Mae Richard Smith yn arwain tîm o wyth fel arweinydd tîm y Groes Goch Brydeinig ar gyfer y gwasanaeth PIVOT yn Hwlffordd. Ymunodd â’r Groes Goch yn 2017 ac mae wedi bod yn rhan o brosiect PIVOT ers dwy flynedd a hanner. Gwnaethon ni ofyn iddo ddweud wrthym sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio ar y gwasanaeth, a ddarperir gan dîm o staff a gwirfoddolwyr.
Yn Saesneg, mae PIVOT yn acronym am Pembrokeshire Intermediate Voluntary Organisations Team (Tîm Sefydliadau Gwirfoddol Canolraddol Sir Benfro) ac mae’n bartneriaeth rhwng y Groes Goch Brydeinig, Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO), y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS), Gofal a Thrwsio a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS). Cafodd y gwasanaeth ei ddechrau yn 2013 ac, hyd, yma, mae wedi cynorthwyo 7,000 o bobl ledled Sir Benfro.
Datblygwyd y gwasanaeth i atal derbyniadau i’r ysbyty, hwyluso trefniadau rhyddhau o’r ysbyty, a lleihau’r cymorth sydd ei angen gan asiantaethau statudol.
Tîm PIVOT y Groes Goch Brydeinig
Dywedodd Richard: ‘Mae PIVOT yn bartneriaeth rhwng y Groes Goch Brydeinig a mudiadau eraill yn Sir Benfro. Yn y Groes Goch, rydych chi’n cymryd atgyfeiriadau er mwyn trefnu cludiant i ddod adref o’r ysbyty, sy’n cael ei hwyluso gan PACTO a ddarperir gan dîm o yrwyr gwirfoddol y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol.
‘Rydyn ni’n atgyfeirio i Gofal a Thrwsio i osod addasiadau gwahanol yn y cartref, fel canllawiau cydio. Mae gennym hefyd dîm o weithwyr cymorth y Groes Goch: os caiff rhywun ei gyfeirio atom, byddwn ni’n mynd allan i gynnal asesiad, gweld pa fath o gymorth neu gyfeiriadau sydd ei angen arno a byddwn ni’n helpu gyda hynny. Os ydyn nhw angen cymorth lefel isel fel siopa, glanhau, casglu presgripsiynau, byddai ein gweithwyr cymorth neu wirfoddolwyr yn helpu gyda phethau felly.
‘Mae PIVOT bob amser wedi gallu cludo presgripsiynau o gylch Sir Benfro, yr ardal rydyn ni’n ei gwasanaethu. Ers Covid, mae rhai o’n tîm hefyd wedi cofrestru i gynorthwyo gyda chynllun cludo presgripsiynau Llywodraeth Cymru.’
Effaith y coronafeirws
Cyn y coronafeirws, roedd tîm y Groes Goch hefyd yn cael cymorth saith gwirfoddolwr i helpu gyda thasgau domestig fel siopa a gwaith tŷ ysgafn.
Dywedodd Richard: ‘Mae pob un o’n gwirfoddolwyr PIVOT yn hunanynysu ers dechrau’r coronafeirws, felly mae staff y Groes Goch wedi bod yn darparu’r cymorth y bydden nhw wedi’i roi ers hyn. Unrhyw amser oedd wedi’i drefnu ar gyfer rhywun cyn yr argyfwng ac unrhyw un sydd wedi’i gyfeirio atom ers yr argyfwng; – wel, y gweithwyr cymorth sy’n gwneud y siopa ac yn cludo presgripsiynau nawr.’
‘Mae addasiadau tŷ wedi parhau fel yr oedden nhw cyn yr achosion i raddau helaeth gan ein bod yn atgyfeirio pobl at wasanaeth Gofal a Thrwsio.
‘Mae cludiant wedi parhau, ond am lai o oriau. Rydyn ni’n cymryd yr atgyfeiriad, yn ei drefnu ac yn cysylltu â’r gyrrwr sydd ar alwad. Hwylusir y cludiant gan wirfoddolwyr y Gwasanaeth Gwirfoddoli Brenhinol ac fel arfer bydd hwn o’r ysbyty lleol i’w cartref neu i welyau gofal parhaus (CCBs) mewn cartrefi gofal.
