rheolwr yn siarad mewn cyfarfod bwrdd

Pam mae rheoliadau’n bwysig i godwyr arian yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 21/09/20 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth |

Mae cefnogi rheoliadau codi arian drwy gofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian yn golygu y gall elusennau yng Nghymru gynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn codi arian a thyfu eu potensial i godi arian.

Mae gallu elusennau yng Nghymru i godi arian yn hanfodol i liniaru effaith pandemig y Coronafeirws (COVID-19), ond mae’n hanfodol ei fod yn cael ei wneud mewn modd cyfreithiol, gonest, agored a pharchus.

Dyma nod craidd y Rheoleiddiwr Codi Arian (Saesneg yn unig), sy’n bodoli er mwyn cynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn codi arian, diogelu rhoddwyr a chefnogi gwaith hanfodol codwyr arian. Mae’r Rheoleiddiwr Codi Arian yn gwneud hyn drwy gefnogi arfer gorau mewn codi arian, er mwyn creu a chynnal profiad cadarnhaol i roddwyr, sydd yn ei dro yn peri i’r cyhoedd fod yn fwy hyderus i roi arian.

Cyllidir y rheoleiddiwr gan Ardoll Codi Arian (Saesneg yn unig) flynyddol. Mae mudiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n gwario mwy na £100,000 ar weithgareddau codi arian mewn blwyddyn yn gymwys i gyfrannu at yr ardoll. Mae’n bwysig bod yr holl fudiadau cymwys yn talu eu cyfran deg o’r ardoll, gan ei bod yn cyllido’r gwaith y mae’r rheoleiddiwr yn ei wneud i gynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn codi arian ac yn sicrhau bod y safonau o fewn y Cod Ymarfer Codi Arian (fersiwn Gymraeg ar waelod y dudalen) yn cael eu bodloni.

Er ei fod yn amlwg fod elusennau yn wynebu heriau ariannol ar hyn o bryd, mae’n hanfodol fod gweithgareddau codi arian yn parhau i gael eu rheoleiddio’n effeithiol, er mwyn diogelu rhoddwyr ac enw da mudiadau codi arian ledled Cymru a’r sector codi arian ehangach.

Drwy gefnogi arfer gorau, gallwn ni ddiogelu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn codi arian, yr ymddiriedaeth honno rydyn ni wedi gweithio mor galed i’w hadeiladu gyda’n gilydd, a bydd hyn yn magu hyder pobl i roi arian, nawr ac yn y dyfodol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 14/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Lansio cyllid ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 10/09/24 | Categorïau: Cyllid |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy