Gwnaeth Heidi wirfoddoli fel Robin gyda chynllun gwirfoddoli Betsi Cadwaladr i gael profiad. Nawr, mae ar ei ffordd i fod yn fydwraig gymwysedig.
Mae Heidi, sy’n 29 oed ac yn fam i ddwy ferch, ar ei hail flwyddyn o gwrs bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r daith y mae wedi bod arni i gyrraedd y pwynt hwn heddiw wedi bod yn un hir.
SUT DECHREUODD Y DAITH
Yn ôl yn 2018, gwnaeth Heidi gwrdd â chynghorydd PACE (Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth), drwy hap, mewn cyfarfod colli pwysau. Awgrymodd hi y dylai Heidi ddod yn Robin Gwirfoddol yn Ysbyty Gwynedd er mwyn cael ychydig o brofiad. Dywedodd Heidi, ‘Helpodd Glenda fi i gamu allan o’n man cysurus’.
Cyfarfu Heidi â Chydlynydd Gwirfoddolwyr y Robinod a wnaeth ei helpu gyda’r gwaith papur, ac erbyn mis Ionawr 2019, roedd hi’n gwirfoddoli ar ward Llifon – y ward famolaeth.
DIWRNOD ARFEROL AR Y WARD
Dechreuodd ei diwrnod fel gwirfoddolwr am 9am yn mynd â phaneidiau o de a choffi at gleifion a’u helpu gyda’u hambyrddau brecwast a’u bwydlenni cinio. Dysgodd Heidi sut i baratoi cynfasau gwely ysbyty’r ffordd gywir, ‘mae’r gyfrinach yn y plygu!’
Treuliodd weddill y sifft yn eistedd gyda chleifion a siarad â nhw, cefnogi mamau newydd a gwneud dyletswyddau anghlinigol eraill, cyn gorffen tua 3pm. Byddai’n gwneud hyn ddwywaith yr wythnos. ‘Roeddwn i’n edrych ymlaen at fy niwrnodau gwirfoddoli, y rhain oedd uchafbwynt fy wythnos.’
Gwyddai staff y ward fod gan Heidi ddiddordeb brwd mewn bydwreigiaeth a gwnaethant roi o’u hamser i siarad â hi am yr hyn roedden nhw’n ei wneud, sut roedden nhw’n ei wneud a pham.
GWIRFODDOLI I YRFA
Amsugnodd Heidi yr holl gyngor a phrofiad a phenderfynodd ymgymryd â chwrs mynediad at addysg uwch mewn gofal iechyd. Ar ôl hyn, gwnaeth gais i Brifysgol Bangor, gan ddechrau ar ei chwrs gradd mewn bydwreigiaeth ym mis Medi 2021. Mae dros 1,000 o ddarpar fyfyrwyr yn ymgeisio i fod ar y cwrs bob blwyddyn, ond dim ond oddeutu 40 ohonynt sy’n cael eu derbyn. Mae Heidi yn gwbl argyhoeddedig fod cael profiad uniongyrchol ar ward mamolaeth wedi bod yn ffactor mawr iddi gael lle ar y cwrs. ‘D’wi ddim yn credu y byddwn i wedi cael lle yn y brifysgol heb fy mhrofiad gwirfoddoli fel Robin’.
O NERTH I NERTH
Yn 2022, cafodd Heidi ei henwebu gan ei chydweithwyr ar y ward am Wobr Arwr Gofalu Amdanoch Chi Coleg Brenhinol y Bydwragedd. Ac enillodd!
Dywedodd Heidi: ‘Mae meithrin perthynas â mam yn rhan hanfodol ac angenrheidiol o’m rôl fel bydwraig dan hyfforddiant. Rydych chi’n dechrau’r diwrnod yn ddieithriaid ond yn gorffen gyda chysylltiad cryf, cefnogol. Rwyf wrth fy modd yn gweld y mamau newydd gyda’u teuluoedd newydd neu estynedig. Mae cefnogi ein holl gleifion ar y ward, waeth pam eu bod nhw yno, yn deimlad gwerthfawr tu hwnt.
‘Peidiwch â ‘nghamddeall i, mae rhai diwrnodau’n anoddach na’i gilydd heb os, ond rwy’n dwli ar fy swydd ac yn methu aros i gymhwyso fel bydwraig ym mis Gorffennaf 2024.
‘Ond, rwyf wastad yn atgoffa fy hun o ble ddechreuais i ar fy nhaith, ac roedd hynny fel Robin Gwirfoddol. Mae Robinod fe chwa o awyr iach ar y wardiau y maen nhw’n eu cefnogi ac rwyf mor ddiolchgar am bopeth a ddysgais yn ystod fy amser fel gwirfoddolwr.’
YNGLŶN Â HELPLU CYMRU
Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i gael diweddariadau ar e-bost, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.
Rydyn ni’n ddiolchgar i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am eu caniatâd i gyhoeddi stori Heidi.