‘Os oes angen atgyfeirio pobl ymlaen at eraill, rydyn ni wedi bod yn cynnal yr asesiadau dros y ffôn. Mae hyn yn gofyn am sgyrsiau manylach, er mwyn cael syniad da o’r ffordd orau y gallem ni gynorthwyo’r unigolyn ar ben arall y ffôn. ‘
Debbie Johnson yw Rheolwr Datblygu Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO), sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gwirfoddoli Brenhinol, Ceir Cefn Gwlad a darparwyr cludiant cymunedol eraill – ac mae’r rhain i gyd yn rhan o brosiect PIVOT. Meddai, ‘Yn ystod pandemig Covid-19, mae gwirfoddolwyr PIVOT wedi cynorthwyo cleifion drwy ddarparu cludiant yn ôl ac ymlaen i apwyntiadau meddygol, asesiadau brys a chlinigau hanfodol. Mae’r rhain wedi’u cynnal mewn lleoliadau eraill yn aml yn hytrach nag yn eu lleoliadau arferol mewn ysbytai, er mwyn diogelu cleifion yn well rhag y coronafeirws.
‘Fel arfer, byddai’r cludiant hwn yn cael ei ddarparu gan gydweithwyr yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, ond wrth reswm, mae eu capasiti wedi’u cyfyngu oherwydd y pwysau sydd wedi’u gosod arnyn nhw yn sgil y pandemig. Bydd ein gwirfoddolwyr bob amser yn camu ymlaen i gynorthwyo’u cymunedau a’r GIG mewn adegau o angen, ac nid yw eu hymdrechion yn ystod y cyfnod heriol hwn unrhyw wahanol.’
Gallwch chi gwrdd â rhai o’r tîm a gweld PIVOT ar waith yn eu fideo byr isod.
Cadw mewn cysylltiad
Aeth Richard ymlaen i ddweud: ‘Rydyn ni’n ffonio’r bobl rydyn ni’n eu cynorthwyo dwy neu dair gwaith yr wythnos er mwyn sicrhau eu bod yn iawn. Mae rhai’n byw gyda’u teulu ac nid oes angen eu galw mor aml. Ond mae bob amser yn braf rhoi caniad iddyn nhw i weld a oes angen unrhyw beth arnyn nhw.
‘Rydyn ni’n cludo siopa a phresgripsiynau i’r rhai sydd eu hangen. Mae’n well gan y mwyafrif o’r bobl rwyf yn cludo nwyddau iddyn nhw gadw eu pellter ac nid ydynt yn awyddus i siarad ar garreg y drws. Ond mae rhai sy’n awyddus i siarad, ac os felly, rydyn ni’n rhoi’r opsiwn iddyn nhw gael sgwrs o bellter. Mae rhai’n codi llaw drwy’r ffenestr ac yn rhoi arwydd eu bod yn iawn.’
Dywedodd Denise John, Rheolwr Gwasanaeth y Groes Goch: ‘Mae gwasanaeth PIVOT yn enghraifft dda o’r ffordd y gall y Groes Goch Brydeinig a phartneriaid addasu’r hyn y maen nhw’n eu cynnig i gynorthwyo unigolion mewn amgylchiadau anodd. Mae tîm PIVOT wedi parhau i gynnig cymorth i bobl sy’n agored i niwed ar hyd a lled Sir Benfro, gan ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol yn ystod pandemig Covid-19.’
Lleihau’r pwysau ar wasanaethau statudol
Mae PIVOT yn cynorthwyo pobl sy’n wynebu’r risg o gael eu derbyn i’r ysbyty, neu sy’n gorfod aros mewn ysbyty, am resymau anfeddygol am nad oes ganddyn nhw unrhyw gludiant nac unrhyw deulu neu ffrindiau i’w cynorthwyo yn y cartref.
Datblygwyd y gwasanaeth er mwyn atal derbyniadau i’r ysbyty, hwyluso trefniadau rhyddhau o’r ysbyty a lleihau’r cymorth sydd ei angen gan asiantaethau statudol.
Mae PIVOT yn darparu cymorth lefel isel yn y cartref am hyd at chwe wythnos, gan gynnwys cludiant a gwneud pobl yn gysurus yn eu cartrefi, a’u cyfeirio a’u hatgyfeirio at asiantaethau priodol er mwyn cael help a chefnogaeth ychwanegol, gan gynnwys gwasanaethau eraill gan y trydydd sector, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau statudol. Gall drefnu iddyn nhw gael gwasanaeth ymateb cyflym ar gyfer addasiadau bychan yn y cartref a gwiriadau diogelwch yn y cartref.
Astudiaeth achos gan Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gynorthwyo gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r dudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau diweddar, blogiau a storïau achos.