Mae ein prosiect Helplu Cymru a Chomisiwn Bevan wedi cyhoeddi papur newydd sy’n edrych ar sut y gall y sectorau gwirfoddol a statudol gydweithio’n well.
GWERTHOEDD Y SECTOR GWIRFODDOL
Mae Gwerthoedd a gwerth y trydydd sector, a luniwyd gan Richard Newton Consulting ar ran CGGC a Chomisiwn Bevan, yn edrych ar y pwyntiau cysylltu rhwng y sector statudol a’r sector gwirfoddol, a’r potensial ar gyfer cael mwy o gydweithio effeithiol wrth gyflawni canlyniadau iechyd a gofal ledled Cymru.
Mae canfyddiadau’r papur hwn yn deillio o grwpiau ffocws a chyfweliadau un i un gyda 121 o bobl ledled Cymru, yn edrych ar yr heriau ar gyfer cydberthnasau yn y sectorau gwirfoddol/statudol; meithrin cydberthnasau ar draws sectorau; pennu a chyfathrebu gwerth, a chyflawni newid trawsnewidiol. Cafodd astudiaethau achos eu datblygu gydag 11 o fudiadau er mwyn cael cofnod o’r cyd-destunau, buddion a heriau amrywiol a brofwyd.
SAITH FFORDD Y GALL MUDIADAU GWIRFODDOL GYFRANNU
Mae’r papur yn nodi saith ffordd y gall mudiadau’r sector gwirfoddol gyfrannu i’r eithaf at gyfoethogi a chefnogi gwasanaethau prif ffrwd. Y rhain yw cymorth o’r ysbyty i’r cartref, presgripsiynu cymdeithasol, darpariaeth integredig, cyd-gynhyrchu, arloesedd, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac ymyrraeth gynnar. Mae’n gwneud hyn ar draws chwe adran:
- Cyd-destun strategol
- Y sector gwirfoddol mewn ecoleg draws-sector o iechyd a gofal
- Gwerthoedd a buddion y sector gwirfoddol
- Gwella a chefnogi’r ‘system’
- Cyfleoedd i gydweithio ar draws sectorau
- Themâu ar gyfer newid: materion ac atebion
ARGYMHELLION
Mae’r papur yn gwneud nifer o argymhellion trosfwaol i helpu i wireddu gwasanaeth iechyd sy’n addas i’r dyfodol, gan gynnwys yr angenrheidrwydd am ddeialog cynnar a pharhaus a defnyddio seilwaith presennol y sector gwirfoddol. Mae’r papur llawn a’r crynodeb gweithredol ar gael ar-lein i’w darllen.
Mae’r papur newydd hwn yn ddarn cymar i’r papur, Gwerth a gwerthoedd gwirfoddoli – ein hased cudd, sy’n edrych ar rôl gwirfoddolwyr o fewn y system iechyd a gofal. Gallwch ddarllen rhai o’r astudiaethau achos y cyfeirir atynt uchod, ynghyd ag eraill, ar ein tudalen Gwaith y sector yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol: astudiaethau achos.
Bydd papur ychwanegol, yn defnyddio ychydig o’r deunydd na ddefnyddiwyd yn y papur hwn, yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Enw’r papur fydd ‘Pam mae’r trydydd sector yn bwysig i iechyd a lles yng Nghymru’.
AM FWY O WYBODAETH
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Helplu Cymru.