Dysgwch sut mae Foothold Cymru wedi denu pobl ifanc i wirfoddoli i gyd-gynhyrchu, a sut gallai eich mudiad gwirfoddol chi wneud yr un peth gan ddefnyddio eu pecyn cymorth newydd.
Mae gennym lawer i’w ddysgu gan dderbynwyr Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru, ac maen nhw wedi bod yn arwain prosiectau sy’n edrych ar wirfoddoli yn y tymor hir a sut gallwn ni ddatgloi potensial gwirfoddoli. Foothold Cymru oedd yn cynnal un o’r prosiectau hyn, ac maen nhw wedi bod yn cael pobl ifanc i wirfoddoli a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
RHOI BARN RHOI CYMORTH (BE HEARD BE HELPFUL)
Mae’r prosiect ‘Volunteens: Be Heard Be Helpful’ gan Foothold Cymru wedi bod yn ymgysylltu â phobl ifanc oedran ysgol, gan ofyn iddyn nhw am eu barn am sut gall y sector gwirfoddol sicrhau bod gwirfoddoli’n apelio atyn nhw.
Cafodd y Gwirfoddolwyr Ifanc gyllid gan Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru CGGC, ac roedden nhw wedi defnyddio’r broses o gyd-gynhyrchu i sicrhau bod eu gwasanaethau’n ystyrlon i’r bobl a fydd yn elwa arnynt, a hynny drwy ddefnyddio profiadau a sgiliau bywyd go iawn.
Er mwyn rhannu deunyddiau dysgu, mae’r prosiect wedi llunio pecyn, ymysg adnoddau eraill, gyda chyfraniad cannoedd o bobl ifanc yn ardal Sir Gaerfyrddin – Gwirfoddoli Ieuenctid: Pecyn Cymorth i’r Trydydd Sector. Dyma rai o’r prif bwyntiau i’w cofio o’r prosiect.
SICRHAU BOD Y MAES GWIRFODDOLI’N APELIO
‘Beth ydy gwirfoddoli?’ oedd yn cael ei ofyn gan lawer o bobl ifanc. Daeth yn amlwg eu bod eisiau gwirfoddoli ond nad oedden nhw’n gwybod sut i gymryd rhan.
Yng nghamau cynnar y prosiect, roedd yn rhaid canfod pa gyfleoedd gwirfoddoli fyddai’n apelio i bobl ifanc.
PWYSIGRWYDD CAEL POBL IFANC I WIRFODDOLI
Bydd y bobl ifanc yn dod â chyfoeth o syniadau newydd, ac yn dod â ffordd wahanol o edrych ar bethau. Os byddan nhw’n cael y cyfle, gallan nhw rannu’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Drwy wrando ar beth maen nhw’n angerddol yn ei gylch, gall hynny newid eich ffordd chi o wneud rhywbeth, neu newid y ffordd y mae eich mudiad yn gwneud rhywbeth.
Mae’r Pecyn Cymorth yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad ar yr hyn sy’n gwneud i bobl ifanc fod eisiau gwirfoddoli. Dywedodd un unigolyn ifanc, Charlotte, ‘Mae gen i ymdeimlad o falchder yn yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni. Mae’n gwneud i bobl eraill feddwl yn wahanol am bobl ifanc.’
DWEUD YN GLIR BETH YW’R MANTEISION
Mae pobl ifanc eisiau gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Os byddwn ni’n cynnwys y bobl ifanc drwy gynnig cyfleoedd gwirfoddoli sy’n apelio atyn nhw, gallwn ni eu cefnogi i ddatblygu sgiliau neu gymwysterau newydd. Gallwn ni hefyd eu helpu i ddarganfod beth maen nhw’n mwynhau ei wneud, drwy roi cyfle iddyn nhw roi cynnig ar bethau newydd, a rhoi cipolwg iddyn nhw ar ba yrfa yr hoffen nhw ei dilyn. Gallwn ni roi pwrpas iddyn nhw.
HYBLYG A CHANOLBWYNTIO AR YR UNIGOLYN
Mae angen i’r maes gwirfoddoli fod yn apelgar i bobl ifanc, gan sicrhau bod y cyfleoedd rydych chi’n eu cynnig yn cyfateb i’r hyn maen nhw’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Er enghraifft, drwy bethau maen nhw’n mwynhau eu gwneud yn eu hamser hamdden, neu bethau sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n well amdanyn nhw eu hunain – yn sicr, mae angen i’r cyfleoedd hyn fod yn hyblyg, yn hygyrch ac yn briodol i’w hoedran.
