Grwp o bobl mewn cyfarfod cymunedol yn chwerthin

Pa fath o ddyfodol hoffai eich cymuned ei gael?

Cyhoeddwyd : 05/10/20 | Categorïau: Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Rydyn ni’n chwilio am fudiadau cymunedol sydd eisiau cynorthwyo pobl yn eu cymunedau i lunio eu dyfodol.

Rydyn ni’n gwahodd mudiadau i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan mewn peilot. Bydd dau yn cael eu dewis.

Bydd y mudiadau yn gweithio gydag arweinwyr blaenllaw a fydd yn hwyluso gweithgareddau ar-lein ar gyfer cymunedau er mwyn creu gweledigaeth a chynllun gweithredu ar gyfer y dyfodol. Bydd y partner-fudiadau yn gyfrifol am recriwtio cyfranogwyr o’u cymunedau a’u cynorthwyo i gymryd rhan. Bydd y mudiad yn derbyn £1000 i gydnabod ei amser.

Ein nod yw adeiladu ar waith y mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol amrywiol wedi bod yn ei wneud mewn trafodaethau ynghylch sut gallwn ni ddylanwadu ar ddyfodol cadarnhaol yn sgil Covid-19.

Bydd y prosiect hwn yn creu pecyn cymorth ar gyfer cymunedau ar hyd a lled Cymru i’w helpu nhw i ddychmygu dyfodol a chynllunio ar ei gyfer. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â betterfutures@wcva.cymru neu dyfodolgwell@wcva.cymru.

Os oes gennych chi ddiddordeb, a wnewch chi ateb y cwestiynau cyflym hyn erbyn 20 Hydref 2020.

Mae hwn yn brosiect partneriaeth rhwng CGGC a’r ‘School of International Futures’ (SOIF), a gefnogir gan grŵp cynghori Dyfodol Gwell Cymru. Bydd y grŵp cynghori Dyfodol Gwell Cymru yn ymddwyn fel seinfwrdd ac yn sicrhau bod safbwyntiau amrywiol yn llunio’r gwaith. Mae hwn yn grŵp amrywiol o arweinwyr o’r sector gwirfoddol a rhai lleisiau annibynnol. Mae’n cyflwyno safbwyntiau ar lefelau lleol a chymunedol yn ogystal â safbwyntiau pobl ifanc, ond ceir hefyd safbwyntiau’r gymuned BAME, gofalwyr, pobl o wahanol rannau o Gymru, siaradwyr Cymraeg a phobl sy’n gweithio ar faterion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

Dywedodd Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu’r Sector, CGGC: ‘Mae hwn yn gyfle gwych i fudiadau helpu eu cymunedau er mwyn eu gwneud nhw’n fwy gwydn ar gyfer y dyfodol. Cymerwch ran yn yr arolwg os gwelwch yn dda – bydd hyd yn oed yr adborth gan y mudiadau hynny na fydd yn cael eu dewis i gymryd rhan yn helpu’n fawr mewn gwaith ar wydnwch cymunedol yn y dyfodol.’

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy