Yn seiliedig ar Oriel Anfarwolion Roc a Rôl, nod yr Oriel Anfarwolion Elusennol yw casglu ynghyd straeon anhygoel y bobl rhyfeddol sydd wedi newid ein cymdeithas er gwell.
Maen nhw eisiau greu archif byw sy’n addysgu ac yn ysbrydoli eraill am yr effaith o elusen a chymdeithas sifil ar gymunedau ledled ein cenedl. Mae’r fenter newydd hon yn cael ei harwain gan Jamie Ward-Smith MBE ac yn cael ei gadeirio gan Malcolm John.
AR AGOR AR GYFER ENWEBIADAU
Maent nawr ar agor ar gyfer enwebiadau ar gyfer ein dosbarth cyntaf yn 2025 – a’r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 20 Medi 2024.
Bydd yr Oriel Anfarwolion Elusennol yn Sefydlu pobl o dan y categorïau canlynol. Gallwch enwebu rhywun ar gyfer un categori yn unig, ac mae’n rhaid iddo fod wedi’i leoli yn y DU.
- Effaith ar y Gymuned: I’r rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn eu maes, yn enwedig mewn lleoliadau gwasanaeth, boed hynny trwy helpu pobl yn uniongyrchol, dod â chymunedau at ei gilydd, neu ysgogi newid cymunedol sylweddol.
- Arloeswyr Cymdeithasol: Ar gyfer y rhai, fel arweinwyr cymdeithasol neu sylfaenwyr, oedd y cyntaf i fynd i’r afael â mater neu achosi newid yn eu maes neu gymuned.
- Cyfiawnder a Chydraddoldeb: Ar gyfer ymgyrchwyr neu lunwyr polisi sydd wedi gweithio’n galed i frwydro yn erbyn anghydraddoldeb neu anghyfiawnder, gan arwain at newidiadau mewn cyfreithiau, polisïau, neu at godi ymwybyddiaeth.
- Dyngarwch: Ar gyfer cyllidwyr a rhoddwyr rhagorol sydd wedi gwneud newidiadau sylweddol trwy eu rhoddion neu eu cyllid, gan gefnogi achosion mewn ffyrdd arloesol neu gydweithredol. Maent yn cynnwys rhoddwyr amser, sgiliau ac adnoddau yn y categori hwn hefyd.
Mae’r Oriel Anfarwolion Elusennol eisiau ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr newid cymunedol, felly bydd pob categori hefyd yn cydnabod:
- Young Changemakers: yn ddelfrydol 11-25 oed, ond hyd at 30 oed dan ystyriaeth.
Croesewir enwebiadau Hanesyddol/Ar ôl Marwolaeth ym mhob categori.
RHAGOR O WYBODAETH
Cyn i chi enwebu, darllenwch y Meini Prawf a’r Holi ac Ateb sy’n cyd-fynd â nhw.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw hanner nos, dydd Gwener 20 Medi 2024 – gallwch ddarganfod mwy ar eu gwefan.