Mae rhedeg mudiad gwirfoddol yn gallu rhoi llawer o foddhad, ond gall fod yn gymhleth ac mae llawer o wahanol dasgau i’w cyflawni. Bydd angen i chi feddwl am bopeth – ysgrifennu cynlluniau busnes a chynaliadwyedd ariannol, llunio polisïau a gweithdrefnau, cydraddoldeb ac amrywiaeth, adnoddau dynol, iechyd a diogelwch, sefydlu cyflogres a chael yswiriant priodol!
Mae llawer o waith i’w wneud, ond mae mudiadau gwirfoddol sy’n cael eu rheoli’n dda yn fwy tebygol o ffynnu, denu staff a gwirfoddolwyr medrus a sicrhau enw da ymhlith rhanddeiliaid a chyllidwyr, felly mae’n bwysig bod eich sefydliad yn cael ei redeg mor effeithiol ag sy’n bosibl.
Mae’r rhan hon yn cynnwys adnoddau i’ch helpu i ddatblygu a rheoli seilwaith ac ‘asedau’ eich sefydliad, gan gynnwys eich pobl, arian, eiddo a systemau technoleg gwybodaeth!
Mae’r adran yn cynnwys gwybodaeth am ddatblygu polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â’r canlynol:
- Cyflogi a rheoli pobl
- Rheoli arian a sefydlu systemau ariannol
- Twyll a seiberddiogelwch
- Rheoli asedau, tir ac adeiladau
Mae gennym hefyd dudalennau ar wahân ar gyfer y pynciau penodol hyn: gwirfoddoli, diogelu a diogelu data.
Sut y gall CGGC eich helpu i reoli eich sefydliad:
- Gwybodaeth, canllawiau ac adnoddau am ddim, megis taflenni gwybodaeth a pholisïau enghreifftiol
- Cyfleoedd hyfforddi a dysgu amrywiol
- Mae ein digwyddiad blynyddol, gofod3, yn cynnig gweithdai amrywiol ar bynciau ymarferol yn ogystal â chyfle i gyfarfod nifer o ddarparwyr cyngor yn y gofod arddangos
- Pay Connect yw gwasanaeth cyflogres pwrpasol CGGC ar gyfer elusennau a grwpiau dielw ledled Cymru. Mae’n darparu gwasanaeth cyflogres proffesiynol, dibynadwy, prydlon a hawdd ei ddefnyddio i gyflogwyr newydd a chyflogwyr presennol