Prif Weithredwr CGGC Ruth Marks yn siarad yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2023

Prif Weithredwr CGGC yn cyhoeddi ymddeoliad

Cyhoeddwyd : 23/11/23 | Categorïau: Newyddion |

Mae Prif Weithredwr CGGC, Ruth Marks wedi cyhoeddi cynlluniau i ymddeol ar ôl bron i naw mlynedd fel pennaeth y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol heddiw, clywodd aelodau CGGC y bydd Ruth Marks, Prif Weithredwr ers 2015, yn ymddeol ddiwedd mis Ebrill 2024.

Yn ei chyhoeddiad dywedodd Ruth, ‘Rwyf wedi cael amser arbennig fel Prif Weithredwr CGGC. Gan weithio gyda’r tîm staff a bwrdd yr ymddiriedolwyr, rydym wedi cyflawni cymaint. Rydym mewn sefyllfa dda iawn i ddechrau blwyddyn ein pen-blwydd yn 90 oed yn 2024 a pharhau i ganolbwyntio ar ein haelodau, ein strategaeth a’n rôl unigryw wrth gefnogi’r sector gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru.’

RUTH- EI GWADDOL

Fel Prif Weithredwr, mae Ruth wedi cyflawni llawer, gan arwain sawl adolygiad, meithrin ymddiriedaeth uchel mewn mudiad sy’n seiliedig ar werth a chysylltiadau cryf ar draws y sector, gan greu sylfaen gadarn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Yn flaenorol mae Ruth wedi dal amrywiaeth o rolau yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol ac mae’n parhau i wasanaethu fel ymddiriedolwr a chynghorydd i nifer o elusennau a byrddau.

YMRWYMIAD I GYMDEITHAS SIFIL, GWASANAETH CYHOEDDUS A GWIRFODDOL

Wrth sôn am newyddion Ruth, dywedodd Cadeirydd CGGC, Dr Neil Wooding CBE:

‘Mae Ruth wedi rheoli newidiadau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi ein gosod mewn sefyllfa dda iawn ar gyfer y dyfodol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i CGGC fel mudiad ac i Ruth yn bersonol. Mae Ruth yn canolbwyntio ar arwain tîm y staff a chefnogi’r Bwrdd Ymddiriedolwyr wrth i ni lansio’r broses recriwtio am ein Prif Weithredwr nesaf. Mae pawb yn CGGC yn dymuno’r gorau i Ruth ar gyfer y bennod nesaf o’i bywyd sydd wedi’i diffinio mor dda gan ei hymrwymiad i gymdeithas sifil, gwasanaeth cyhoeddus a gwirfoddol.’

Bydd CGGC yn recriwtio Prif Weithredwr newydd a bydd gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael yn fuan.

AM RUTH MARKS

Penodwyd Ruth yn Brif Weithredwr ar CGGC yn 2015. Yn Gomisiynydd Pobl Hŷn cyntaf yn y byd, sefydlodd Ruth swyddfa annibynnol a defnyddio ei phwerau statudol i adolygu gofal iechyd i bobl hŷn, gan gynyrchu’r adroddiad Gofal Gydag Urddas.

Yn arweinydd ac yn actifydd profiadol yn y sector elusennol, mae Ruth wedi arwain RNIB Cymru a Chwarae Teg a chynnal adolygiad annibynnol o reoliad iechyd yng Nghymru. Mae ei chymhwysterau ôl-raddedig mewn rheolaeth adnoddau dynol ac arweinyddiaeth gydweithredol.

Mae Ruth yn cyfrannu yn reolaidd at fyrddau cynghori ac ymholiadau ar faterion yn cynnwys amrywiaeth, cydraddoldeb, gwirfoddoli a’r sector elusennol. Mae Ruth yn ymddiriedolwr o ACEVO a Cynnal Cymru, yn aelod bwrdd cynghori Academi Wales ac yn gyfarwyddwr ar yr International Federation on Ageing.

Mae Ruth yn mwynhau mynd i’r theatr a’r sinema ac wrth ei bodd yn teithio – boed ar dripiau byr neu anturiaethau byd eang gyda’i gŵr.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Newyddion

Datganiad ar yr ymosodiadau diweddar ar Gyngor Ffoaduriaid Cymru dros gyfryngau cymdeithasol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Newyddion

Swydd Wag – Rheolwr Rhaglen Forol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

CLlLC yn amlygu pwysau ariannu ‘anghynaladwy’

Darllen mwy