Mae CGGC wedi croesawu tîm bychan o interniaid yn ddiweddar (Emma, Iris a Jennifer) i ymgymryd â’r dasg o gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol.
Mae gwefan Gwirfoddoli Cymru yn lle gwych i fudiadau gysylltu â gwirfoddolwyr posibl ar hyd a lled Cymru, ond gallai rhai o’r disgrifiadau rôl elwa ar gael rhywun i edrych arnynt o’r newydd a rhywfaint o gymorth wedi’i dargedu i hyrwyddo’r rolau gwerthfawr hyn. Mae’r tîm yn fedrus yn y maes cyfathrebu ac mae ganddyn nhw ystod o syniadau arloesol i greu cynnwys a disgrifiadau gwirfoddoli a fyddai’n apelio at wirfoddolwyr iau rhwng 16-25 oed.
Fel llawer o’u cyfoedion, mae gan Emma, Iris a Jennifer gysylltiad personol ag ymladd y newid yn yr hinsawdd, a chredant fod y brwdfrydedd hwn am yr amgylchedd a diogelu’r dyfodol yn cynnig cyfle gwych i gael mwy fyth o bobl ifanc i wneud gwaith gwirfoddol amgylcheddol.
Mae CGGC eisiau gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd sy’n cael eu postio ar Gwirfoddoli Cymru o ddiddordeb i ddarpar wirfoddolwyr, ac rydym mor falch o fod yn gweithio gyda’r interniaid brwdfrydig hyn sy’n gallu eich helpu chi i ailwampio eich tagiau cynnwys, terminoleg a chyfleoedd er mwyn eich helpu chi i adeiladu eich sylfaen wirfoddolwyr.
Unwaith y bydd y cyfleoedd wedi’u hailwampio, bydd yr interniaid hefyd yn paratoi cyfres o flogiau, erthyglau a chynnwys cyfryngau cymdeithasol i helpu i lywio traffig tuag at y cyfleoedd hyn.
Os oes gennych chi unrhyw gyfleoedd y credwch y gallai elwa ar ychydig o hyrwyddo amgylcheddol, cofiwch gysylltu â’r tîm! Gallwch gysylltu ag Emma ar emorgan@wc001.ddtestsite.co.uk
Cwrdd a’r tîm
Emma
Rwyf wedi ymuno â CGGC fel intern amgylcheddol i helpu i gynyddu’r pobl ifanc sy’n manteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli ar wefan Gwirfoddoli Cymru.
Mae gen i, fel llawer o bobl eraill fy oedran, gysylltiad personol iawn ag ymladd newid yn yr hinsawdd ac yn teimlo ei bod mor bwysig ein bod ni gyda’n gilydd i warchod ein dyfodol. Wrth gwrs, mae hyn yn cynnwys sawl llwybr, o gadwraeth bywyd gwyllt a phlanhigion lleol yng Nghymru yr holl ffordd i wastraff bwyd ac ailgylchu cyfrifol.
Rwy’n gyffrous i fod yma yn CGGC, canolfan y rhwydwaith gwirfoddoli yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr â’r holl fudiadau sydd mor angerddol am y materion hyn ag yr wyf i.
Iris
Rwy’n gyffrous iawn i ddechrau fy interniaeth yma yn CGGC! Ymgeisiais i’r interniaeth hon oherwydd bod CGGC yn mudiad uchelgeisiol ac allgarol gydag agwedd unigryw i greu newid cadarnhaol.
Mae darparu seilwaith ar gyfer y trydydd sector, sylfaen gadarn y gall gwirfoddoli a lles i bawb ffynnu, yn hynod bwysig yn fy marn i. Mae’n anrhydedd i mi fod yn rhan o dîm a fydd yn helpu i wella’r seilwaith hwn trwy gynyddu nifer o chyfleoedd amgylcheddol ar y platfform digidol.
Gydag angerdd penodol dros gynhyrchu cynnwys creadigol, edrychaf ymlaen at gynnwys mwy o bobl ifanc mewn cyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol mewn ffyrdd gwreiddiol ac arloesol. Gan fod gen i ddiddordeb pellach mewn rheoli digwyddiadau, mae’n ddiddorol iawn fy mod i’n gallu cyfrannu a dysgu mwy am y digwyddiad gofod3 sydd ar ddod ac Wythnos y Gwirfoddolwyr 2020.
Jennifer
Fy enw i yw Jennifer Geminiani ac rwy’n un o interniaid newydd CGGC. Fel myfyriwr trydedd flwyddyn yn Prifysgol Caerdydd sy’n astudio Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, rwy’n hynod angerddol am newyddiaduraeth ddarlledu a rheoli digwyddiadau ac rwyf mor gyffrous i fod yn rhan o dîm mor greadigol.
Yn wreiddiol, dwi’n dod o dras Eidalaidd ond cefais fy magu yn yr Almaen. Gan fanteisio ar fy nghefndir rhyngwladol, roeddwn i’n gallu dysgu siarad pedair iaith yn rhugl. Felly gallwch fynd ataf yn Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg yn ogystal a’r Saesneg. Rwyf wastad wedi mwynhau teithio llawer ac rwy’n gobeithio teithio’r byd un diwrnod.