A group of people stand in front of the horizon, the light showing only their silhouettes as they make shapes

Nodyn Atgoffa: Gweithdrefnau Diogelu newydd ar gyfer Cymru

Cyhoeddwyd : 13/01/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth |

Lansiwyd Gweithdrefnau Diogelu newydd Cymru ym mis Tachwedd 2019

Mae’n rhaid i elusennau a mudiadau yn y sector gwirfoddol fod yn ymwybodol o’r gweithdrefnau diogelu cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru a lansiwyd ym mis Tachwedd 2019.

Mae’r gweithdrefnau’n manylu ar rolau a chyfrifoldebau hanfodol i ymarferwyr er mwyn sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso.  Maen nhw wedi eu cynllunio i safoni ymarfer ar draws Cymru a helpu ymarferwyr i roi’r canllawiau statudol ar waith yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Pwrpas y gweithdrefnau hyn yw llywio ymarfer diogelu i bawb a gyflogir yn y sector statudol, y trydydd sector (gwirfoddol) a’r sector preifat ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, yr heddlu, cyfiawnder a gwasanaethau eraill. Maent yn berthnasol i bob ymarferydd a rheolwr sy’n gweithio yng Nghymru – boed hwnnw’n gyflogedig gan asiantaeth ddatganoledig neu sydd heb ei datganoli.

Gallwch weld y gweithdrefnau ar y wefan Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Mae’r gweithdrefnau ar gael hefyd fel ap defnyddiol y gellir ei lwytho i lawr i’ch ffôn. Mae’r ap ar gael gan Google Play ac Apple.

Eisiau gwybod mwy? Beth am ddarllen y Cwestiynau Cyffredin

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

CLlLC yn amlygu pwysau ariannu ‘anghynaladwy’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy