Gadewch i dîm Gwirfoddoli CGGC gerdded drwy Wythnos Gwirfoddolwyr 2021 gyda chi.
Gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn enaid ein cymunedau yng Nghymru ers tro byd, gydag 1 mewn 3* o bobl fel arfer yn gwirfoddoli ar unrhyw un adeg. Mae gwirfoddoli wedi bod yn arbennig o amlwg yng Nghymru yn ystod 2020, wrth i bobl o bob oed, cam a chefndir gamu ymlaen i gynnig eu hamser i eraill, boed hynny drwy gynorthwyo’r rheini a effeithiwyd gan ddigwyddiadau tywydd dinistriol, y pandemig neu drwy wirfoddoli i ymgyrchu dros faterion sy’n effeithio ar yr amgylchedd neu’r gymdeithas.
Yn fwy unigryw fyth eleni oedd y ffyrdd y gwnaeth pobl gyfrannu. Gwnaeth plant ysgol ysgrifennu llythyrau i gartrefi nyrsio, gwnaeth unigolion na allai barhau i wirfoddoli wyneb yn wyneb droi at y rhyngrwyd a llinellau ffôn i gynnig cwmnïaeth fawr ei hangen a gwnaeth cannoedd o bobl wirfoddoli i gynorthwyo canolfannau brechu i redeg yn effeithlon ledled y wlad.
Mae’r unigolion hyn yn rhoi eu hamser o’u gwirfodd ac mae’n bwysig cydnabod y cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud. Dyma pam rydyn ni’n awyddus i annog cymunedau yn ogystal â mudiadau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat i ddod ynghyd i ddweud y diolch mwyaf erioed i wirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr 2021.
BETH YW’R WYTHNOS GWIRFODDOLWYR?
Mae Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol o wirfoddolwyr ledled y DU sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn rhwng 1 – 7 Mehefin. Eleni yw’r 37ain flwyddyn o gydnabod gwirfoddolwyr yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Mehefin.
Mae’r themâu wedi’u cytuno gan bartneriaid y DU ar gyfer Wythnos Gwirfoddolwyr 2021. Y thema drosfwaol ar gyfer yr wythnos fydd ‘Amser Dweud Diolch’.
Dydd Mawrth 1 Mehefin – Lansio’r Wythnos Gwirfoddolwyr
Dydd Mercher 2 Mehefin – Gwirfoddoli ieuenctid (mewn partneriaeth â’r ymgyrch diwrnod #byddaf #PwerIeuenctid)
Dydd Iau 3 Mehefin – Gwirfoddolwyr â chymorth cyflogwr a gwirfoddolwyr crefftus.
Dydd Gwener 4 Mehefin – I’w gadarnhau.
Dydd Sadwrn 5 Mehefin – Gwirfoddoli dros yr amgylchedd a chadwraeth (i gydnabod Diwrnod Amgylchedd y Byd ac Wythnos Natur Cymru, 29 Mai – 6 Mehefin)
Dydd Sul 6 Mehefin – Y Cinio Mawr
Dydd Llun 7 Mehefin – Edrych yn ôl ar yr Wythnos Gwirfoddolwyr
Yn ogystal â hyn, bydd ymgyrch genedlaethol eleni a fydd yn cydnabod mis Mehefin fel #MisCymuned – i gydnabod y lliaws o ymgyrchoedd sy’n canolbwyntio ar y gymuned a gaiff eu dathlu’r mis hwnnw.
BETH YW’R #MISCYMUNED?
Yn ystod mis Mehefin, sy’n dechrau gyda’r Wythnos Gwirfoddolwyr ac yn gorffen gyda’r Cinio Mawr (5 – 6 Mehefin), mae nifer o ymgyrchoedd eraill sy’n canolbwyntio ar y gymuned, fel yr Wythnos Elusennau Bach (14 – 19 Mehefin), Wythnos Ffoaduriaid (14 – 20 Mehefin) a’r Wythnos Genedlaethol Cael Picnic (19 – 27 Mehefin), ymhlith eraill. Mae’r Eden Project, mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y DU, yn annog unigolion, cymunedau a mudiadau ledled y DU i gysylltu â’i gilydd ym mha bynnag fodd sy’n fwyaf cysurus iddynt (ac yn unol â chanllawiau’r llywodraeth) i gydnabod a dathlu’r #MisCymuned.
Y TU HWNT I’R DIOLCH
Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr hefyd yn gyfle i amlygu’r rolau a gweithgareddau amrywiol i wirfoddolwyr, gan ddangos y ffyrdd y gall pobl gymryd rhan fel gwirfoddolwyr yn eu cymunedau lleol, sy’n gallu bod o gymorth i fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr ac eisiau eu recriwtio.
SUT GALLWCH CHI GYMRYD RHAN?
Bydd CGGC, mewn partneriaeth â Chefnogi Trydydd Sector Cymru ac aelodau o’r rhwydwaith gwirfoddoli yn llunio pecyn ymgyrchu dwyieithog a fydd yn cael ei lansio ar 4 Mai 2021.
Byddwch chi’n cael eich annog i ddweud ‘diolch’ i wirfoddolwyr yn ystod yr wythnos, yn y ffyrdd mwyaf synhwyrol i chi.
- Os ydych chi’n arweinydd cymunedol, gallech drefnu digwyddiad ar-lein lleol i ddweud diolch i wirfoddolwyr lleol.
- Gallai ysgolion, cydweithwyr, prifysgolion a gweithleoedd roi sbotolau ar fyfyrwyr neu staff sy’n gwirfoddoli ac ysgogi eraill i gymryd rhan.
- Gall mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr gynnal digwyddiad diolch ar gyfer eu gwirfoddolwyr presennol (ar-lein neu’n bersonol, yn dibynnu ar ganllawiau’r llywodraeth) (Gallai hyd yn oed fod yn ddigwyddiad blasu i ddangos i bobl eraill pa rolau gwirfoddoli sydd ar gael)
- Gallai busnesau amlygu gwerth gwirfoddoli i’w cyflogeion a’u cwsmeriaid, gan rannu storïau am yr hyn sydd wedi’i wneud gan wirfoddolwyr i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau eu hunain.
Waeth beth y byddwch chi’n penderfynu ei wneud, byddem yn dwli clywed gennych ac yn dwli rhoi cymaint â phosibl o gydnabyddiaeth i wirfoddolwyr ar draws platfformau cyfryngau cymdeithasol, felly cymerwch ran a defnyddio’r hashnod #WythnosGwirfoddolwyr a #VolunteersWeek.
I gysylltu, trafod syniadau, cysylltu â mudiadau eraill neu rannu eich cynlluniau, cysylltwch â ni ar volunteering@wcva.cymru