Oes gennych chi ddiddordeb mewn creu dyfodol gwell a gwella llesiant pawb yng Nghymru?
Rydyn ni’n credu y gallwn wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd, felly beth am ymuno â ni a’n rhwydwaith cynyddol o fudiadau ledled Cymru?
Gall unrhyw elusen, grŵp gwirfoddol, grŵp cymunedol neu fenter gymdeithasol sy’n gweithio yng Nghymru ddod yn bartner a bydd hyn yn:
- eich cysylltu ag eraill i rannu gwybodaeth ac ysgogi arloesedd a syniadau
- eich galluogi chi i gyflawni eich llawn botensial fel mudiad
- sicrhau ein bod yn dylanwadu’n effeithiol, ac yn parhau i fwyhau llais ein sector
Mae ein rhwydwaith cynyddol o partneriaid yn cynnwys mudiadau a grwpiau o bob lliw a llun, ac mae’n bwysig iawn i ni fod ein partneriaid yn cynrychioli ein cymunedau. O’r grwpiau cymunedol lleiaf i’r mudiadau cenedlaethol mwyaf, mae gennym oll ran i’w chwarae i greu sector sy’n ffynnu yng Nghymru. A chredwn mai’r ffordd gorau o wneud hynny yw gyda’n gilydd.
FEL PARTNER SECTOR GWIRFODDOL, BYDDWCH YN YMUNO Â CHYMUNED SY’N:
- Gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu ein sector
- Rhannu syniadau, profiadau a datrysiadau mewn fforymau cefnogol
- Llunio gwaith dylanwadu CGGC ac yn helpu i gryfhau llais cenedlaethol y sector
- Adeiladu cysylltiad, ymdeimlad o berthyn a diben a rennir ledled Cymru
Eich buddion fel Partner
Fel Partner Sector Gwirfoddol gydag CGGC, byddwch yn cael:
- Gostyngiad o 20% ar hyfforddiant CGGC – i adeiladu sgiliau a hyder eich tîm
- Gostyngiad o 10% ar fan digwyddiad a stondinau arddangos yn gofod3
- Crynhoad polisi a materion cyhoeddus misol
- Gwahoddiadau i Fforymau Partner – i rannu mewnwelediadau a helpu i lywio ymgyrchoedd
- Mynediad i’n rhwydwaith o Gyflenwyr Dibynadwy sy’n cynnig cymorth arbenigol i’r sector gwirfoddol
PARTNERIAID YMGYSYLLTIEDIG:
Os ydych yn fudiad o’r sector preifat neu gyhoeddus neu’n unigolyn sy’n rhannu ein gweledigaeth ac eisiau cefnogi gweithredu gwirfoddol yng Nghymru, gallwch hefyd elwa trwy fod yn bartner ymgysylltiedig.
Fel partner ymgysylltiedig byddwch yn cael mynediad i’n cyfleoedd rhwydweithio, ynghyd â gostyngiad o 10% ar hyfforddiant CGGC a gostyngiad o 5% ar fan digwyddiad a stondinau arddangos yn gofod3.