Siaradwyr yn chwerthin ar y llwyfan yn nigwyddiad Unite Pencampwyr WEDSA ym mis Medi 2024

Pan ddaw’r pencampwyr ynghyd

Cyhoeddwyd : 30/10/24 | Categorïau: Newyddion |

Edrychwn yn ôl ar ddigwyddiad diweddar WEDSA, Dod â’r Pencampwyr Ynghyd, noson ysbrydoledig gydag enillwyr Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru.

Yn ddiweddar, gwnaethom gynnal digwyddiad rhwydweithio WEDSA (Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru), Dod â’r Pencampwyr Ynghyd, a oedd yn ymgynulliad pwerus a ddaeth â’r enillwyr o Wobrau cyntaf WEDSA y llynedd ynghyd.

Arweiniwyd y digwyddiad gan Rajma Begum, sylfaenydd  WEDSA a Rheolwr Amrywiaeth mewn Chwaraeon Cenedlaethol CGGC. Rhoddodd blatfform i athletwyr a phobl adnabyddus eithriadol y byd chwaraeon yng Nghymru rannu eu teithiau personol a thrafod dyfodol amrywiaeth a chynhwysiant mewn chwaraeon. Gwnaeth y noson ddathlu llwyddiant yr unigolion hyn a meithrin cysylltiadau ar draws y gymuned chwaraeon, gyda’r nod o ysbrydoli cenedlaethau i ddod.

Dechreuodd y noson gydag anerchiad croeso twymgalon gan Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr CGGC, a ganmolodd gyflawniadau’r unigolion o’r byd chwaraeon ac amlygu’r rôl dyngedfennol y mae digwyddiadau fel WEDSA yn ei chwarae mewn hybu amrywiaeth a chynhwysiant mewn chwaraeon yng Nghymru.

SGWRSIO Â PHENCAMPWR

Ffurfiwyd ciw o blant cynhyrfus i dynnu lluniau gyda Steve Robinson a’i wregysau teitl yn nigwyddiad Unite Pencampwyr WEDSA ym mis Medi 2024

Ffurfiodd giw o blant cyffrous i gael lluniau gyda Steve Robinson a’i wregysau pencampwriaethol

Yn y digwyddiad, cafwyd sgwrs gofiadwy cil pentan gyda’r arwr bocsio, Steve Robinson, a ddaeth a’i wregysau pencampwriaethol gydag ef.

PARALYMPIAD O BARIS

Paralympiwr a Chwaraeonwraig y Flwyddyn, Funmi Oduwaiye yn rhannu ei stori yn nigwyddiad Unite Pencampwyr WEDSA ym mis Medi 2024

Paralympiad a Mabolgampwraig y Flwyddyn, Funmi Oduwaiye yn rhannu ei stori

Daeth Funmi Oduwaiye, Mabolgampwraig y Flwyddyn 2023 WEDSA, i’r llwyfan fel panelwraig, a hithau newydd ddychwelyd o’i phrofiad rhyfeddol yng ngemau Paralympaidd Paris. Rhannodd Funmi sut oedd cefnogaeth y gynulleidfa ym Mharis wedi gwneud y profiad yn un fythgofiadwy.

Y CHWARAEWR TENNIS GORAU

Cyfran Kimberly Mpukusa yw stori ysbrydoledig ei llwyddiannau ym myd tennis ac aberth ei theulu yn nigwyddiad Unite Pencampwyr WEDSA ym mis Medi 2024

Bu stori emosiynol Kimberly Mpukusa o’i llwyddiannau yn nhennis ac ebyrth ei theulu yn wirioneddol ysbrydoledig

Daeth uchafbwynt arall o’r noson gan y seren dennis, Kimberley Mpukusa, y ferch ddu gyntaf i gael ei henwi’n chwaraewr tennis gorau Cymru. Rhannodd ba mor hanfodol oedd hi i gael hyfforddwr a oedd yn deall ei chefndir a’i hanghenion diwylliannol, stori a wnaeth gyffwrdd y galon ac effeithio’n ddwfn ar lawer o’r gynulleidfa. Pwysleisiodd ei llwyddiant bwysigrwydd hyfforddiant sy’n ystyriol o ddiwylliannau a’r effaith y gall hyn ei chael ar daith athletwr.

