yn llai tebygol o barhau i wirfoddoli o’u cymharu â gwirfoddolwyr yn gyffredinol.
Mae oedran ac anabledd hefyd yn effeithio ar foddhad, gyda phobl iau a’r rheini ag anableddau yn debygol o fod yn llai bodlon. Mae ffactorau eraill fel amddifadedd cymdeithasol ac economaidd a mynediad at gyfleoedd i wirfoddoli hefyd yn effeithio ar y ffordd y mae poblogaethau mwyafrif byd-eang yn ymgysylltu â gwirfoddoli.
Ond y profiad o wirfoddoli sy’n cael yr effaith fwyaf, gan gynnwys diwylliant mudiad a’r cymorth, y croeso a’r gydnabyddiaeth a roddir i wirfoddolwyr.
YR ASTUDIAETH
Yn dilyn yr arolwg gwreiddiol, *Time Well Spent, a gynhaliwyd gan NCVO yn 2019, cynhaliwyd *arolwg pellach yn 2023, gan gynnwys sampl fwy o faint i edrych ar brofiad gwirfoddolwyr mwyafrif byd-eang mewn mwy o fanylder. Canolbwyntiodd yr ymchwil hwn ar wirfoddoli ffurfiol – hynny yw, gwirfoddoli drwy grwpiau, clybiau a mudiadau. Gwnaeth NCVO hefyd gynnal adolygiad cyflym o dystiolaeth a gweithdai i’r rheini â phrofiad bywyd ac arbenigedd.
SAFBWYNTIAU GWAHANOL
O’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol o wirfoddolwyr, roedd gwirfoddolwyr mwyafrif byd-eang yn iau, yn fwy tebygol o fod mewn gwaith a gyda phlant, ac yn fwy tebygol o fyw mewn ardal drefol a bod â ffydd grefyddol.
Mae gwirfoddolwyr mwyafrif byd-eang mwy na ddwywaith mor debygol o wirfoddoli dros achos crefyddol (21% o’u cymharu â 10%). Roedd cymhelliant gyrfaol hefyd yn uwch (14% o’u cymharu â 9%), ond y cymhelliant cryfaf oedd helpu pobl eraill.
Roedd pob gwirfoddolwr yn credu bod cael mudiad â diwylliant o ymddiriedaeth a pharch yn bwysig iawn, ond roedd y pryderon o ran ‘ddim yn ffitio i mewn’, teimlo wedi’u hallgau neu deimlo bod disgwyliadau afresymol yn cael eu gosod arnynt i gyd yn uwch ymhlith gwirfoddolwyr mwyafrif byd-eang. Mae tensiynau ac achosion o wrthdaro rhwng pobl yn y mudiad yn cael eu nodi’n amlach (43% ymhlith gwirfoddolwyr byd-eang o’u cymharu â 32% ymhlith gwirfoddolwyr yn gyffredinol).
Ond mae’r awydd i wirfoddoli yn parhau serch y rhwystrau ac mae gan bobl o’r boblogaeth fwyafrif byd-eang fwy o ddiddordeb mewn gwirfoddoli na’r boblogaeth gyffredinol.
ARFERION DA
Er mwyn gwella’r profiad a denu mwy o wirfoddolwyr mwyafrif byd-eang, mae angen i ni allu rhoi sylw i’r rhwystrau cyffredin a bodloni disgwyliadau.
Rydym eisoes wedi cyfeirio at ddiwylliant mudiad. Mae adeiladu diwylliant o ymddiriedaeth, rhoi ymdeimlad o berthyn i bobl ac ymwreiddio arferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) o fewn y mudiad yn arbennig o bwysig i wirfoddolwyr mwyafrif byd-eang.
Rhaid i ni hefyd ystyried effaith croestoriadedd, sef effaith lliaws o ffactorau manteisiol neu anfanteisiol, fel oedran, dosbarth, rhyw a gallu, ar grwpiau penodol o’r boblogaeth.
Mae gan wirfoddolwyr mwyafrif byd-eang ddisgwyliadau uwch o ran pa mor gyflym a hawdd yw hi i wirfoddoli. Bydd cadw’r broses recriwtio mor syml a chyflym â phosibl yn helpu, ynghyd â datblygu cyfleoedd untro a hyblyg i gymryd rhan.
BETH ARALL ALLWN NI EI DDYSGU O’R ASTUDIAETH?
Mae angen cymryd cymhellion o ddifrif, ac mae hyn yn golygu gwrando ar wirfoddolwyr o’r cychwyn cyntaf, gofyn am adborth (yn anffurfiol yn ogystal â thrwy ffyrdd mwy ffurfiol fel arolygon) a gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â materion a chyd-greu datblygiadau.
Mae cynnig treuliau gwirfoddolwyr yn ffordd o gydnabod gwerth gwirfoddolwyr. Mae’n bwysig i ddiwylliant cynhwysol, oherwydd gall gorfod gofyn am dreuliau pan fydd eu hangen fod yn lletchwith ac, yn wir, yn rhwystr i gymryd rhan.
Mae angen i ni feithrin arweinyddiaeth amrywiaeth mewn rolau rheoli a rolau ymddiriedolwyr. Bydd hyn yn effeithio ar bolisi a diwylliant y mudiad, yn cynnig pobl a fydd yn esiampl i eraill ac yn denu gwirfoddolwyr amrywiol.
Mae hefyd angen i ni ganolbwyntio ar adeiladu diwylliannau o ymddiriedaeth, parch ac ymdeimlad o berthyn, er mwyn sicrhau bod gwirfoddolwyr mwyafrif byd-eang yn cael y profiad gorau.
RHAGOR O WYBODAETH
Darllenwch yr adroddiad llawn: *Time Well Spent 2023: Volunteering among the global majority.