Aeth Abigail o fod yn fyfyriwr gwirfoddol i fod yn arweinydd prosiect cymorth cymheiriaid newydd ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, gyda chymorth Grantiau a arweinir gan Ieuenctid. Darllenwch ei stori.
Gwnaeth Abigail, myfyriwr a oedd yn astudio gwaith ieuenctid, ddechrau fel myfyriwr gwirfoddol ar y prosiect ‘Mind Matters’ a chaiff ei redeg gan Volunteering Matters a oedd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ledled Gwent. Serch cwblhau ei 200 awr o waith maes, parhaodd Abigail i fod yn wirfoddolwr ymrwymedig a, gyda help Grantiau a arweinir gan Ieuenctid, cyllidodd ei menter a arweinir gan ieuenctid ei hun o’r enw Fy Iechyd Meddwl. Enillodd Wobr Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2020 am ei chyfranogiad yn y prosiect hwn.
FY IECHYD MEDDWL
Sylwodd Abigail fod rhai o’r cyfranogwyr yr oedd hi’n gweithio gydag ar ‘Mind matters’ yn ei chael hi’n anodd deall yr wybodaeth a’r deunyddiau a ddefnyddiwyd. Aeth ar gennad i sicrhau bod adnoddau hygyrch yn cael eu creu fel bod pawb, ni waeth be fo’r gallu dysgu, yn cael eu grymuso i drafod eu teimladau gyda’u cymheiriaid.
Menter a arweinir gan ieuenctid yw’r prosiect Fy Iechyd Meddwl sy’n cyflwyno gweithdai a arweinir gan gymheiriaid ar iechyd meddwl a phwysigrwydd llesiant cadarnhaol i’r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Mae’r gweithdy yn ymdrin ag amrediad o bynciau gan gynnwys dealltwriaeth well o beth yw iechyd meddwl, strategaethau ymdopi y gall unrhyw un ei wneud er ei fwyn ei hunan neu i helpu ei gymheiriaid a phwysigrwydd llesiant cadarnhaol ar ein hiechyd meddwl.
EFFAITH CYFRANOGIAD IEUENCTID
O ysgrifennu cais cymhellol i Grantiau a arweinir gan Ieuenctid Cynghrair Gwirfoddol Torfaen i hwyluso sesiynau addysgol, chwaraeodd Abigail ran fawr ym mhob cam o’r broses. Amlygodd ei hymrwymiad i gyfranogiad a arweinir yn wirioneddol gan ieuenctid drwy wrthod y teitl Arweinydd Gwirfoddolwyr. Yn lle hynny, cyflwynodd ei hun fel Hyrwyddwr fel pawb arall er mwyn osgoi unrhyw hierarchaeth.
Defnyddiodd Abigail y prosiect fel cyfle dysgu i gael goleuni pellach ar weithio gyda’r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol. Wrth gyflwyno ei sesiynau, roedd yn gwerthfawrogi cyfraniadau ac effaith y gwirfoddolwyr, gan ddweud yn aml ‘maen nhw’n fy nysgu i!’
Yn hytrach na chanolbwyntio ar dasgau amgyffred ysgrifenedig traddodiadol, aeth Abigail ati i gynnig pethau a oedd o ddiddordeb i’r Hyrwyddwyr drwy gynnwys crefftau. Cynorthwyodd bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i ddatblygu pecyn cymorth hygyrch ar gyfer pobl ifanc eraill ag ADY a oedd yn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a phwysigrwydd llesiant.
Anogodd Abigail ei Hyrwyddwyr i gyflwyno’u pecyn cymorth i bobl ifanc eraill a’u grymuso i egluro’r hyn roedden nhw wedi’i greu a sut oedd yn gallu helpu i wella llesiant rhywun. Gyda’i gilydd, fe wnaeth hi a’r Hyrwyddwyr eraill gyflwyno i fwy na 50 o bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol mewn canolfannau ieuenctid ac ysgolion uwchradd, a darparodd y rhain adborth ar y pecyn cymorth a grëwyd.
‘Roedd Abigail yn awyddus i ddatblygu ei hun a dysgu mwy am ymarfer gwaith ieuenctid – ac roedd wrth ei bodd i gyflwyno i mi fod 49% o gynnydd yn yr ymwybyddiaeth yr oedd gan ei chyfranogwyr o iechyd meddwl; cynnydd y gwnaeth hi helpu’n uniongyrchol i’w gyflawni!’ meddai Ryan Crewe-Rees, Rheolwr Prosiect Pobl Ifanc
‘Mae arddull cyflwyno Abigail yn ymgorffori gwir natur dull gweithredu llawr gwlad yn fy marn i’ ychwanegodd.
GRANTIAU A ARWEINIR GAN IEUENCTID
Mae’r Grantiau a arweinir gan Ieuenctid, a ddosberthir gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) ar hyd a lled Cymru, yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau gwirfoddoli bach a gweithgareddau a arweinir ac a gyflawnir gan bobl ifanc. Yn 2020/21, cyllidwyd y prosiectau i fynd i’r afael â chwe maes blaenoriaethol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a allai wneud y cyfraniad mwyaf i ffyniant a llesiant hirdymor.
I ddysgu mwy am wirfoddoli i bobl ifanc yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ‘Gwneud gwirfoddoli ymysg pobl ifanc yn anhygoel yng Nghymru!‘ lle byddwn yn archwilio arfer gorau a sut y gallwn sicrhau profiadau cadarnhaol i wirfoddolwyr ifanc.