Mae Prif Weithredwr CGGC, Ruth Marks, wedi cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ’r Arglwyddi.
Mae’r Pwyllgor (Saesneg yn unig) wedi’i sefydlu i edrych ar dystiolaeth o gryfderau a gwendidau sefydlu un fframwaith cyffredin hyblyg ar gyfer polisi caffael y gall pedair gwlad y DU weithredu o’i fewn.
Yn y sesiwn, a gadeiriwyd gan y Farwnes Andrews OBE, ac a gafodd ei mynychu hefyd gan Gail McGregor o Gonfensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban, amlygodd Ruth Marks Gynllun y Trydydd Sector, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, fel dim ond un rheswm pam fod gan y sector gwirfoddol yng Nghymru ddiddordeb mewn polisi caffael cenedlaethol, a nododd awydd i barhau i fod ‘mor gysylltiedig â phosibl’ â mudiadau y partnerwyd â nhw’n flaenorol ledled Cymru cyn ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ddiweddarach, siaradodd am y cyfle y gallai fframwaith cyffredin ei gyflwyno o ran sefydlu dull caffael cydweithredol a chydgynhyrchiol ledled y pedair wlad, gyda digon o ddargyfeirio’n cael ei ganiatau i alluogi penderfynwyr lleol i sicrhau bod y fframwaith yn cael cymaint â phosibl o effaith ar gymunedau ledled Cymru.
Gwnaeth hefyd leisio pryderon ynghylch dealltwriaeth y llywodraeth o feysydd polisi datganoledig, a’r parch sydd ganddynt tuag atynt, a nododd yr angen am dryloywder o ran sut y bwriedir i’r bedair genedl weithio gyda’i gilydd, pwy fydd yn eistedd ar Weithgorau a sut y bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud. Awgrymodd y dylai’r holl wybodaeth hon fod ar-lein a’i diweddaru fel y caiff ei rhoi ar waith. Nododd hefyd yr anawsterau o ran cael darlun llawn o sut yr ymgysylltwyd â’r sector gwirfoddol ynghylch prosesau’r fframwaith hyd yma, sy’n ei gwneud hi’n anodd i amlygu bylchau yn yr ymgysylltu.
Yn olaf, gan ddychwelyd at y pwnc dargyfeirio, nododd Ruth Marks Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Dywedodd fod Fframwaith newydd yn rhoi’r cyfle i’r bedair wlad ddod o hyd i gydbwysedd newydd rhwng gwerth economaidd a gwerthoedd cymdeithasol y mae’r Ddeddf yn seiliedig arnynt.
Nododd adroddiad cychwynnol gan y Pwyllgor y gallai fframwaith cyffredin helpu i ‘adeiladu Undeb gydweithredol’. Darllenwch ef yma (Saesneg yn unig).