YSBRYDOLI’R GENHEDLAETH NESAF

Un o ganlyniadau mwyaf calonogol y digwyddiad oedd ei effaith ar y genhedlaeth iau. O’r 150 o bobl a fynychodd, plant oedd 70 ohonynt, a gadawodd llawer yn teimlo wedi’u hysgogi a’u hysbrydoli i ddilyn eu breuddwydion chwaraeon eu hunain. Roedd hi’n galonogol gweld cymaint o bobl ifanc yn cysylltu â modelau rôl a oedd nid yn unig yn rhannu eu cefndiroedd ond hefyd eu brwdfrydedd am chwaraeon.

ADBORTH POSITIF

Cawsom adborth positif gan y rheini a fynychodd, gyda 97% yn argymell y digwyddiad i bobl eraill. Dyma rai o’r sylwadau a gawsom:

  • ’Roedd hi mor braf gweld cymaint o ddiwylliannau gwahanol yn y digwyddiad.’
  • ‘Roedd e’n cŵl a chefais i gwrdd â bocsiwr a phêl-droediwr enwog. Roedd hi hefyd yn ysbrydoledig gwrando ar eu storïau.’
  • ‘Ysbrydoledig ac yn ddigwyddiad hanfodol i amlygu cyfraniad cymunedau lleiafrifiedig a’n hatgoffa ni i hyd o’r hyn sy’n bosibl fel unigolion ac fel cymuned.’

CADW CYNWYSOLDEB YN GADARN AR YR AGENDA

Daeth y noson i ben gyda neges gan Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, a bwysleisiodd ymrwymiad Chwaraeon Cymru i genhadaeth WEDSA. Ailbwysleisiodd Brian bwysigrwydd cynwysoldeb mewn chwaraeon gan fynegi ei gefnogaeth barhaus i waith WEDSA.

SUT GALLWCH GYMRYD RHAN

Bydd Gwobrau WEDSA yn ddigwyddiad dwyflynyddol o hyn ymlaen, gyda’r gwobrau nesaf yn cael eu trefnu ar gyfer 2025.

  • Noddwyr: Rydym yn chwilio am noddwyr newydd i gefnogi cenhadaeth WEDSA – i dynnu sylw at athletwyr ethnig leiafrifol, gan ganiatáu iddynt lewyrchu fel ffigyrau a modelau rôl ysbrydoledig o fewn eu cymunedau perthnasol. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni yn rbegum@wcva.cymru. Diolch o galon i’n noddwyr presennol am eu cefnogaeth barhaus.
  • Gwirfoddolwyr: Os hoffech ddod yn wirfoddolwyr gyda WEDSA, byddem yn dwli clywed oddi wrthych. Anfonwch e-bost atom yn rbegum@wcva.cymru.
  • Cadw’n gysylltiedig: Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr i gael gwybod am ddigwyddiadau i ddod, cyfleoedd cyllido a mwy.
  • Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol: Cadwch mewn cysylltiad â WEDSA drwy ein platfformau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf a chanfod ffyrdd o gymryd rhan.

Instagram: wedsawards

X: @wedsawards

LinkedIn: Wales Ethnic Diversity Sports Awards

DIOLCH

Diolch enfawr i’r holl wirfoddolwyr a chwaraeodd rôl allweddol mewn gwneud digwyddiad WEDSA, Dod â’r Pencampwyr Ynghyd, yn gymaint o lwyddiant. Gwnaeth eich ymroddiad a’ch gwaith caled helpu i ddod â’r digwyddiad pwysig hwn yn fyw, gan greu amgylchedd ysbrydoledig a chynhwysol i bawb a fynychodd. Ni allem fod wedi’i wneud hebddoch chi!

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 08/11/24 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu | Newyddion |

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Allwch chi helpu i stopio’r effaith gynyddol?

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 28/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Gwnewch gais nawr am grant Gwirfoddoli Cymru!

Darllen mwy