Fel rhan o’n dathliadau i ddathlu 20 mlynedd o Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru, rydyn ni’n cynnig disgownt newydd ar y gyfradd llog i fudiadau sy’n dangos ymrwymiad i’r Gymraeg.
Mae ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn dathlu 20 mlynedd o fenthyca cymdeithasol. Ers yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru wedi helpu mudiadau gwirfoddol o bob math a maint i fuddsoddi yn y newid maen nhw eisiau ei weld. Rydyn ni’n dathlu’r rhan rydyn ni wedi’i chwarae mewn rhai storïau hollol ysbrydoledig, ac yn annog pobl eraill o’r sector gwirfoddol i edrych ar sut gallai cyllid ad-daladwy gefnogi eu huchelgeisiau nhw.
Fel rhan o’r dathliadau’r pen-blwydd, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi menter newydd mewn partneriaeth â Chomisiynydd y Gymraeg i gynnig cyfraddau llog rhatach i fudiadau sy’n cyflawni’r Cynnig Cymraeg.
BUDDSODDIAD CYMDEITHASOL CYMRU A’R GYMRAEG
Mae’r Gymraeg yn hanfodol i bwy ydym ni a sut rydyn ni’n gweithredu yn CGGC. Mae’r iaith yn rhan dyngedfennol o hunaniaeth a threftadaeth ddiwylliannol Cymru ac rydyn ni eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu, yn unol â Nodau Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg i hyrwyddo buddion y Gymraeg i’r sector gwirfoddol, yn enwedig o ran darparu gwasanaethau.
I dîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru, mae’r Gymraeg bob amser wedi bod yn agos at eu calonnau. Mewn arolwg diweddar, dywedodd 62% o’r mudiadau y gwnaethom ni siarad â nhw ei fod yn bwysig iddyn nhw bod Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn gallu cynnig ei wasanaethau yn Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae 50% o’r tîm yn siaradwyr Cymraeg a’r lleill yn ddysgwyr Cymraeg.
CYFRADDAU LLOG IS A’R CYNNIG CYMRAEG
Fel rhan o’n menter newydd, rydyn ni’n cynnig 0.5% o ddisgownt ar gyfraddau llog benthyciadau i fudiadau sy’n dangos ymrwymiad cadarn i’r Gymraeg drwy gyflawni’r Cynnig Cymraeg. Mae’r disgownt yn berthnasol i’r Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol, cynllun a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig benthyciadau i grwpiau sydd eisiau dod ag eiddo o dan berchnogaeth gymunedol.
Mae’r The Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg ac yn cael ei roi i fudiadau sydd â chynllun cadarn ar waith ar gyfer y Gymraeg. Mae’n gyfle i drawsnewid eich ymgysylltiad â’r cyhoedd trwy ddangos pa mor falch ydych chi o gynnig gwasanaethau yn Gymraeg. Gall tîm y Comisiynydd rhoi pob cymorth i chi ddatblygu eich cynllun fel eich bod yn derbyn cydnabyddiaeth swyddogol.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones:
‘Rwy’n hynod o falch ein bod wedi gallu gweithio gyda thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC i annog a rhoi cymhelliant i fwy o’u derbynwyr benthyciadau weithio tuag at y Cynnig Cymraeg.
‘Mae’r fenter newydd hon yn dangos sut mae’r syniadau gorau a mwyaf arloesol yn aml yn cael eu datblygu pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth. Drwy wneud hynny ein nod yw sicrhau fod pob cymuned yn cael y cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg wrth ddatblygu gwasanaethau ar lawr gwlad er lles pobl Cymru.’
GWELEDIGAETH A RENNIR AR GYFER YR IAITH
Llywodraeth Cymru yw cyllidwr a phrif bartner y Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol.
Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg:
‘Rwy’n falch y bydd mudiadau sy’n defnyddio’r Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol yn cael eu gwobrwyo bellach am eu hymrwymiad i’r Gymraeg trwy gael gostyngiad ar eu cyfradd llog. Mae hwn yn gymhelliad ymarferol sy’n cydnabod y gwerth y mae darpariaeth Gymraeg yn ei gyflwyno i gymunedau.
‘Mae hwn hefyd yn ymateb uniongyrchol i’r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn Cymunedau Cymru ac yn arwydd o’n hymrwymiad parhaus i weld y Gymraeg yn ffynnu ledled Cymru.’
RHAGOR O WYBODAETH
Os hoffech chi wybod mwy am y cynllun disgownt, cysylltwch â’n tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.