Yn ystod Mawrth 2025, fel rhan o’n prosiect Newid, mae gennym sesiynau hyfforddi am ddim trwy gyfrwng y Gymraeg gan Data Cymru a The Big Learning Company ar ddata a gweithio’n ddigidol.
BETH YW NEWID?
Mae Newid yn hyrwyddo ymarfer digidol dda ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnig hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth.
Cyflwynir Newid mewn partneriaeth ag CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, a chaiff ei gyllido gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r sesiynau hyn wedi’u dylunio i’ch helpu chi i ddefnyddio digidol er mwyn arbed amser, dangos effaith eich mudiad ac i’ch cynorthwyo chi i ddarparu eich gwasanaethau.
CYRSIAU WEDI’U CYFLWYNO YN GYMRAEG
SESIWN DATA CYMRU
Cyfleu eich pwynt: Cyflwyniad i gyflwyno data yn effeithiol
20 Mawrth 2025 rhwng 10am a 12.30pm
Bydd y cwrs hyfforddi hwn yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu chi i gyflwyno eich data’n effeithiol, ac i wneud yn siŵr bod eich cynulleidfa yn deall y negeseuon a fwriedir yn gyflym ac yn rhwydd.
SESIYNAU SGILIAU DIGIDOL
Gweithio’n fwy effeithlon gydag adnoddau digidol
5 Mawrth 2025 rhwng 10am ac 1pm
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar amrywiaeth o adnoddau digidol sydd wedi’u dylunio i symleiddio prosesau gwaith a’ch helpu chi i weithio’n fwy effeithlon. Trwy arddangosiadau ymarferol, byddwn yn edrych ar sut mae’r adnoddau hyn yn gweithio ac yn rhannu awgrymiadau a syniadau ar sut i’w hintegreiddio yn eich gwaith bob dydd er mwyn arbed amser i chi.
Adnoddau i wella gwaith tîm digidol
19 Mawrth 2025 rhwng 10am ac 1pm
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut gallwch ddefnyddio adnoddau digidol i gefnogi gwaith tîm yn eich mudiad. Trwy arddangosiadau ymarferol, byddwn yn edrych ar sut gall yr adnoddau hyn wella cyfathrebu a chydweithio, gan alluogi timau i gadw mewn cysylltiad a gweithio’n effeithlon mewn gweithleoedd hybrid.
RHAGOR O WYBODAETH
Bydd y sesiynau hyfforddi hyn yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg. Rydym hefyd yn cynnal y cyrsiau hyn yn Saesneg, ond mae’r sesiynau Saesneg yn llawn ar hyn o bryd. Os hoffech fynychu cwrs yn Saesneg, gallwch wneud cais i ymuno â’r rhestr aros drwy’r dolenni uchod i’r sesiynau.
Am ragor o wybodaeth ac i weld yr holl gyfleoedd hyfforddi sydd gennym ar hyn o bryd ewch i adran hyfforddiant ein gwefan.