Mae angen cydbwysedd wrth ymgysylltu â gwirfoddolwyr ifanc, a dylid rhoi sylw i hyn drwy deilwra’r cynnwys i’w hanghenion unigryw nhw. Mae hyn yn cydnabod eu parodrwydd i ymgysylltu, gan gefnogi a chydnabod eu cyfyngiadau.
BOD YN DDA AM WRANDO
Mae’n rhaid cyfathrebu’n dda, ac mae llawer o bobl ifanc yn teimlo nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed. Yn aml, pan nad yw pobl ifanc yn ymgysylltu nac yn lleisio eu barn, mae’n hawdd camddeall a meddwl nad oes ganddyn nhw ddiddordeb. Mewn gwirionedd, mae ganddyn nhw ddiddordeb. Ond, oherwydd nad oes neb wedi gwrando ar y bobl ifanc o’r blaen, neu oherwydd bod pobl yn meddwl eu bod nhw’n ‘rhy ifanc i ddeall’, maen nhw’n gallu colli hyder a hunan-barch.
BETH SYDD YN Y PECYN CYMORTH?
Mae’r prosiect Gwirfoddolwyr Ifanc wedi llwyddo. Mae’r prosiect wedi llunio adnoddau gwerthfawr a defnyddiol ar gyfer y sectorau gwirfoddol ac addysg. Mae hefyd wedi grymuso ac ysbrydoli gwirfoddolwyr ifanc i gymryd perchnogaeth dros eu taith wirfoddoli ac i ddylanwadu ar newid cadarnhaol yn eu cymunedau.
Mae’r Pecyn Cymorth hwn yn ymdrin â sawl agwedd ar sut i ymgysylltu â phobl ifanc i wirfoddoli. Dyma rai o’r pynciau:
- Beth ydy gwirfoddoli?
- Pam mae gwirfoddolwyr ifanc yn bwysig?
- Gofyn i’r arbenigwyr: sut gallwn ni eich annog i gymryd rhan?
- Ymgysylltu
- Recriwtio
- Cydnabyddiaeth
Does dim rhaid i wirfoddoli fod yn un digwyddiad ar ei ben ei hun. Mae’r Pecyn hwn yn annog mudiadau i ddarparu cymorth parhaus, cydnabod llwyddiannau a dathlu cerrig milltir, gan ddangos ymrwymiad i helpu pobl eraill.
Rhaid i fudiadau gwirfoddol ennill ymddiriedaeth gwirfoddolwyr ifanc, ac mae’r pecyn yn pwysleisio hyn drwy atebolrwydd a chyfathrebu clir. Drwy feithrin ymddiriedaeth, gallwn ni greu sylfaen i gydweithio ac ymgysylltu’n barhaus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
DYMA EICH CYFLE CHI
Mae Foothold Cymru yn gobeithio y bydd y prosiect a’r adnoddau sydd wedi’u llunio ar y cyd yn ysbrydoli ac yn cefnogi mudiadau eraill yn y sector gwirfoddol a’r sector addysg i groesawu cyd-gynhyrchu, ac i ddenu pobl ifanc i wirfoddoli a gwneud penderfyniadau.
Edrychwch ar y pecyn cymorth i gael rhagor o wybodaeth.
GWYBODAETH AM GRANTIAU STRATEGOL GWIRFODDOLI CYMRU
Mae cynllun Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei reoli gan CGGC. Mae’r rhai sy’n derbyn grantiau wedi dangos sut y gall meddwl yn strategol am wirfoddoli fod yn fuddiol iawn i gyflawni nodau eich mudiad. Gallwch weld beth allwch chi ei ddysgu o’r prosiectau drwy edrych ar rai o’r adnoddau canlynol:
- Cynllun Gwirfoddoli Cyflogwyr Foothold
- Gwirfoddoli Ieuenctid: Pecyn Cymorth i’r Trydydd Sector
- Volunteens: Be Heard. Be Helpful. Adnodd i Athrawon
- Fframwaith Gwirfoddoli yn Gymraeg
- Prosiect Gwasanaethau Gwirfoddolwyr Integredig
- Crynodeb Gwithredol Caru Eryri
- Gwerthusiad Ymchwilwyr Insight Innovate Trust