Rydyn ni’n dathlu 20 mlynedd o Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru ac yn rhannu storïau ysbrydoledig o’r pethau gweddnewidiol y mae mudiadau gwirfoddol ledled Cymru wedi’u gwneud gyda chyllid ad-daladwy.
Mae mudiadau gwirfoddol a gyllidwyd gan Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yng Nghymru. Gwahoddir chi i ymuno â ni wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o fenthyca cymdeithasol a’r rhan y gwnaethon ni ei chwarae yn y storïau ysbrydoledig hyn.
Rydyn ni mor gyffrous i ddangos yr hyn y mae ein derbynyddion benthyciadau wedi’u cyflawni, ac os nad ydych chi wedi benthyg gennym ni o’r blaen, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n dod o hyd i rywbeth a fydd yn eich annog i gymryd y cam cyntaf tuag at fuddsoddiad cymdeithasol.
BUDDSODDI YN Y SECTOR GWIRFODDOL
Wrth baratoi ar gyfer dathlu pen-blwydd Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn 20 oed, rydyn ni wedi bod yn gwerthuso gwerth ein cymorth. Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu ein hadroddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SRoI) lle byddwn ni’n datgelu faint o werth cymdeithasol sydd wedi’i greu ar bob £1 a fuddsoddwyd mewn cymunedau yng Nghymru (dod yn fuan).
SUT RYDYN NI’N DATHLU’R ACHLYSUR
Rydyn ni’n hynod falch o’r effaith rydyn ni wedi’i chael drwy ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru. Ond nid yw hyn amdanom ni, mae’n ymwneud â chyflawniadau rhyfeddol y mudiadau gwirfoddol rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda nhw yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Rydym ni wedi trefnu dathliadau trwy gydol 2026; gallwch chi ddisgwyl:
- Amrywiaeth enfawr o storïau ysbrydoledig gan fudiadau gwirfoddol o bob cwr o Gymru.
- Anrhegion pen-blwydd ar gyfer derbynyddion Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru ddoe a heddiw.
- Menter newydd sy’n gwobrwyo derbynyddion benthyciadau sy’n ymrwymo i’r Gymraeg.
- Tystiolaeth o’n heffaith, a fydd yn dangos y gwahaniaeth rydyn ni wedi gallu ei wneud gyda’r sector gwirfoddol a’n cyllidwyr a phartneriaid a beth sy’n bosibl pan fydd cyllid ad-daladwy yn cael ei wneud yn iawn.
Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ymuno â’n rhestr bostio.
‘BYWYDAU GWELL I BOBL A CHYMUNEDAU’
Dywedodd Prif Weithredwr CGGC, Dr Lindsay Cordery-Bruce:
‘Rwyf wrth fy modd i fod yn dathlu 20 mlynedd o Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru! Rydyn ni wedi gweld rhai prosiectau arbennig tu hwnt yn cael eu cyflawni o ganlyniad uniongyrchol i’r opsiynau cyllid hyn. Beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd yw bywydau gwell i bobl a chymunedau yng Nghymru. Mae’n fendigedig!’
CEFNOGI EICH UCHELGEISIAU
Ers yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru wedi helpu mudiadau gwirfoddol o bob math a maint i fuddsoddi yn y newid y maen nhw eisiau ei weld. Cysylltwch â ni i edrych ar sut gallai cyllid ad-daladwy gefnogi eich uchelgeisiau.
Ewch i dudalen Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru am ragor o wybodaeth.
RHAGOR AM HYN
‘Y wên a’r llawenydd sy’n dweud y stori go iawn’ – Wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru, dyma Alun Jones i adrodd y stori o sut dechreuodd popeth a pham ei fod yn parhau i’n codi ni o’n gwlâu.